Gwybodaeth am wariant, Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac ardaloedd adnewyddu ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cymorth ar gyfer gwelliannau tai
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am gymorth ariannol a ddarperir gan awdurdodau lleol ar gyfer gwella ac atgyweirio cartrefi. Mae'n cynnwys gwybodaeth am grantiau cyfleusterau i'r anabl (DFGs). Mae’r cymorth wedi'i anelu'n bennaf at wella tai sector preifat ond mae hefyd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol trwy gynlluniau adnewyddu tai.
Gwariant cyffredinol
- Yn 2022-23, y gwariant cyffredinol ar gymorth ar gyfer gwella tai (gan gynnwys DFGs) oedd £46.6 miliwn.
- Hon oedd yr ail flwyddyn o wariant cynyddol yn dilyn lefel isel o ychydig o dan £30 miliwn yn 2020-21, gan ddychwelyd at y gwariant cyn y pandemig.
Grantiau cyfleusterau i'r anabl (DFGs)
- O'r gwariant cyffredinol, gwariwyd £35.3 miliwn (75.8%) ar DFGs gorfodol.
- Y gwariant cyfartalog fesul DFG gorfodol oedd £9,000.
Gwella tai (ac eithrio DFGs)
- Yn 2022-2023, gwariwyd £9.1 miliwn ar wella tai drwy grantiau’r awdurdodau lleol, benthyciadau, cymorth trydydd parti a chyfraniadau preswylwyr.
- Cafodd cyfanswm o 3,750 o anheddau eu gwella drwy’r gwariant hwn, i fyny 5% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol ond yn dal yn is na chyn y pandemig.
- Y gwariant cyfartalog fesul annedd oedd £2,000, sy'n gyson â'r 10 mlynedd diwethaf.
Ardaloedd adnewyddu
Mae cynlluniau adnewyddu ar sail ardal yn galluogu’r awdurdodau lleol i ganolbwyntio gweithgarwch a buddsoddiad ar ardal lle mae problemau cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu cyfuno â thai gwael.
- Mae gwariant ardaloedd adnewyddu wedi gostwng yn raddol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o £33.6 miliwn yn 2012-13 i £295,000 yn 2022-23.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.