Neidio i'r prif gynnwy

Adolygu asesiadau o anghenion astudio

O 01 Mawrth 2022 ymlaen, bydd y polisi sy'n ymwneud ag adolygu asesiadau o anghenion astudio yn newid, ac ystyrir cynnig adolygiadau y gellir eu cyllido.

Bydd y canlynol yn arwain at adolygiad o asesiad o anghenion y gellir ei gyllido hyd at gyfanswm o £300: 

  • Amod newydd: pan fo myfyriwr yn dangos cyflwr nas nodwyd yn ei asesiad cychwynnol o anghenion astudio.
  • Seibiant astudio 2 flynedd: pan fo myfyriwr wedi cael mwy na 2 flynedd o seibiant astudio.
  • 5 mlynedd o'r asesiad cychwynnol: pan nad yw'r un o'r uchod yn berthnasol, ond pan fo 5 mlynedd neu ragor wedi mynd heibio ers asesiad gwreiddiol o anghenion astudio y myfyriwr.

Ni fydd y canlynol yn arwain at adolygiad o asesiad o anghenion y gellir ei gyllido: 

  • Cyflwr wedi gwaethygu: pan fo argymhellion wedi cael eu gwneud o ganlyniad i gyflwr presennol y myfyriwr, rhaid i'r myfyriwr gael ei atgyfeirio yn ôl at y ganolfan asesu wreiddiol i sicrhau bod yr argymhellion presennol yn parhau'n addas i'r diben. Gellir gwneud argymhellion newydd fel sy'n briodol. 
  • Adolygiad ar gais y myfyriwr: gall myfyriwr ofyn am adolygiad o'i anghenion unrhyw bryd. Rhaid i'r adolygiad hwn gael ei gynnal gan y ganolfan asesu wreiddiol. Gellir gwneud argymhellion newydd fel sy'n briodol.
  • Newid cwrs: pan fo myfyriwr yn newid o gwrs israddedig i gwrs ôl-raddedig seiliedig ar ymchwil.

Os na all y ganolfan asesu wreiddiol gwblhau'r adolygiad, rhaid cynghori'r myfyriwr i gysylltu â Cyllid Myfyrwyr Cymru, a fydd yn ystyried chwilio am ganolfan asesu arall. 

Yn unol â SFWIN 07/2021, gall myfyrwyr ofyn am adolygiad wyneb yn wyneb neu adolygiad o bell, yn dibynnu ar y math o adolygiad sydd ei angen a’r cyfyngiadau COVID-19 sydd gan Lywodraeth Cymru mewn grym ar y pryd. 

Mae'r broses ar gyfer hawlio adolygiad o asesiad o anghenion astudio yn parhau'r un fath â'r broses ar gyfer hawlio asesiad cychwynnol o anghenion astudio. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau'n ymwneud ag anfonebau a thaliadau at SFW_invoice_team@slc.co.uk.