Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi 'Y Warant i Bobl Ifanc – Adroddiad Blynyddol 2023' ochr yn ochr â 'Y Warant i Bobl Ifanc – Adroddiad Cam 2 a 3 y Sgwrs Genedlaethol' ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfranogwyr.
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac fe'i lansiwyd ym mis Tachwedd 2021. Ei nod yw cynnig cymorth parhaus i bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
Mae'r adroddiad blynyddol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd cryf o ran cyflawni ei hymrwymiad gyda mwy na 27,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd a sgiliau ers lansio'r warant.
Mae mwy na 5,000 o bobl ifanc wedi symud ymlaen i gyflogaeth, mwy na 400 wedi dechrau eu busnes eu hunain a mwy na 12,700 wedi dechrau prentisiaethau, yn ôl ffigurau dros dro.
Ar ben hynny, mae 1,100 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn 64 o ddigwyddiadau 'Cystadlaethau Sgiliau Cymru' yn ystod 2023. Mae'r cystadleuwyr yn codi eu safonau eu hunain yn barhaus ac yn dangos eu brwdfrydedd a'u hawydd i lwyddo yn eu sector, gyda 17 yn cael eu gwahodd i ymuno â charfan y DU ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills a gynhelir yn Lyon ym mis Medi.
Roedd y Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc yn cynnwys cyfres o arolygon a grwpiau ffocws a gwaith cam cyntaf parhaus a ddechreuodd yn 2022. Mae pobl ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phrofiadau nad yw'r rhan fwyaf ohonom erioed wedi ymdopi â mor ifanc. Mae llawer yn pryderu na fydd eu rhagolygon gyrfa a llesiant fyth yn gwella wedi’r pandemig a'r argyfwng costau byw a dyna pam mae'r Warant i Bobl Ifanc wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Canolbwyntiodd camau dau a thri yn 2023 ar archwilio ymhellach y rhwystrau i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant y mae pobl ifanc bellach yn eu hwynebu. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ochr yn ochr ag ein ymateb ar gyfer y cyfranogwyr lle rydym yn dangos sut ydym wedi gwrando ar bobl ifanc ac wedi ymateb i'w hadborth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Gyrfa Cymru i ddarparu lleoliadau profiad gwaith wedi'u teilwra ar gyfer hyd at 500 o ddysgwyr sydd wedi cael trafferth dychwelyd i addysg yn dilyn y pandemig; dyblu'r lwfans hyfforddi ar gyfer Twf Swyddi Cymru+; bod y wlad gyntaf yn y DU i gynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg; a darparu £3m i golegau addysg bellach a chweched dosbarth awdurdodau lleol ar gyfer cyllid pontio, ar gyfer gweithgareddau fel diwrnodau blasu coleg, dosbarthiadau meistr, gweithdai rhyngweithiol a rhaglenni haf.
Fel y cyhoeddwyd ar 21 Chwefror, rwyf wedi dyrannu £2.5m ychwanegol i gynyddu darpariaeth Twf Swyddi Cymru+ ledled Cymru am weddill y flwyddyn ariannol.
Rwyf hefyd wedi sicrhau dyraniad ychwanegol o £10m yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25 i gryfhau elfennau allweddol o’r Warant i Bobl Ifanc ac ymrwymiadau eraill – ledled prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd.
Bydd pobl ifanc a'u sgiliau yn pennu economi heddiw ac yfory. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn eu huchelgais a'u lles yn wyneb yr hinsawdd ariannol mwyaf heriol yn yr oes ddatganoli.