Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae bron i ddwy flynedd a hanner bellach wedi mynd heibio ers i ni gwblhau ein Harchwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy, a nododd 21 o argymhellion gyda'r nod o gael gwared ar y rhwystrau a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. 

Canolbwyntiodd ein diweddariad bob chwe mis cyntaf ar yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, ar gamau gweithredu hyd at fis Medi 2022, a dangosodd y cynnydd rydym wedi'i wneud yn erbyn pob un o'r argymhellion a'r camau yr ydym wedi'u cymryd i hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. 

Dilynodd ein hail ddiweddariad ym mis Ebrill 2023, ac rwy'n falch o gyhoeddi ein trydydd diweddariad a'r olaf. Mae'r adroddiad hwn yn pwysleisio rhai o'r gweithgareddau mwy arwyddocaol yn erbyn yr hargymhellion rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, a rhai o'r cerrig milltir allweddol a fydd yn ein helpu i gwblhau'r argymhellion hynny.

Mae'r adroddiad yn dangos ein hymdrechion i drawsnewid ein system ynni o ddibynnu ar danwydd ffosil i sector ynni adnewyddadwy cryf, hirdymor a chynaliadwy sy'n cadw'r cyfoeth yng Nghymru i'n cymunedau. 

Nod ein gwaith ar gynllunio ynni ardal leol, i fwydo Cynllun Ynni Cenedlaethol, a'n gwaith yn ymwneud â Gridiau'r Dyfodol, yw mapio'r seilwaith y bydd ei angen arnom i ddeall a gwireddu ein hanghenion a'n hymrwymiadau ynni. 

Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio ym mis Ebrill eleni ac mae gwaith yn parhau ar ddatblygu Ynni Cymru. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gydag Ofgem, yn enwedig gan fod Cymru yn arwain y ffordd o ran meddwl yn seiliedig ar systemau lleol. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud o ran caffael ar draws y sector cyhoeddus gan ymgorffori gwerth cymdeithasol a byddwn yn parhau i gyfrannu at y trafodaethau hynny. 

Mae'r Rhaglen Ynni Morol yn parhau i gefnogi porthladdoedd a bydd porthladdoedd rhydd hefyd yn rhoi cyfleoedd newydd iddynt. Bydd gwaith ar sgiliau a chadwyni cyflenwi yn parhau yn ogystal â manteisio ar fuddion penodol wrth i brosiectau ddechrau. ​ 

Byddwn yn parhau i sicrhau bod y gyfundrefn gydsynio a thrwyddedu yn darparu dull cynaliadwy a chymesur. Bydd y drafodaeth yn parhau i ddylanwadu ar y newidiadau yn dilyn y Deddfau Ynni a Ffyniant Bro ac Adfywio. Mae ein gwaith i gefnogi'r sector ynni cymunedol yn helpu i sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru, ond yn enwedig y rhai sy'n cynnal datblygiadau adnewyddadwy, yn elwa ar ein symudiad i Sero Net. 

Mae gwaith ein his-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy wedi helpu i nodi ysgogiadau ariannol y gallwn ddechrau eu defnyddio i gymell cyflwyno datblygiadau adnewyddadwy ymhellach ar draws sawl sector. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau a'n targedau, rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud ac y bydd sbardunau polisi pwysig, fel cynlluniau ynni lleol, yn helpu i osod yr heriau ar gyfer cyfundrefnau rheoleiddio ac ariannu. 

Y bwriad yw mai hwn fydd ein diweddariad terfynol ar Argymhellion yr Archwiliad Dwfn, a hoffwn ddiolch i aelodau Grŵp Llywio'r Archwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy am gyfrannu at y gwaith.

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad olaf hwn, byddwn yn cyhoeddi ein hymateb cyn bo hir i Baratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.