Cyfarfod y Cabinet: 5 Chwefror 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 5 Chwefror 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 29 Ionawr.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Tata Steel
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef a Gweinidog yr Economi, wedi cyfarfod â TV Narendran, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel, y dydd Iau blaenorol.
Ystad y Goron - digwyddiad cylch 5 ar gyfer lesio gwynt arnofiol ar y Môr Celtaidd.
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef, a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi mynychu digwyddiad Cylch 5 Ystad y Goron ar gyfer lesio gwynt arnofiol ar y Môr Celtaidd yn Abertawe y dydd Mercher blaenorol. Y bwriad oedd ceisio sefydlu sector gwynt arnofiol newydd yn y Môr Celtaidd oddi ar arfordiroedd De Cymru a De-orllewin Lloegr. Disgwylir i hyn fod y cam cyntaf mewn datblygiad masnachol.
Ymchwiliad COVID-19 – Yr Alban
2.3 Nododd y Cabinet fod yr Ymchwiliad COVID-19 wedi gorffen cymryd tystiolaeth ar Module 2A - Core UK decision-making and political governance in relation to Scotland. Roedd disgwyl i'r Ymchwiliad ddechrau cynnal sesiynau tystiolaeth sy'n benodol i Gymru ar gyfer y Modiwl yng Nghaerdydd tua diwedd y mis.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 8.05pm ddydd Mawrth a thua 6.40pm ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2024