Cyn bo hir, bydd cannoedd o fusnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i leihau eu costau rhedeg.
Bydd grantiau rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden.
Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol, sy'n gronfa gwerth £20 miliwn, yn helpu busnesau i gryfhau eu sefyllfa fasnachu yn y dyfodol. A hynny trwy gynyddu proffidioldeb wrth fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwelliannau i adeiladwaith eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Mae'r argyfyngau parhaus o ran costau byw a chostau gweithredu yn parhau i beri anawsterau i fusnesau ledled Cymru.
Bydd y grantiau hyn yn helpu busnesau micro, bach a chanolig o'r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden i wneud rhai newidiadau sylweddol yn y ffordd y maent yn gweithredu fel y gallant addasu ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Mewn cyfnodau o galedi, rydym eisiau helpu busnesau i leihau eu biliau. Bydd y gronfa newydd hon yn helpu i leihau costau rhedeg gan roi cymorth ymarferol sy’n cynorthwyo cynllunio busnes yn yr hirdymor.”
Rydym hefyd am y bumed flwyddyn o'r bron wedi helpu busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch â'u biliau ardrethi busnes, am gost o £78 miliwn. Mae hyn yn ychwanegol at y bron i £1 biliwn o gymorth a ddarparwyd eisoes gan gynlluniau rhyddhad ardrethi i'r sectorau hyn ers 2020-21.
Bydd y grantiau'n cael eu talu hyd at 75 y cant o gostau'r prosiect neu £10,000, pa un bynnag yw'r swm lleiaf. Disgwylir i'r busnes gyfrannu'r 25 y cant o'r costau sy'n weddill o ffynonellau eraill.
Mae'r gronfa ar agor i fusnesau yng Nghymru (naill ai sydd â'u pencadlys yng Nghymru neu sydd â chyfeiriad gweithredol yno) ac sy'n cyflogi pobl yng Nghymru.
Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ganol mis Ebrill 2024 a bydd ceisiadau'n agor ym mis Mai 2024.