Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Argymhellion Teithio gan Ddysgwyr 2023, sy'n nodi cyfres o argymhellion i helpu i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch darpariaeth teithio i ddysgwyr ledled Cymru. Mae'n dilyn ymarfer dadansoddi a gwerthuso mewnol a gynhaliwyd rhwng mis Chwefror a mis Medi 2023.
Y gost ar gyfer rhedeg y bysiau ysgol presennol yw tua £160 miliwn sydd bellach yn cyfrif am tua chwarter y gwariant heb ei ddirprwyo ar ysgolion gan awdurdodau lleol. Mae'r costau hyn wedi parhau i gynyddu ar adeg pan fo pwysau mawr ar gyllidebau awdurdodau lleol o ganlyniad i alw cynyddol a chwyddiant cyson uchel. Nid yw ein setliad ni, sy'n dod yn bennaf gan Lywodraeth y DU ar ffurf grant bloc, yn ddigonol i gydnabod y pwysau hyn.
Effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar fodel busnes cwmnïau bysiau ar draws Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru becyn achub digynsail o £200m i gefnogi'r diwydiant ond er gwaethaf hyn mae llawer o gwmnïau wedi tynnu llwybrau bysiau yn ôl oherwydd gostyngiad yn nifer y teithwyr, yn enwedig ymhlith deiliaid cardiau rhatach. Mae'n amlwg bod angen newidiadau mawr ar draws y system gyfan.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd manylion y newidiadau y byddwn yn eu gwneud yn 'Ein Map Ffordd i Ddiwygio'r Bysiau' ac yn ddiweddarach eleni bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd. O dan y cynllun hwn, byddwn yn dod i ben â'r system ddigyswllt lle mae cwmnïau preifat yn penderfynu pa lwybrau i'w rhedeg, ac yn lle hynny bydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar rwydwaith bysiau lleol sy'n diwallu anghenion cymunedau. Bydd hefyd yn ein galluogi, drwy Trafnidiaeth Cymru, i alinio llwybrau bysiau ag amserlenni trenau er mwyn creu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ac un tocyn y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y ddau. Lle'n bosibl, bydd cludiant i'r ysgol yn cael ei gynnwys yn y gwasanaeth bysiau rheolaidd. Bydd hyn yn helpu i osgoi dyblygu drud, yn caniatáu'r buddsoddiad sydd ei angen mewn bysiau modern sy'n gallu cludo pobl anabl, ac yn ymestyn y ddarpariaeth bysiau ar gyfer y gymuned gyfan.
Hoffwn ddiolch i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu darpariaeth statudol ar gyfer cludiant i ddysgwyr, colegau addysg bellach a'n holl bartneriaid cyflawni am eu hamser a'u hymdrech i ddarparu gwybodaeth a data gwerthfawr i helpu i lywio Adroddiad Argymhellion Teithio gan Ddysgwyr 2023.
Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i'r plant a'r bobl ifanc a rannodd eu barn a'u profiadau drwy weithio gyda Cymru Ifanc, sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at y camau nesaf i wella trefniadau teithio i ddysgwyr yng Nghymru.
Bydd yr argymhellion yn rhoi ffocws o'r newydd ar sut rydym yn mynd i'r afael â'r daith i'r ysgol gan edrych o'r newydd ar y cyfrifoldeb arnom ni i gyd – plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol a ni fel Gweinidogion – a'r rôl gyfunol yr ydym yn ei chwarae i sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu'r sgiliau a'r hyder i deithio i'w man dysgu mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy a fforddiadwy.
Mae'r adroddiad yn argymell diweddariad cynhwysfawr i'r canllawiau statudol sy'n amlinellu rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr. Bydd y canllawiau'n cael eu gwella er mwyn darparu fframwaith ar gyfer sicrhau darpariaeth teithio i'r ysgol sy'n gymdeithasol gyfiawn, yn amgylcheddol ac yn ariannol gynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac yn adlewyrchu arferion gorau o Gymru, a thu hwnt.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n holl bartneriaid cyflenwi, yn ogystal â'n dysgwyr, i sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn addas i'r diben, yn cyd-fynd â datblygiadau deddfwriaethol a pholisi ac yn adlewyrchu uchelgeisiau hirdymor y llywodraeth hon. Mae hyn yn gyfle i wreiddio'r hierarchaeth trafnidiaeth a nodir yn Llwybr Newydd ym mywydau plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a chymuned ehangach yr ysgol. Bydd y diweddariadau hyn yn destun ymgynghoriad ffurfiol ac rydym yn annog yr holl randdeiliaid i ymgysylltu â'r broses hon.
Fe wnaeth yr ymgysylltu ag awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach eleni dynnu sylw at y modelau arloesol ac ysbrydoledig a ddatblygwyd gan rai awdurdodau lleol, a ddefnyddiodd wybodaeth leol, data deallus a thechnoleg i feddwl yn greadigol er mwyn gallu cynnig ystod o ddarpariaeth i gefnogi dysgwyr sy'n teithio i'r ysgol.
Rydym yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae rhoi mwy o ffocws ar yr hierarchaeth drafnidiaeth a nodir yn Llwybr Newydd yn dibynnu, wrth gwrs, ar allu pobl i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus dda. Gofynnwyd i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod y gwaith datblygu rhwydwaith a wneir ganddynt ar hyn o bryd i lywio model masnachfraint o ddarparu gwasanaeth bysiau yng Nghymru yn ystyried ein sefydliadau dysgu, ein hysgolion a'n colegau addysg bellach yn ogystal â phrifysgolion er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall rhwydwaith masnachfraint eu cynnig i annog mwy o blant a phobl ifanc i ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.
Trwy fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad mae gennym gyfle i sicrhau y gellir alinio ein hymrwymiadau a'n dyheadau polisi ar deithio llesol, y rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus - o ran bysiau a rheilffyrdd - a'n targedau uchelgeisiol ar newid moddol a'u hintegreiddio i'r agenda ar gyfer teithio gan ddysgwyr.
Drwy gydweithio i ailddiffinio, adnewyddu ac ailstrwythuro ein fframweithiau a'n seilwaith teithio i ddysgwyr, credwn y gallwn gyda'n gilydd feithrin diwylliant cymdeithasol, amgylcheddol a chynaliadwy o deithio cyfrifol i'r ysgol.