Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Cynhaliwyd gweithdy ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn mewn modd cyfrifol ar 15 Chwefror, yn dilyn yr Uwchgynhadledd ar Berchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn: Gweithredu ar Gŵn Peryglus a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023.
Roedd y gweithdy diweddaraf yn gyfle i dynnu sylw at fesurau a’r hyn a gyflawnwyd ers yr uwchgynhadledd gyntaf, gan ddangos sut mae'r dull cydweithredol amlasiantaethol yn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau ac annog perchnogion a bridwyr i fod yn gyfrifol.
Ein huchelgais yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd da. Mae ein Cynllun Lles Anifeiliaid 2021-2026 yn hyrwyddo safonau rhagorol, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, camau gorfodi effeithiol, ymchwil ac addysg, er mwyn ymgorffori perchnogaeth gyfrifol a hyrwyddo lles anifeiliaid. Bydd y gyfres o weithdai a digwyddiadau rhanddeiliaid, a gynhelir yn ystod 2024, yn rhan allweddol o gyflawni'r nodau hyn.
Roedd y gweithdy ym mis Chwefror yn ddigwyddiad hybrid gyda thros 50 o bobl yn bresennol o ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys heddluoedd, awdurdodau lleol, cyrff milfeddygol, iechyd y cyhoedd a sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys y rhai sy'n ymgyrchu dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd.
Cafwyd cyflwyniadau gan y Groes Las ar gyrsiau Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn a'r gwaith y mae’n ei wneud gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Rhoddodd Heddlu De Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am ei fenter LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn), gan hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol a diogel o ran cŵn a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dyma’r argymhellion allweddol o’r gweithdy:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Rheoliadau Bridio a Microsglodynnu presennol, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu safonau lles uchel a galluogi camau gorfodi effeithiol.
- Mynd i'r afael â'r gwahaniaethau rhwng rolau a chyfrifoldebau heddluoedd ac awdurdodau lleol ar orfodi, wrth ddelio â throseddau sy'n gysylltiedig â chŵn.
- Deall pa gamau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gofnodi a rhannu data ynghylch perchnogaeth ar gŵn rhwng asiantaethau, a fydd yn helpu i fonitro digwyddiadau, dychwelyd anifeiliaid at eu perchnogion, a lleihau beichiau ariannol a beichiau o ran adnoddau.
- Parhau i gydlynu negeseuon a chefnogi ymgyrchoedd ymgysylltu â'r cyhoedd ac addysg, hyrwyddo lles anifeiliaid a sicrhau diogelwch y cyhoedd, gan bob sefydliad.
Mae'r digwyddiad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer 30 Ebrill.