Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad o anghenion iechyd y boblogaeth

Mae asesiad o anghenion iechyd a lles plant a phobl ifanc yn fan cychwyn pwysig i gynllunio gwasanaethau er mwyn gwella iechyd a lles yn ystod oedran ysgol. Y ffocws yw’r boblogaeth plant a phobl ifanc ar gyfer y clwstwr o ysgolion y mae gan wasanaethau nyrsio ysgol gyfrifoldeb amdanynt, yn hytrach nag asesiad o anghenion iechyd ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc.

Wrth gynnal asesiadau o anghenion iechyd poblogaeth, mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau nyrsio ysgolion yn deall y cryfderau a'r heriau i iechyd a lles yn y boblogaeth, gan gynnwys nodi anghenion ychwanegol grwpiau agored i niwed fel:

  • plant mewn gofal
  • teithwyr
  • ceiswyr lloches
  • ffoaduriaid
  • y rhai ag anghenion iechyd cymhleth

Mae gwasanaethau nyrsio ysgolion yn codi ymwybyddiaeth o'r anghenion a nodwyd yn lleol, er enghraifft drwy bresenoldeb galw heibio, ac yn cefnogi datblygiad ymyriadau iechyd cyhoeddus cyffredinol neu wedi'u targedu mewn partneriaeth â disgyblaethau ac asiantaethau proffesiynol eraill.

Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cynnal asesiad o anghenion iechyd y boblogaeth ar gyfer pob un o'r clwstwr o ysgolion a ddyrennir iddynt. Bydd yr asesiad yn ystyried anghenion iechyd pob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol, waeth beth fo'u lleoliad.

Bydd asesiad o anghenion iechyd y boblogaeth yn cael ei gwblhau bob blwyddyn yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn academaidd (Medi i Rhagfyr). Mae hyn yn galluogi gwasanaethau nyrsio ysgolion i ystyried ffynonellau gwybodaeth eraill sydd gan ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft asesiadau llesiant, a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae angen adolygu'r asesiadau hyn yn flynyddol i adlewyrchu unrhyw bryderon neu broblemau iechyd cyhoeddus sy'n dod i'r amlwg. Mae cyfoeth o ddata meintiol ac ansoddol ar gael i wasanaethau nyrsio ysgolion am iechyd y boblogaeth leol y gellir ei gulhau i'r ardal leol a'i gymharu â data rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer cymharu a meincnodi.

Dyma rai dangosyddion:

  • plant mewn tlodi (o dan 16 oed)
  • y nifer sy'n manteisio ar imiwneiddio
  • tynnu dannedd
  • gordewdra mewn plant
  • derbyniadau ar gyfer cyflyrau sy'n benodol i alcohol (dan 18 oed)
  • cyfraddau ysmygu a fêpio
  • cyfraddau beichiogrwydd pobl ifanc yn eu harddegau
  • cyfraddau absenoldeb mewn addysg

Gan ddefnyddio'r asesiad o anghenion iechyd y boblogaeth, bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio, eu datblygu a'u darparu’n effeithiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant y cyhoedd ar gyfer y boblogaeth darged. Yn unol â'r model gweithredu, bydd meysydd effaith uchel allweddol sy'n adlewyrchu angen iechyd y boblogaeth yn cael eu blaenoriaethu a'u nodi.

Tra'n cael ei arwain gan wasanaethau nyrsio ysgolion, mae'r dull hwn yn cefnogi cydweithio a darparu integredig. Bydd yn cael ei ddarparu gan dimau gyda gwahanol gymysgedd o sgiliau, gyda gweithwyr iechyd yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o weithlu ehangach GIG Cymru a gwasanaethau cyhoeddus.