Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd) 
  • Jane Hutt AS
  • Julie Morgan AS 

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder 
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Ailgychwyn ac Adfer
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyfiawnder
  • Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Cymunedol
  • Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Bethan Phillips, Uwch-ysgrifennydd Preifat i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
  • Lowri Lloyd-Hughes, Uwch Ysgrifennydd Preifat i'r Cwnsler Cyffredinol
  • Adam Turbervill, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Merisha Weeks, Polisi Cyfiawnder
  • Tony Jones, Polisi Cyfiawnder
  • Andrew Felton, Polisi Cyfiawnder
  • Fiona Green, Polisi Cyfiawnder
  • James Searle, Diogelwch Cymunedol

Mynychwr allanol

  • Y Fonesig Vera Baird CB, Cynghorydd Arbenigol Annibynnol ar Ddatganoli Cyfiawnder 

Eitem 1: Diweddariad ar ddatganoli cyfiawnder

1.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yr eitem a gofynnodd i James Gerard gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch i baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a phlismona ac effaith datblygiadau diweddar.

1.2 Roedd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyflwyno adroddiad yn ddiweddar ac yn fwyaf nodedig nid oedd y grŵp wedi cael unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol i wrthddweud casgliadau Comisiwn Thomas y dylai cyfiawnder a phlismona gael eu datganoli i'r Senedd a Llywodraeth Cymru.

1.3 Roedd yr adroddiad yn nodi hefyd y gellid cyflawni datganoli heb aflonyddwch mawr, drwy raglen waith a arweinir ar y cyd gan Lywodraethau'r DU a Chymru, a fyddai'n cael y dasg o gytuno ar amserlen a chynllun gweithredu, a fyddai'n debygol o gymryd rhyw 10 mlynedd i'w gyflawni. Y gwasanaethau mwyaf syml i ddechrau'r broses ddatganoli fyddai plismona, cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.

1.4 Roedd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ymgynghori â'i haelodaeth ar ei gweledigaeth ar gyfer 2030 i'r sector cyfiawnder a chyfreithiol yng Nghymru, ac roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chanolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru a'r undebau llafur cyfiawnder, ac roedd pob un o blaid datganoli pellach.

1.5 Byddai rhaglen waith yn ymwneud â chyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf, plismona a gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu drwy gydol 2024.

1.6 Croesawyd y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i symud tuag at ddatganoli cyfiawnder gan yr Is-bwyllgor.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
Chwefror 2024