Agweddau busnes ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle (crynodeb)
Gwnaeth yr ymchwil hon arolwg o sefydliadau busnes menter fach a chanolig (BBaCh) a leolir yng Nghymru ym mis Hydref 2023. Nodwyd sefydliadau busnes trwy berchnogaeth llinell ffôn busnes. Nod yr arolwg oedd deall canfyddiadau ac agweddau busnesau yn well at y newidiadau i ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cafodd Beaufort Research eu comisiynu gan Adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru Beaufort Research i gynnal arolwg o fusnesau Cymru, i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau ynghylch y newidiadau a gynigir i'r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle.
Yn ogystal â gwella ansawdd a lefelau ailgylchu, mae'r newidiadau'n hanfodol hefyd i Gymru allu gwireddu ei hymrwymiadau i fod yn ddiwastraff ac i leihau'n hallyriadau carbon erbyn 2050. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith nifer o gamau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, Mwy Nag Ailgylchu.
Yn ogystal â'r arolwg busnes hwn, cynhaliwyd dau arolwg ar wahân ar agweddau a chanfyddiadau'r cyhoedd ynghylch y newidiadau deddfwriaethol yn y gweithle. Cawsant eu cynnal fisoedd Chwefror-Mawrth 2023[troednodyn 1] a mis Tachwedd 2023.
Methodoleg
Roedd yr arolwg yn seiliedig ar Arolwg Omnibws Busnes Cymru Beaufort sy’n cyfweld fesul carfan â sampl cwota o 500 o bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn busnesau bach a chanolig ledled Cymru, ac sy’n adlewyrchu busnesau bach a chanolig Cymru o ran nodweddion demograffig allweddol. Cyfwelir â set wahanol o fusnesau fesul carfan, er bod samplau'n cyfateb o ran eu nodweddion busnes allweddol.
Gosodwyd cwotâu a oedd yn cyfateb o ran gweithgareddau a maint busnesau o fewn rhanbarth, yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan Market Location, darparwr data busnes ac atebion marchnata. Rhannwyd gweithgareddau busnesau yn y grwpiau canlynol gan ddefnyddio Dosbarthiad Diwydiannol Safon y DU (2007):
- Cyfanwerthu a Manwerthu
- Gwestai, bwytai a gwasanaethau eraill
- Amaethyddiaeth, pysgota, mwyngloddio a chyfleustodau
- Gweithgynhyrchu
- Adeiladu, trafnidiaeth/cyfathrebu
- Cyllid, eiddo tiriog/gweithgareddau busnes
Mae maint yn adlewyrchu nifer y gweithwyr ac fe'i rhannwyd yn y categorïau canlynol: 1; 2 i 9; 10 i 250 o weithwyr.
Dewiswyd sampl o fusnesau ar hap gan Market Location a chysylltwyd â busnesau o fewn pob grŵp gweithgareddau a rhanbarth a chyfwelwyd â nhw ar hap nes i'r targedau cwota gael eu bodloni.
Diffiniwyd ymatebwyr cymwys fel rheolwr, perchennog, rheolwr-gyfarwyddwr neu uwch-reolwr arall a oedd yn bresennol adeg y cyfweliad.
Cafodd cwestiynau'r arolwg eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Cafodd fersiynau terfynol o’r cwestiynau hyn eu cwblhau yn dilyn trafodaethau â Beaufort.
Gofynnwyd cwestiynau agored a chaeedig. Rhoddwyd opsiynau i'r cyfranogwyr ddewis ohonynt pan ofynnwyd cwestiwn caeedig. Yn y cam dadansoddi, cafodd atebion i gwestiynau agored eu categoreiddio â llaw yn godau penodol er mwyn gallu mesur nifer yr atebion. Cynhaliwyd dull anwythol o gynhyrchu codau oedd yn golygu adolygu atebion penagored a chynhyrchu fframiau codau yn seiliedig ar gynnwys yr atebion. Am ei bod yn bosibl rhoi nifer o godau i ateb gan un ymatebwr, bydd canran yr atebion yn erbyn pob cod yn gwneud cyfanswm o fwy na 100 y cant.
Roedd yr arolwg ar gael yn Saesneg ac yn y Gymraeg a gellid ei gwblhau yn yr iaith oedd orau gan y cyfranogwyr.
Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 2 Hydref ac 22 Hydref 2023. Cwblhawyd a dadansoddwyd cyfanswm o 502 o gyfweliadau dros y ffôn.
Rhoddwyd tablau data llawn o'r arolwg i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad technegol ar wahân.
Mae Arolwg Omnibws Cymru yn defnyddio samplu cwota lleoliad cyfrannol Market Location (nid samplu ar hap) i adlewyrchu busnesau bach a chanolig Cymru. Felly, mae unrhyw ganfyddiadau yn yr arolwg hwn yn adlewyrchu barn y sampl a dylid cymryd gofal wrth drosi unrhyw ganfyddiadau i'r corff ehangach o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau
- Dywedodd 65% o BBaChau a holwyd eu bod eisoes yn ailgylchu popeth y gallant.
- Ar hap, dywedodd 42% o'r busnesau bach a chanolig a holwyd eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau i'r gyfraith.
- Yn yr un modd, pan gawsant eu hysgogi ag esboniad o'r newid yn y gyfraith, dywedodd 47% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi clywed am y gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd, ond dim ond 16% o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn 'gwybod cryn dipyn amdani'.
- Roedd 79% o'r BBaChau a holwyd o blaid newid y gyfraith. Roedd 11% o'r ymatebwyr a holwyd yn erbyn y newid yn y gyfraith.
- Dywedodd 49% o'r BBaChau a holwyd nad oeddent yn teimlo'n wybodus am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i baratoi ar gyfer y newid yn y gyfraith. Er gwaethaf hyn, roedd 66% o'r BBaChau a holwyd yn teimlo eu bod yn barod 'iawn' neu'n 'weddol' barod.
- Dywedodd 22% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi ymchwilio i sut y gallai'r rheoliadau newydd effeithio arnynt.
- Dywedodd 28% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi gweld neu wedi clywed cyfathrebiad am y newid i'r gyfraith.
- Pan ofynnwyd iddynt am brif neges unrhyw gyfathrebiadau a welsant, y themâu mwyaf cyffredin a nodwyd oedd yr angen i fusnesau ailgylchu (32% o'r BBaChau a holwyd), neu fod gofyniad cyfreithlon newydd yn yr arfaeth (25% o'r BBaChau a holwyd).
- Pan chwaraewyd clip o'r hysbyseb radio iddynt, roedd 16% o'r BBaChau a holwyd yn cofio ei chlywed ar y radio.
- I'r rhai a oedd yn cofio clywed yr hysbyseb, rhoddwyd rhestr o gamau gweithredu a gofyn a oeddent wedi cymryd unrhyw un ohonynt ar ôl clywed yr hysbyseb. O'r 160 o BBaChau a holwyd a oedd yn cofio clywed yr hysbyseb radio:
- dywedodd 83% nad oedden nhw wedi gwneud unrhyw un o'r camau a restrir
- dywedodd 17% o'r BBaChau a holwyd eu bod wedi gweithredu am iddyn nhw glywed hysbyseb yr ymgyrch
- roedd 7% wedi mynd ar wefan Llywodraeth Cymru
- roedd 6% wedi cysylltu â'u hawdurdod lleol
- roedd 4% wedi cysylltu â'u cludwr gwastraff preifat
Troednodiadau
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Rhian Power a Hannah Davies
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhian Power a Hannah Davies
Ebost: resourceefficiencyandcirculareconomy@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 24/2024
ISBN digidol 978-1-83577-825-8