Gall Martin Padfield, 49 oed, a gollodd ei goes 24 o flynyddoedd yn ôl, ymuno yn llawn yn yr hwyl gyda thîm pêl-droed ei fab unwaith eto wedi iddo gael pengliniau prosthetig arbenigol a reolir gan ficrobrosesydd diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Martin yn un o 80 o bobl ar draws Cymru y trawsnewidiwyd eu symudedd gan Bengliniau Prosthetig a Reolir gan Ficrobrosesydd (MPK), ers lansio'r gronfa £700,000 gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl.
Rhannwyd y cyllid ar draws y tair Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC) yn Abertawe, Caerdydd a Wrecsam.
Mae MPK yn ben-glin prosthetig, a ddefnyddir gan bobl sydd wedi colli eu coes ar neu uwchben y pen-glin. Mae'n gwella ansawdd bywyd pobl trwy sicrhau'r symudedd a'r defnydd gorau posibl.
Mae'r pen-glin prosthetig yn defnyddio technoleg gyfrifiadurol i roi mwy o sefydlogrwydd ac i alluogi cerdded yn fwy diogel, ac mae'n monitro patrwm cerdded y defnyddiwr yn gyson yn dibynnu ar ei bwysau a'i gyflymder - gan ei wneud yn haws iddo symud ar lethrau, grisiau, ac arwynebau anwastad.
Mae Martin Padfield wedi hyfforddi tîm pêl-droed dan 13 oed ei fab ers 7 mlynedd ac mae hefyd yn rheolwr peirianneg mewn diwydiant cynhyrchu bwyd prysur. Mae'n byw bywyd egnïol yn y gwaith ac yn ei amser hamdden.
Cafodd Martin ddamwain ffordd ym mis Awst 2000 ac fe gollodd ei goes o dan y pen-glin.
Flwyddyn yn ddiweddarach, wedi cymhlethdodau pellach, roedd rhaid iddo golli ei goes uwchben y pen-glin. O ganlyniad roedd allan o waith am bron i dair blynedd.
Yn 2021, cafodd Martin wybod gan dîm Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Abertawe y byddai'n gymwys i gael MPK.
Dywedodd Martin Padfield:
Ar ôl colli fy nghoes, fe wnes i ymchwilio'n gyson i ddarganfod beth oedd ar gael i mi. Fe wnes i ddarllen eu bod nhw wedi trawsnewid bywyd pobl a oedd yn byw bywyd egnïol fel fi.
Cyn 2021, dim ond i gyn-filwyr oedd MPKs ar gael. Felly, edrychais ar ffyrdd o brynu'r gorau i mi fy hun. Ar un adeg, meddyliais am ail-forgeisio fy nhŷ, ond es i ddim mor bell â hynny.
Felly, pan glywais fy mod i wedi cael fy newis i gael MPK, alla i ddim rhoi mewn geiriau pa mor hapus o'n i. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i bob agwedd ar fy mywyd o’r diwrnod cyntaf.
Mae popeth y gallaf ei wneud gydag o wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Mae wedi bod yn chwyldroadol.
Ychwanegodd:
Dw i wedi bod yn hyfforddi’r bechgyn ers saith mlynedd. Ro’n i'n arfer chwarae pêl-droed cyn fy namwain ac roedd hyfforddi’r tîm yn ffordd i mi gael fy niddordeb mewn chwarae pêl-droed yn ôl eto. Ond mae’r MPK yn golygu y gallaf ymuno’n llawnach erbyn hyn, a gwneud mwy na dim ond sefyll ar y llinell ochr a siarad.
Cyn cael yr MPK, ro'n i'n syrthio yn aml. Byddai'n rhaid i mi ganolbwyntio a meddwl mwy pan o’n i'n cerdded ar dir anwastad neu ar lethr.
Nawr, mae gen i hyder 100% yn fy nghoes - weithiau dw i'n anghofio ei fod yno.
Dw i'n gwneud popeth mor rhwydd a hyderus o ddydd i ddydd.
Dw i mor ddiolchgar fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis i gael MPK. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd fy mywyd a dw i'n siŵr y byddai unrhyw un arall yn cael yr un profiad hefyd.
Ro’n i'n fachgen lwcus. Gallai'r darlun fod wedi bod yn llawer iawn tywyllach. Mae bywyd yn dda nawr; does gen i ddim byd i gwyno amdano o gwbl.
Diolchodd Martin i dîm ALAC Abertawe am eu hymrwymiad i sicrhau ei fod yn cael y gofal a'r gefnogaeth orau drwyddi draw.