Jayne Bryant AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Cynnwys
Cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Gweithgareddau Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
- Cyflenwad ac ansawdd tai'r farchnad, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
- Yr Is-adran Tir
- Ail Gartrefi
- Digartrefedd a chyngor ar dai
- Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Cymhorthion ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol
- Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai)
- Y Cynllun Cartrefi Cynnes
- Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
- Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; Trawsnewid Canol Trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio
- Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydlynu modelau cydweithio rhanbarthol
- Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
- Materion yn ymwneud â pherfformiad, llywodraethiant a chyfansoddiad Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth
- Gwasanaethau Tân ac Achub gan gynnwys diogelwch tân cymunedol
- Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol
- Polisi a deddfwriaeth etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol
- Polisi cyllid Llywodraeth Leol gan gynnwys diwygio ariannol
- Rhoi cyllid heb ei neilltuo i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy setliadau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol
- Llywodraethiant ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol
- Materion yn ymwneud â gweithlu Llywodraeth Leol
- Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Academi Wales
*Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am bolisi, perfformiad, cyllid a llywodraethiant Llywodraeth Leol ond nid yw’n gyfrifol am swyddogaethau pob dydd Llywodraeth Leol a dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch y swyddogaethau hynny at Lywodraeth Leol yn uniongyrchol.
Bywgraffiad
Cafodd Jayne Bryant ei geni a'i magu yng Nghasnewydd, ac etholwyd yn Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd yn 2016. Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd, ac roedd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Wedi’i hail-ethol yn 2021, enwebwyd Jayne i gadeirio'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd hon, a bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Cadeiriodd Jayne Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddiabetes, ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, ar y Celfyddydau ac ar Iechyd ac Atal Hunanladdiad, a bu’n Is-gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddementia ac Undod Rhwng Cenedlaethau.
Trwy gydol ei bywyd gwaith mae Jayne wedi ceisio helpu i eirioli dros bobl a'u cefnogi ac mae'n arbennig o angerddol am annog pobl ifanc i fod yn weithgar ac ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan gredu bod gwleidyddiaeth yn bwysig a bod rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog iddi.
Penodwyd Jayne yn Weinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar ar 21 Mawrth 2024.
Ar 11 Medi 2024, penodwyd Jayne yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.