Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 29 Mawrth 2018, ystyriodd y chwe bwrdd iechyd sy'n rhan o ardal De Cymru – sef Abertawe Bro Morgannwg; Aneurin Bevan; Caerdydd a'r Fro; Cwm Taf; Hywel Dda; a Phowys – argymhellion mewn perthynas â sefydlu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer De a Gorllewin Cymru a De Powys. Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y penderfyniadau a wnaed gan y byrddau iechyd.
Trawma mawr
Mae trawma mawr yn cyfeirio at anafiadau niferus neu ddifrifol a allai arwain at anabledd neu farwolaeth. Mae’r anafiadau’n gallu cynnwys anafiadau difrifol i’r pen, anafiadau niferus ar ôl damweiniau ar y ffyrdd, damweiniau diwydiannol, cwympiadau, anafiadau i lawer o bobl ar ôl digwyddiad mawr a chlwyfau sy’n cael eu hachosi gan gyllyll a drylliau. Bydd llai na 0.2% o bobl (dau o bob 1,000) sy'n mynychu eu hadran argyfwng leol wedi dioddef trawma mawr. Felly ni fydd pob adran argyfwng unigol yn gweld ond un neu ddau o achosion o drawma mawr bob wythnos.
Ceir cryn dystiolaeth i ddangos bod gan gleifion sy'n dioddef trawma mawr well siawns o oroesi a'u bod yn gwella'n gynt os cânt eu trin o fewn rhwydwaith trawma mawr.
Sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde Cymru
Bu cynigion i sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde Cymru ar y gweill ers tro. Ar hyn o bryd y De yw'r unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr nad yw'n rhan o rwydwaith o'r fath. Mae Gogledd Cymru a Gogledd Powys yn rhan o rwydwaith trawma mawr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr sy'n cefnogi'r rhwydwaith trawma mawr yng Ngogledd Swydd Stafford, ac mae'r canlyniadau i'r bobl yn yr ardaloedd hynny wedi gwella o ganlyniad.
Mae'r gwaith i gydgysylltu rhwydwaith De Cymru wedi cael ei arwain gan Gydweithrediad GIG Cymru. Gwnaed hyn mewn cydweithrediad â'r chwe bwrdd iechyd; Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys; ac roedd hefyd yn cynnwys y trydydd sector a'r cynghorau iechyd cymuned.
Yn 2015, edrychodd gweithdy a gafodd ei arwain gan glinigwyr ar y dewisiadau sydd ar gael i ddatblygu rhwydwaith yn Ne Cymru a chytuno y dylid gwneud hyn trwy sefydlu canolfan trawma mawr ar un safle (naill ai Ysbyty Treforys yn Abertawe neu Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd), gyda chymorth nifer o unedau trawma. Byddai ysbytai argyfwng lleol yn parhau i weld pobl â salwch ac anafiadau difrifol.
Panel annibynnol
Edrychodd panel annibynnol o glinigwyr arbenigol ym maes trawma mawr ar y dystiolaeth a rhoi cyngor ar ba ysbyty fyddai'r safle gorau i'r ganolfan trawma mawr. Wrth wneud hynny, nodwyd tri phrif ffactor: rhyngddibyniaethau; màs critigol; ac amseroedd teithio. Wedi ystyriaeth fanwl, argymhellodd y panel y canlynol:
• Dylid mynd ati’n gyflym i sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde Cymru â seilwaith llywodraethu clinigol. Nod seilwaith llywodraethu clinigol yw sicrhau bod gwasanaeth yn wasanaeth o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y cleifion, ac sydd ag arweinyddiaeth glinigol gref.
• Dylai’r ganolfan trawma mawr i oedolion a’r ganolfan i blant fod ar yr un safle.
• Dylai’r ganolfan trawma mawr fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
• Dylai Ysbyty Treforys yn Abertawe droi’n uned drawma fawr a dylai gael rôl arweiniol yn y rhwydwaith trawma mawr.
• Dylid pennu amserlen glir a realistig ar gyfer y gwaith o greu’r rhwydwaith trawma.
Nid oedd y panel yn credu y byddai gan Ysbyty Treforys nac Ysbyty Athrofaol Cymru fel canolfan trawma mawr unrhyw fantais sylweddol dros y llall o safbwynt daearyddiaeth. Yn hytrach, penderfynodd y panel mai darparu gwasanaethau arbenigol iawn megis niwrolawdriniaeth a niwrolawdriniaeth bediatrig ar yr un safle â'r ganolfan trawma mawr oedd y prif ffactor wrth benderfynu ble i leoli'r ganolfan trawma mawr.
Mae manylion llawn y rhesymau dros yr argymhellion i'w cael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn: www.publichealthwales.org/majortraumaconsultation
Ymgynghoriad cyhoeddus
Cafodd argymhellion y panel annibynnol eu cynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a barodd rhwng 13 Tachwedd 2017 a 5 Chwefror 2018. Cynhaliwyd cyfarfodydd lleol ar draws y rhanbarth, gyda phob bwrdd iechyd yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ym mhob un o'i ranbarthau.
Daeth dros 1,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad i law o bob cwr o'r rhanbarth, gyda channoedd o bobl eraill yn cymryd rhan drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Daeth 242 o bobl i'r 17 o gyfarfodydd cyhoeddus. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad ac rwyf yn gwerthfawrogi eu sylwadau ar helpu i lywio'r gwasanaeth pwysig newydd hwn.
Cafodd yr holl sylwadau a fynegwyd trwy'r llu o sianeli sydd ar agor i'r cyhoedd eu trin yn gyfartal ac fe'u hystyriwyd gan Fforwm Arweinyddiaeth Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, sy'n cynnwys cadeiryddion a phrif weithredwyr byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru.
Cafodd ystod o safbwyntiau eu mynegi, eu dadansoddi a'u hystyried fel rhan o'r ymarfer ymgynghori. Ar ôl ystyried y ffordd y cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal a'r dadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law, roedd y Fforwm yn fodlon bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol ac mewn ffordd sydd wedi bodloni gofynion canllawiau cymwys.
Er y cafodd materion eu codi y bydd angen eu hystyried ymhellach, delio â hwy neu eu lliniaru fel rhan o roi'r rhwydwaith trawma mawr ar waith, casglodd y Fforwm nad oedd dim wedi cael ei godi a fyddai'n effeithio ar argymhellion y Panel Annibynnol. Argymhellodd felly i’r byrddau iechyd eu bod yn cymeradwyo sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde a Gorllewin Cymru a De Powys, yn unol ag argymhellion y Panel Annibynnol.
Cyfarfodydd byrddau ar 29 Mawrth 2018
Cyfarfu pob un o'r chwe bwrdd iechyd ar 29 Mawrth i ystyried argymhellion Fforwm Arweinyddiaeth Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru. Cymeradwyodd pob un sefydlu rhwydwaith trawma mawr i'r rhanbarth a chytuno y dylai canolfan trawma mawr gael ei lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Ni chaiff unrhyw rai o'r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn unrhyw rai o'r Ysbytai Cyffredinol Dosbarth ei hisraddio ar sail y penderfyniadau hyn a byddant yn dal i weld a thrin y mwyafrif helaeth o gleifion, fel ar hyn o bryd.
Bydd gan Ysbyty Treforys ran o bwys yn y rhwydwaith trawma mawr. Cytunwyd y daw'r ysbyty'n uned drawma fawr ac y bydd yn arwain ar ran y rhwydwaith. Rwyf wedi dweud ar nifer o adegau nad oes unrhyw gynlluniau i adleoli'r uned llosgiadau a llawfeddygaeth blastig o Ysbyty Treforys a hoffwn achub y cyfle i gadarnhau eto fod hyn yn dal yn wir. Mae ein hymrwymiad i ddyfodol yr ysbyty'n glir, fel y dangosir gan y cyhoeddiad yn Ionawr 2018 y bydd y gwasanaeth llawdriniaeth thorasig yn Ne Cymru yn cael ei leoli yno. Mae hyn yn dangos y pwysigrwydd parhaus yr ydym yn ei roi ar yr ysbyty fel canolfan ragoriaeth.
Y camau nesaf
Mae’r byrddau iechyd bellach yn cydweithio i sefydlu rhaglen weithredu, a fydd yn parhau i gynnwys pob cyngor iechyd cymuned a phob rhanddeiliad. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Bwrdd y Rhwydwaith Trawma i Dde Cymru, ac fe ragwelir y bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ddiwedd y gwanwyn/dechrau'r haf. Bydd Bwrdd y Rhwydwaith yn goruchwylio sefydlu'r rhwydwaith i'r rhanbarth, gan sicrhau bod gwasanaethau safon uchel, diogel ac effeithiol yn cael eu darparu ar gyfer y boblogaeth.
Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu polisïau a phrotocolau i gefnogi'r gwaith o roi'r rhwydwaith ar waith yn llwyddiannus. Bydd yn hwyluso cydweithio gan gynnwys meithrin cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyn-ysbyty, unedau trawma a'r ganolfan drawma. Mae gwaith yn mynd rhagddo i benodi Arweinydd Clinigol, a fydd yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn creu, llywio a sefydlu gwasanaeth trawma effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y claf yn Ne a Gorllewin Cymru a De Powys.
Bydd costau refeniw a chyfalaf ychwanegol yn gysylltiedig â sefydlu'r rhwydwaith trawma mawr ar draws y rhanbarth, gan gynnwys achosion busnes y bydd eu hangen ar gyfer y seilwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Treforys. Caiff y rhain eu hystyried yng nghyd-destun y rhaglen weithredu raddedig, y cynlluniau i ddatblygu'r safle ehangach, rhyngddibyniaethau sy'n bodoli rhwng gwasanaethau trawma a gwasanaethau clinigol eraill a bydd Llywodraeth Cymru'n gorfod cymeradwyo achos busnes ffurfiol ar eu cyfer.