Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae ymrwymiad i adolygu'r swyddogaethau comisiynu cenedlaethol, er mwyn cryfhau gweithgarwch cenedlaethol a sicrhau bod y trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd yn eglur.
Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o swyddogaethau comisiynu cenedlaethol, a daeth yr adolygiad hwnnw i ben ym mis Mai 2023. Roedd yr adolygiad yn cynnwys y swyddogaethau hynny a oedd yn cael eu cyflawni gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, a'r Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol ar ran byrddau iechyd lleol, gan ymchwilio i gyfleoedd a gwersi a ddysgwyd er mwyn nodi a gweithredu gwelliannau pellach mewn gweithgarwch comisiynu. Fe wnaeth yr adroddiad terfynol gyfres o argymhellion sy'n ymwneud â gwelliannau cyffredinol i'r ffordd y byddai trefniadau'r Cyd-bwyllgor yn gweithio, yn ogystal ag argymhellion sy'n ymwneud yn benodol â'r Cyd-bwyllgor ei hun.
Roedd yr argymhellion yn cynnwys sefydlu un Cyd-bwyllgor sengl newydd a fyddai'n symleiddio'r trefniadau comisiynu presennol, ochr yn ochr â defnyddio enw newydd er mwyn pwysleisio'r ffaith nad cyfuniad o'r Cyd-bwyllgorau presennol a'u timau yw'r Cyd-bwyllgor newydd.
Yn ogystal ag adeiladu ar waith y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol, yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol, a'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys blaenorol, bydd y Cyd-bwyllgor newydd hefyd yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau 111 a Chanolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol. Bydd yn helpu i adeiladu capasiti comisiynu cenedlaethol ar draws y system iechyd yng Nghymru ar adeg pan welwn fod y galw a'r heriau yn cynyddu o ran sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy ac yn deg yn y dyfodol.
Cafodd rhaglen weithredu ei chychwyn, gan weithio'n gyflym i sicrhau bod y ddeddfwriaeth, trefniadau llywodraethu, penodiadau, trefniadau ymgysylltu â staff, a'r rhaglen ymgynghori a newid angenrheidiol ar waith gyda’r nod o sefydlu'r Cyd-bwyllgor newydd erbyn 1 Ebrill 2024. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen weithredu.
Yn dilyn proses recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus, rwy'n falch o gyhoeddi mai Ian Green fydd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Comisiynu newydd GIG Cymru, ac y bydd yn cael ei gefnogi gan Dr Paul Worthington, Nia Roberts a Susan Elsmore fel Aelodau Lleyg annibynnol o'r Cyd-bwyllgor.
Mae gan Ian fwy na 25 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau arweinyddiaeth proffil uchel yn y sectorau gwirfoddol, iechyd, llywodraeth leol, tai a gofal cymdeithasol, a'r rheini'n rolau gweithredol ac anweithredol.
Mae gyrfa Paul yn cynnwys 25 mlynedd yn gweithio yn y GIG mewn swyddi uwch-reoli, comisiynu a chynllunio, ac mae gan Susan brofiad eang o weithio ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector, ac yn ddiweddar bu'n gwasanaethu am ddau dymor fel Aelod Annibynnol o'r Bwrdd Iechyd. Mae gan Nia gefndir cyfreithiol ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl gyda gyrfa yn y sector cyhoeddus sy'n ymestyn am gyfnod o dros 20 mlynedd. Gyda'i gilydd, maent yn dod â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad helaeth ac amrywiol i'r Cyd-bwyllgor Comisiynu.
Abigail Harris sydd wedi ei phenodi'n Brif Gomisiynydd dros dro ar gyfer y Cyd-bwyllgor, a bydd yn cydweithio'n agos gydag Ian wrth arwain Tîm y Cydbwyllgor Comisiynu drwy'r cyfnod sefydlu nesaf.
Ar hyn o bryd, Abi yw Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n dod â phrofiad amrywiol i'r rôl newydd hon, sef profiad sy’n cynnwys treulio amser mewn sefydliadau comisiynu, llywodraeth leol, polisi cenedlaethol a'r ddarpariaeth o wasanaethau arbenigol.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.