Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />
Cyfraith [yr UE a ddargedwir] sy'n cael ei diwygio
Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru
Mae'r OSau (pan fônt yn berthnasol i Gymru) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn pan fo gofyn inni ystyried a chywiro nifer digyffelyb o ddarnau deddfwriaeth o fewn amserlen dynn gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw ein bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar gyfer nifer mawr o offerynnau statudol.
Diben y diwygiadau
Diben y diwygiadau yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n codi oherwydd bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac sy’n ymwneud â ‘materion na ellir eu gweithredu’ yn yr Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 (IRR (BSSD) 2018).
Mae'r OSau a'r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gyda nhw, ac sy'n nodi effaith pob un o'r diwygiadau, ar gael yma: https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae hyn yn unol â’r egwyddorion ar gyfer cywiro y cytunwyd arnynt ym mis Mai gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Bontio Ewropeaidd.