Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyma bumed flwyddyn y trefniadau cynllunio ers cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. Derbyniodd sefydliadau'r GIG gyfarwyddyd clir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017. Mae gofyn i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG osod yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sut y bydd adnoddau yn cael eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd i wneud y canlynol:
- Rhoi sylw i anghenion iechyd y boblogaeth
- Gwella canlyniadau iechyd ac ansawdd gofal
- Sicrhau'r gwerth mwyaf o'r adnoddau.
Dyma'r cynlluniau cyntaf i'w cyflwyno ers cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol: Ffyniant i Bawb a chyhoeddi canfyddiadau'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae gweithredu Ffyniant i Bawb wedi cael effaith uniongyrchol ar y ffordd y mae sefydliadau wedi strwythuro eu cynlluniau, ac eleni rydym yn dechrau gweld mwy o ganolbwyntio ar weithio ar draws sectorau, cydweithio a phwyslais parhaus ar lesiant a chynaliadwyedd, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd y cynlluniau wrth gwrs yn gydnaws â'r Cynllun Hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond roedd modd i sefydliadau gymryd canfyddiadau'r Adolygiad Seneddol i ystyriaeth wrth baratoi eu cyflwyniadau y tro hwn.
Rydw i wedi penderfynu cymeradwyo chwe sefydliad sydd wedi cyflwyno cynlluniau tair blynedd cytbwys ac ymarferol. Maent wedi dangos aeddfedrwydd cynyddol yn eu trefniadau cynllunio, ac rwy'n falch o fedru cydnabod hyn drwy eu cymeradwyo. Rwy'n edrych ymlaen at weld gwasanaethau’n cael eu trawsnewid fel y mae'r sefydliadau hyn wedi'i nodi yn y cynlluniau dros y tair blynedd nesaf.
Yn dilyn proses asesu gadarn, rydw i wedi cymeradwyo cynlluniau integredig y chwe sefydliad canlynol –
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Rwy'n disgwyl i'r sefydliadau hyn barhau i wella ar fyrder, gan weithio ar draws ffiniau byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd a gyda phartneriaid sector cyhoeddus a thrydydd sector i ddarparu gwasanaethau i gleifion yng Nghymru.
Bydd perfformiad y sefydliadau hyn yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd drwy gydol y cylch tair blynedd.
Nid yw cymeradwyo cynllun yn rhagfarnu canlyniad unrhyw drefn briodol sy'n ofynnol i roi'r cynllun ar waith. Rhaid i unrhyw waith ad-drefnu gwasanaethau angenrheidiol gael ei gyflawni yn unol â deddfwriaeth a'n canllawiau presennol, a bydd unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf yn dilyn prosesau cymeradwyo achos busnes arferol.
Methodd pedwar sefydliad gyflwyno cynlluniau tair blynedd wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd. Mae pob un ohonynt wedi'u huwchgyfeirio ac yn gweithio gyda'm swyddogion i ganfod atebion i'r heriau sydd yn eu hwynebu.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Fe fydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol yn sgil fy natganiad yr wythnos ddiwethaf bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i wynebu nifer o heriau o ran gwasanaethau, cyllid a pherfformiad, sydd angen cymorth parhaus. Bydd ymateb y bwrdd iechyd i'r heriau hyn yn 2018 yn cael ei osod yn y cynllun gweithredu blynyddol manwl ar gyfer blwyddyn unigol.
Ar ben hynny, roedd fy natganiad yn egluro y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth mwy dwys i sicrhau gwelliannau gan gynnwys gweithio i ddatblygu a chytuno ar gynllun tymor canolig integredig.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i wynebu heriau strategol, perfformiad ac ariannol. Bydd y bwrdd iechyd yn cynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol manwl ar gyfer blwyddyn unigol, a fydd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar feysydd â blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddarparu cymorth wrth ddatblygu a gweithredu'r cynllun hwn, ac yn gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i ddatblygu atebion rhanbarthol i rai heriau hirdymor. Mae'r ymgynghoriad Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol yn parhau i fynd rhagddo, a phan fydd yn dod i ben bydd yn helpu i benderfynu ar gyfeiriad gwasanaethau yn y dyfodol ar draws y bwrdd iechyd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer blwyddyn unigol i roi sylw i heriau o ran perfformiad a chyllid. Rwy'n disgwyl i'r newidiadau ar lefel y Bwrdd a phenodiadau Gweithredol ysgogi'r cynnydd sy'n ofynnol yn y tymor byr a'r tymor canolig. Er ei bod yn amlwg bod cynlluniau a sefyllfa ariannol y sefydliad yn gwella, bydd swyddogion yn parhau i gydweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddatblygu atebion cynaliadwy yn y tymor hirach. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r sefydliad i ddarparu'r cymorth a'r her angenrheidiol wrth iddynt weithio tuag at atebion cynaliadwy.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ac yn gwella mewn rhai meysydd perfformiad allweddol, ond mae rhai heriau ariannol parhaus sydd angen eu datrys cyn i'r bwrdd iechyd fedru cyrraedd sefyllfa gynaliadwy. Er y gwelwyd rhywfaint o sefydlogi, mae angen canolbwyntio ymhellach i sicrhau sefyllfa ariannol gytbwys.
Mae Caerdydd a'r Fro yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer blwyddyn unigol, ac fe fydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd wrth iddo ddatblygu atebion cynaliadwy ar gyfer y tymor hirach.
Mae cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd yn ddatganiadau hanfodol o fwriad sefydliadau'r GIG. Rhaid iddynt adlewyrchu’r lefel o aeddfedrwydd a rheolaeth sefydliadol sy'n ofynnol wrth gynllunio un system gyfan. Felly rhaid i'r broses gymeradwyo a monitro parhaus ar gyfer cynlluniau mor bwysig fod yn un drylwyr. Rwy'n disgwyl i Fyrddau sicrhau bod eu sefydliadau yn adolygu eu cynlluniau yn barhaus, a sicrhau eu bod yn cyflawni'r ymrwymiadau a nodir ynddynt.
Lle na lwyddodd Byrddau i ddarparu cynlluniau cymeradwy yn y cylch cynllunio hwn, bydd fy swyddogion yn eu helpu i weithio tuag at gyflwyno cynllun tair blynedd integredig ar gyfer 2019.