Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau ar gyfer rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfeydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Croeso i wasanaeth ar-lein Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfeydd (y "Gwasanaeth”). Nod y Gwasanaeth yw eich galluogi i wneud cais am drwyddedau pysgodfeydd a'u rheoli ar-lein ac i gyflwyno data datganiadau dalfeydd i ni. Hwyrach y caiff gwasanaethau a nodweddion ychwanegol eu hychwanegu at y Gwasanaeth yn y dyfodol.  

Mae modd cyrchu'r Gwasanaeth drwy gofrestru neu fewngofnodi gan ddefnyddio One Login GOV.UK o dan y ddolen ganlynol Rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfeydd (neu gyfeiriad gwe arall y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dyfodol) (y "Wefan”).

Mae'r telerau ac amodau hyn ("Telerau") yn nodi'r telerau defnyddio rydych chi'n cytuno iddynt pan fyddwch yn defnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth. Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth. Drwy gyrchu'r Wefan neu gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn (ac, yn benodol, rydych chi'n cytuno ac yn derbyn yr ymwadiadau a'r cyfyngiadau atebolrwydd sydd wedi'u cynnwys yn y Telerau hyn). Os nad ydych chi am gael eich rhwymo gan y Telerau hyn, dylech ymatal rhag defnyddio'r Wefan neu gyrchu'r Gwasanaeth. 

Noder bod yr holl unigolion sy'n cyrchu'r Gwasanaeth yn cael eu rhwymo gan y Telerau hyn.

Cyrchu'r wefan

Rydych chi'n cytuno i ddefnyddio'r Wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n amharu ar hawliau'r Wefan nac yn cyfyngu ar y defnydd a'r mwynhad o'r Wefan gan unrhyw drydydd parti. 

Mae gennych chi'r hawl i ddefnyddio'r Wefan dros dro, ac rydym ni'n cadw'r hawl i dynnu'r gwasanaeth rydym ni'n ei ddarparu ar y Wefan, neu ei ddiwygio, heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn ni'n atebol os nad yw ein Gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod, beth bynnag yw'r rheswm. 

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth

Rhaid i chi fewngofnodi neu gofrestru er mwyn cyrchu a defnyddio'r Gwasanaeth. 

Gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth ar ran busnes neu sefydliad. 

Gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth drwy wasanaeth One Login GOV.UK. Rhaid i chi gytuno i dderbyn unrhyw delerau ac amodau sy'n berthnasol i'ch defnydd o One Login GOV.UK, gan gynnwys mewn perthynas â dilysu a storio eich manylion cofrestru. Ar ôl cofrestru, byddwch chi'n gallu mewngofnodi i gyrchu'r Gwasanaeth.

Trwy gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych chi'n datgan ac yn gwarantu bod gennych chi'r hawl, yr awdurdod a'r gallu i ddefnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth ac i gytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn. Os byddwn ni'n darganfod nad oes gennych chi'r hawl, yr awdurdod a'r gallu i ddefnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaeth neu i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn, neu os oes gennym ni unrhyw reswm i gredu hynny, efallai y byddwn ni, yn ôl ein disgresiwn, yn atal neu'n terfynu eich cofrestriad neu eich gallu i gyrchu'r Gwasanaeth ar unwaith a heb roi unrhyw rybudd i chi.

Os ydych chi'n cael cofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych chi'n cytuno i: 

(a) darparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn amdanoch chi'ch hun a'ch busnes neu'ch sefydliad a

(b) rhoi gwybod i ni yn brydlon am unrhyw newid i unrhyw wybodaeth rydych chi wedi'i darparu i ni er mwyn i ni sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym ni yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol.

Diogelwch

Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i chi gyrchu'r Gwasanaeth. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r holl gyfrineiriau a gwybodaeth ddiogelwch berthnasol yn ddiogel ac yn cymryd pob cam rhesymol i'w diogelu.

Rhaid i chi gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad yw unrhyw berson heblaw'r unigolion sy'n ymwneud â'ch busnes ac sydd wedi'u hawdurdodi i gyrchu'r Gwasanaeth yn gallu gwneud hynny. Os ydych chi'n amau bod unrhyw berson arall wedi defnyddio eich manylion cofrestru neu eich cyfrineiriau, neu'n eu defnyddio ar hyn o bryd, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.

Chi sydd hefyd yn gyfrifol am:

(a) sicrhau bod pob person sy'n defnyddio'r Gwasanaeth drwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r Telerau hyn, a'u bod yn cydymffurfio â nhw; a 

(b) eich gweithredoedd wrth gyrchu a defnyddio'r Gwasanaeth neu weithredoedd y bobl hynny sy'n cyrchu ac yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich rhan.

Rhaid i chi sicrhau nad ydych chi, na'r bobl hynny sy'n cyrchu ac yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich rhan, yn gwneud unrhyw ran o'r Gwasanaeth sy'n ymwneud â chi neu eich busnes ar gael i unrhyw drydydd parti oni bai y caniateir hynny o dan y Telerau hyn. 

Rhaid i chi arfer gofal a sylw dyladwy wrth ddewis unrhyw berson i weithredu ar eich rhan i gyrchu a defnyddio'r Gwasanaeth.

Eich rhwymedigaethau

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau:

(a) bod unrhyw bobl sy'n cyrchu ac yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich rhan yn gweithredu o fewn eich awdurdod bob amser;

(b) bod yr holl wybodaeth a gyflwynir gennych chi neu ar eich rhan yn gyflawn, yn gyfredol ac yn cael ei chyflwyno yn unol ag unrhyw ganllawiau a roddir gan Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru;

(c) eich bod chi, ac unrhyw bobl sy'n cyrchu ac yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich rhan, yn arfer gofal, medr a sylw dyladwy wrth gwblhau a chyflwyno unrhyw wybodaeth drwy'r Gwasanaeth, gan sicrhau cywirdeb y wybodaeth a roddir;

(d) eich bod chi, ac unrhyw bobl sy'n cyrchu ac yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich rhan, yn darparu'n brydlon unrhyw wybodaeth ychwanegol, dogfennaeth ategol neu eglurhad y mae Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt;

(e) eich bod chi (ac unrhyw bobl sy'n cyrchu ac yn defnyddio'r Gwasanaeth ar eich rhan) yn cadw at unrhyw ofynion archwilio sy'n ymwneud â'ch defnydd o'r Gwasanaeth.

Rydych chi'n cydnabod ac yn cytuno mai chi fydd yn gyfrifol yn y pen draw am gynnwys a gweinyddu unrhyw wybodaeth a gyflwynir ar eich rhan. 

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a'ch platfform wedi'u ffurfweddu er mwyn cyrchu'r Gwasanaeth. Er gwaethaf ein rhwymedigaethau isod, dylech ddefnyddio eich meddalwedd gwrthfeirysau eich hun. 

Rhaid i chi beidio â: 

(a) dynwared defnyddiwr arall y Gwasanaeth; 

(b) defnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaeth i gynnal unrhyw weithgarwch twyllodrus; 

(c) cyrchu neu geisio cyrchu cyfrifon sy'n perthyn i ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth;

(d) ymyrryd neu geisio ymyrryd ag unrhyw fesurau diogelwch sy'n perthyn i'r Wefan neu'n ymwneud â hi.  

Ni chaniateir i unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau sy'n cael eu postio, eu cyhoeddi neu eu trosglwyddo gennych chi neu ar eich rhan ar neu drwy'r Gwasanaeth neu'r Wefan:  

(a) allu bod yn fygythiol, yn anweddus, yn niweidiol, yn ddifenwol, yn bornograffig neu'n anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd arall; neu  

(b) torri neu amharu ar hawliau pobl eraill mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu hawliau preifatrwydd); neu 

(c) achosi trallod neu anghyfleustra; neu  

(d) mynegi barn y gallai eraill ei hystyried yn ddi-chwaeth, yn rhywiaethol, yn hiliol neu'n dramgwyddus mewn unrhyw ffordd arall; neu 

(e) bod yn anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd arall.  

Byddwn ni'n cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith neu orchymyn llys sy'n gwneud cais neu’n rhoi cyfarwyddyd i ni ddatgelu pwy yw unrhyw un sy'n defnyddio'r Gwasanaeth neu'r Wefan mewn unrhyw un o'r ffyrdd a nodir uchod. 

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a ysgrifennir gennych chi neu drydydd partïon ac sy'n cael ei phostio neu ei throsglwyddo drwy'r Wefan ac nid ydym yn cymeradwyo gwybodaeth o'r fath. Rydym ni'n cadw'r hawl i olygu, gwrthod postio neu ddileu unrhyw wybodaeth o'r Wefan yn ôl ein disgresiwn llwyr. Os nad ydym yn dileu gwybodaeth benodol, ni fydd hynny'n golygu ein bod yn ei chymeradwyo neu'n ei derbyn. 

Bydd unrhyw wybodaeth sy'n cael ei lanlwytho i'r Wefan fel rhan o'r Gwasanaeth yn cael ei storio yn eich cyfrif ar-lein. Chi sy'n gyfrifol am adolygu'r holl wybodaeth o'r fath a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghywirdebau neu hepgoriadau. 

Ni allwn ni ddarparu mynediad i'r Gwasanaeth bob amser, ac nid ydym yn storio dogfennau am gyfnod amhenodol. Rydym ni'n argymell eich bod yn cynnal arferion cadw cofnodion addas ac yn cadw eich copïau eich hun o'r holl ddogfennau sy'n cael eu cyflwyno drwy'r Gwasanaeth neu'r Wefan. Rydych chi'n cytuno nad oes gennym ni unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd mewn perthynas â dileu neu fethu â storio unrhyw wybodaeth, negeseuon a chyfathrebiadau eraill sy'n cael eu cynnal neu eu trosglwyddo fel rhan o'r Gwasanaeth. 

Ein rhwymedigaethau

Byddwn yn cymryd pob gofal ac yn gwneud pob ymdrech resymol wrth: 

(a) casglu a gosod cynnwys ar y Wefan; 

(b) sicrhau bod y Wefan ar gael; 

(c) ceisio sicrhau bod unrhyw feddalwedd a ffeiliau data a roddir i chi fel rhan o'r Gwasanaeth yn rhydd o feirysau; 

(d) ceisio sicrhau bod y Gwasanaeth yn barhaus a bod cyn lleied o darfu â phosibl ar y gallu i gyrchu'r Wefan yn sgil unrhyw ddigwyddiad o fewn ein rheolaeth; ac 

(e) sicrhau unrhyw ddata personol a roddir gennych chi, unigolion sy'n ymwneud â'ch busnes neu asiantau

ond nid ydym yn darparu unrhyw warant mewn perthynas â'r uchod. 

Nid oes bwriad i gynnwys sy'n cael ei bostio ar y Wefan fod yn gyngor proffesiynol nac arbenigol y dylid dibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd unrhyw gamau, neu beidio eu cymryd, ar sail cynnwys y Wefan.

Byddwn ni'n ymdrechu i gynnal a chadw'r Wefan yn rheolaidd, gan gynnwys diweddaru'r Gwasanaeth. Noder na fydd y Gwasanaeth ar gael yn ystod cyfnodau o'r fath. Byddwn ni'n gwneud ymdrechion rhesymol i roi gwybod i chi am unrhyw gyfnodau pan na fydd y Wefan ar gael a allai effeithio ar hygyrchedd y Gwasanaeth. Nid ydym yn gwneud unrhyw warantau o ran pryd y bydd y Gwasanaeth ar gael. 

Byddwn ni'n gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod unrhyw wybodaeth, data neu ddeunyddiau a gyflwynir gennych chi, neu ar eich rhan, i'r Wefan neu fel rhan o'r Gwasanaeth yn cael eu cadw'n ddiogel a bod copïau wrth gefn priodol yn cael eu gwneud ohonynt. Os bydd unrhyw wybodaeth, data neu ddeunyddiau o'r fath yn cael eu colli neu eu difrodi, byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i adfer yr wybodaeth, y data neu'r deunyddiau a gollwyd neu a ddifrodwyd o'r copi wrth gefn diweddaraf o'r wybodaeth, y data neu'r deunyddiau. Ni fyddwn ni'n gyfrifol am unrhyw achos o golli, dinistrio, newid neu ddatgelu eich gwybodaeth, eich data neu eich deunyddiau a achosir gan unrhyw drydydd parti.

Taliadau a hysbysiadau

Rhaid talu ffi i gyrchu rhai rhannau o'r Gwasanaeth. Bydd unrhyw ffioedd yn cael eu talu gan ddefnyddio dolen i Gov.UK Pay drwy API a chaiff y taliad ei gasglu drwy'r gwasanaeth hwn. Caiff unrhyw hysbysiadau sy'n cael eu hanfon at ddefnyddiwr mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn eu hanfon gan ddefnyddio Gov.UK Notify. Mae Gov.Pay a Gov.Notify yn wasanaethau Llywodraeth y DU a adeiladwyd gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS). Rhaid i chi gydymffurfio â thelerau ac amodau perthnasol y gwefannau hynny ac unrhyw ofynion eraill y GDS.

Sut cewch chi ddefnyddio’r deunydd ar y wefan

Mae'r deunydd ar y Wefan yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Cyhoeddir y Wefan o dan y Drwydded Llywodraeth Agored fersiwn 3.0, a gallwch chi atgynhyrchu gwybodaeth o'r Wefan (heb gynnwys logos) cyn belled â'ch bod yn cadw at delerau'r drwydded honno. Fodd bynnag, noder bod rhywfaint o'r wybodaeth sy'n cael ei chyhoeddi ar y Wefan wedi'i heithrio o'r Drwydded Llywodraeth Agored. 

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd sy'n cael ei ddiogelu gan y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti, neu y nodir ei bod yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau perchenogol trydydd parti eraill, a rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid yr hawliau. 

Mae'r defnydd o unrhyw enwau a logos sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth neu Lywodraeth Cymru wedi'i gyfyngu ac ni all unigolion neu sefydliadau eraill eu defnyddio heb ganiatâd ffurfiol gennym ni.

Eich gwarantau

Rydych chi'n gwarantu: 

(a) bod gennych chi'r hawl, yr awdurdod a'r gallu angenrheidiol i ddefnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth ac i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn; a  

(b) bod yr holl wybodaeth a manylion a ddarperir gennych chi (neu ar eich rhan) i ni (gan gynnwys fel rhan o'r Gwasanaeth) yn wir, yn gywir ac yn gyfredol ym mhob ffordd ac ar bob adeg; ac  

(d) y byddwch chi'n cydymffurfio â'r Telerau hyn, gan gynnwys, heb gyfyngiad, eich rhwymedigaethau.

Ein hatebolrwydd

Rydych chi'n deall ac yn cytuno’n ffurfiol eich bod chi'n defnyddio'r Wefan a'i chynnwys, gan gynnwys y Gwasanaeth, ar eich risg eich hun. Rydym ni'n darparu'r Wefan a'r Gwasanaeth ar sail "fel y mae" ac "fel y mae ar gael" ac nid ydym ni'n gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath mewn perthynas â'r Wefan na'r Gwasanaeth, gan gynnwys, heb gyfyngiad mewn perthynas â chywirdeb, amseriad, dibynadwyedd, cyflawnrwydd neu addasrwydd at unrhyw ddiben, yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ynddynt. 

I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni'n eithrio yn benodol: 

  • Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fod yn ymhlyg yn ôl statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti. 
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir gan unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â'r Wefan neu mewn cysylltiad â defnyddio, anallu i ddefnyddio neu ganlyniadau defnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaeth, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arni, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd am: golli incwm neu refeniw, colli busnes, colli elw neu gontractau, colli arbedion a ragwelwyd, colli data, difrod i feddalwedd neu galedwedd, colli ewyllys da, hawliadau gan drydydd partïon, gwastraffu amser rheolwyr neu swyddfa ac am unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag y cododd a boed a’i hachoswyd gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor contract neu fel arall, hyd yn oed os oedd yn rhagweladwy. 

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod, na'n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio ynghylch mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall nad oes modd ei eithrio neu ei gyfyngu o dan gyfraith berthnasol. 

Indemniad

Rydych chi'n cytuno i'n hindemnio a'n cael yn ddiniwed rhag unrhyw hawliad neu iawndal (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â'r hawliad neu iawndal) a wneir gan drydydd parti mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud â'ch defnydd o'r Wefan neu'r Gwasanaeth, neu'n deillio o'r defnydd hwnnw, neu'n deillio o unrhyw doriad neu doriad tybiedig o'r Telerau hyn gennych chi neu dorri unrhyw gyfraith neu hawliau unrhyw drydydd parti.

Defnyddio, addasu, atal a therfynu'r gwasanaeth

Gallwch ganslo eich cofrestriad ar gyfer y Gwasanaeth ar unrhyw adeg drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y Wefan. 

Rydym ni'n cadw'r hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i'w gilydd yn ôl ein disgresiwn llwyr a chyda neu heb rybudd: 

(a) i wrthod caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu'r Wefan neu unrhyw ran ohoni ac i wrthod darparu'r Gwasanaeth i unrhyw ddefnyddiwr sy'n torri'r Telerau hyn; neu 

(b) i addasu neu derfynu'r Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohono), neu eich defnydd o'r Gwasanaeth, dros dro neu'n barhaol. Rydych chi'n cytuno na fyddwn ni'n atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o’r fath o addasu, atal neu derfynu'r Gwasanaeth; neu 

(c) i ganslo eich cofrestriad neu dynnu eich hawl i ddefnyddio'r Gwasanaeth (neu unrhyw ran ohono) yn ôl. 

Rydych chi'n cytuno na fyddwn ni'n atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw ganslo neu dynnu'n ôl o'r fath.

Mae ein hawliau o dan y paragraff hwn yn ychwanegol at ein holl hawliau a rhwymedïau eraill o dan y Telerau hyn neu fel arall ac nid ydynt yn lleihau effaith yr hawliau a’r rhwymedïau hynny.

Sut rydym ni'n defnyddio eich gwybodaeth

Mae Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau diogelu data am yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni o ddifrif. I ddysgu mwy am sut rydym ni'n defnyddio ac yn rheoli eich data personol, ewch i'n hysbysiad preifatrwydd

Rhyddid gwybodaeth

Rydym ni'n ddarostyngedig i'r cyfreithiau sy'n llywodraethu mynediad at wybodaeth fel y nodir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a deddfwriaeth berthnasol arall. 

Er ei bod yn bosibl i'r holl wybodaeth a rowch i ni gael ei datgelu, mae eithriadau i ddatgelu a all ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth sensitif yn fasnachol. Byddwn ni'n ymatal rhag datgelu gwybodaeth lle mae modd dangos tystiolaeth bod yr wybodaeth yn wirioneddol gyfrinachol neu lle byddai datgelu'r wybodaeth yn niweidiol i'ch buddiannau masnachol chi, neu ein buddiannau masnachol ninnau, a lle bydd cyflwyno'r eithriad er budd cyhoeddus tra phwysig. 

Byddwn ni fel arfer yn ymgynghori â chi os byddwn ni'n cael cais am yr wybodaeth rydych chi wedi'i darparu. 

Er gwaethaf y darpariaethau uchod, efallai y byddwn ni'n datgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi os ydym o'r farn, yn ôl ein disgresiwn llwyr, bod rhaid i ni ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu unrhyw ofynion statudol eraill. 

Diweddariadau i'r wefan a'r gwasanaeth

Ein nod yw diweddaru'r Wefan a'r Gwasanaeth yn rheolaidd, a gallwn ni newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Er ein bod ni'n gwneud pob ymdrech resymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y Wefan, nid ydym ni'n gwneud unrhyw sylwadau neu warantau, boed yn benodol neu'n ymhlyg, bod y cynnwys ar y Wefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol. Gall unrhyw ran o'r deunydd ar y Wefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg benodol, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom ni i ddiweddaru deunydd o'r fath. 

Rydym ni'n cadw'r hawl ar unrhyw adeg heb rybudd i ddiwygio, addasu, newid neu ddiweddaru'r Wefan, y Gwasanaeth neu'r Telerau hyn ac rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau o'r fath sy'n cael eu postio ar y Wefan. Trwy barhau i ddefnyddio'r Wefan yn dilyn postio unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau, byddwch chi'n nodi eich bod chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y diwygiadau hynny. Chi sy'n gyfrifol am wirio'r Telerau hyn a'r Wefan yn rheolaidd am unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau.

Os bydd angen, gallwn atal neu derfynu mynediad i'r Wefan neu'r Gwasanaeth.

Dolenni i drydydd partïon

Mae’n bosibl y byddwn ni'n darparu dolenni o'r Wefan i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon. Ni fyddwn ni'n atebol mewn unrhyw ffordd ac nid ydym ni'n gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau, argymhellion nac ardystiadau mewn cysylltiad ag argaeledd unrhyw wefan trydydd parti o'r fath nac unrhyw gynnwys, hysbysebion, cynhyrchion na gwasanaethau sydd ar wefannau o'r fath neu ar gael ohonynt. 

Drwy gynnig y dolenni y cyfeirir atynt uchod, nid ydym ni'n cymeradwyo yn benodol nac ymhlyg unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys ar wefannau o'r fath nac yn cadarnhau unrhyw gysylltiad â gweithredwyr gwefannau o'r fath. Rydym ni'n eithrio atebolrwydd am unrhyw gynnwys anghywir, sarhaus, difenwol neu anweddus sy'n ymddangos ar y gwefannau trydydd parti hyn.

Feirysau, hacio a throseddau eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio'r Wefan drwy fynd ati’n fwriadol i gyflwyno feirysau, feirysau Ceffyl Pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Rhaid i chi beidio â cheisio cyrchu heb awdurdod y Wefan neu'r Gwasanaeth, y gweinydd y maent wedi'u storio arno nac unrhyw weinydd, unrhyw gyfrifiadur neu unrhyw gronfa ddata sy'n gysylltiedig â nhw. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y Wefan drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth nac ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig. 

Trwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech chi'n cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn ni'n adrodd am unrhyw dramgwydd o’r fath i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn ni'n cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Yn achos tramgwydd o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth yn dod i ben ar unwaith. 

Ni fyddwn ni'n atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad gwrthod gwasanaeth, feirysau neu ddeunydd arall sy'n niweidiol yn dechnolegol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchenogol arall o ganlyniad i’ch defnydd o'r Wefan neu'r Gwasanaeth neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd sydd wedi'i bostio arni, neu ar unrhyw wefan sy'n gysylltiedig â hi. 

Dolenni i'r wefan

Gallwch chi osod dolenni i'r Wefan, cyn belled â'ch bod chi'n gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond rhaid i chi beidio â gosod dolen mewn ffordd sy'n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan lle nad yw’n bodoli. 

Rhaid i chi beidio â gosod dolen i'r Wefan o unrhyw wefan arall nad ydych chi’n berchen arni. 

Ni chaniateir fframio'r Wefan ar unrhyw wefan arall. Rydym ni'n cadw'r hawl i dynnu’r caniatâd i osod dolen yn ôl heb rybudd. 

Os hoffech wneud unrhyw ddefnydd o ddeunydd ar y Wefan ac eithrio'r hyn a nodir uchod, cyflwynwch ymholiad i  MilfordHavenFisheriesOffice@llyw.cymru

Cyfraith ac awdurdodaeth berthnasol

Bydd y Telerau ac Amodau hyn, eu pwnc a'u ffurfiant (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn rhai contractiol) yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lwyr dros unrhyw hawliad sy'n deillio o ymweliad â'r Wefan neu ddefnydd o'r Gwasanaeth, neu'n gysylltiedig â hynny. 

Amrywiadau

Caniateir i ni ddiwygio'r Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio'r dudalen hon. Mae disgwyl i chi wirio'r Telerau o bryd i'w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnaed gennym, gan eu bod yn eich rhwymo. Os byddwch chi'n parhau i ddefnyddio'r Wefan a'r Gwasanaeth, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod chi'n derbyn y newid. Gall rhai o'r darpariaethau yn y Telerau hyn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar y Wefan. 

Cyffredinol

Nid ydym ni'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r Telerau hyn pan fo methiant o'r fath oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol. Ni fyddwn ni'n atebol am unrhyw fethiant, atal neu derfynu mynediad i'r Wefan neu'r Gwasanaeth sy'n deillio o ddigwyddiad force majeure, neu sy'n deillio o weithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol neu os nad yw ein gweinyddwyr yn gweithio. Bydd digwyddiad force majeure yn cynnwys, heb gyfyngiad, methiant seilwaith, ymyrraeth gan y llywodraeth, rhyfeloedd, cynnwrf sifil, herwgipio, tân, llifogydd, storm, streiciau, argyfyngau cau allan, ymosodiadau terfysgol neu weithredu diwydiannol sy'n effeithio arnom ni neu ein cyflenwyr.

Ni fydd unrhyw fethiant neu oedi ar ein rhan ni o ran arfer unrhyw hawl neu rwymedi o dan y Telerau hyn yn gweithredu fel hepgoriad o unrhyw hawl neu rwymedi o'r fath nac yn atal ei arfer ymhellach neu arfer unrhyw hawl neu rwymedi arall. 

Mae penawdau adrannau wedi'u cynnwys er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn  effeithio ar ddehongliad y Telerau hyn. 

Os bernir bod unrhyw un o'r Telerau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu'n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd yn cael ei ddileu a bydd y telerau ac amodau sy'n weddill yn parhau mewn grym. 

Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau hyn (fel y'u diwygir gennym o bryd i'w gilydd) yn creu unrhyw hawl neu fudd i unrhyw drydydd parti o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl na rhwymedi trydydd parti sy'n bodoli neu sydd ar gael ac eithrio o dan y Ddeddf honno. 

Pryderon ac adborth

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am unrhyw agwedd ar y Wefan neu'r Gwasanaeth, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi roi adborth arall, cysylltwch â TystiolaethaThechMor@llyw.cymru.