Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei dîm Gweinidogol i weithio dros Gymru llawn optimistiaeth, uchelgais a chyfleoedd.
Dywedodd Vaughan Gething:
Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth. Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.
Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net. I adlewyrchu ein nod o sicrhau ffyniant gwyrdd, rydym wedi creu swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.
"Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth. Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny. Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto.
- Y Prif Weinidog - Vaughan Gething
- Y Darpar Gwnsler Cyffredinol - Mick Antoniw
- Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg - Jeremy Miles
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Eluned Morgan
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet - Rebecca Evans
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio - Julie James
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Lynne Neagle
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth - Ken Skates
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - Huw Irranca Davies
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol - Lesley Griffiths
- Y Prif Chwip a’r Trefnydd - Jane Hutt
- Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol - Hannah Blythyn
- Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar - Jayne Bryant
- Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden