Diweddariad 3 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Ynni cymunedol a lleol
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
14. Adnoddau ar gyfer Ynni cymunedol / lleol
Argymhelliad
Byddwn yn cynyddu adnoddau i gefnogi ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru gan gynnwys:
a. Gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyda staff a chymorth ariannol i sicrhau darpariaeth ar gyfer datblygu prosiect gwres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth gymunedol (gan barhau gyda thrydan adnewyddadwy) a chymorth ar gyfer perchnogaeth a rennir
b. Camau gan y llywodraeth i annog datblygwyr preifat i gynnwys opsiynau ar gyfer rhannu perchnogaeth leol a chymunedol, gan gynnwys trwy dendrau a gyhoeddwyd ar dir cyhoeddus.
c. Cyllid Llywodraeth Cymru i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i'w helpu i ddechrau graddio eu gwaith a mentora sefydliadau llai, i greu sector mwy a chynaliadwy.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Ar ffurf grantiau adnoddau, rhoddwyd cyllid i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i’w helpu i ddechrau graddio eu gwaith.
Camau nesaf at gwblhau
- Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.
- Mae’r gwaith hwn wedi esblygu’n naturiol i greu rhaglen Ynni Cymru.
- Mae’r rhai sy’n cael cyllid grantiau adnoddau yn ymgysylltu ag Ynni Cymru fel rhan o weithgor rhanddeiliaid cymunedol.
15. CEW a Datblygwr dan Berchnogaeth Gyhoeddus (Ynni Cymru)
Argymhelliad
Byddwn yn sicrhau bod y sector sy'n eiddo i'r gymuned yn cymryd rhan ac yn rhoi mewnbwn i Ynni Cymru gan ystyried y 3 opsiwn canlynol:
a. Mae lles y sector ynni cymunedol ynghlwm yn y datblygwr dan berchnogaeth gyhoeddus
b. Mae LlC yn buddsoddi mewn sefydliad ynni cymunedol i ddarparu'r gwaith hwn e.e., YnNi Teg, Egni neu gwmni cydweithredol o gwmnïau Ynni cydweithredol.
c. Mae LlC yn buddsoddi yn y datblygwr ynni dan berchnogaeth gyhoeddus a datblygwr ynni sy'n eiddo i'r gymuned = dau gorff gydag adnodd i ddatblygu prosiectau.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
- Bydd Ynni Cymru yn ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned a systemau ynni lleol clyfar, lle caiff y buddion eu cadw yng Nghymru.
- Trwy ymgynghori â’r sector ynni a rhanddeiliaid allweddol, fel CEW a’r Gwasanaeth Ynni, rydym yn dechrau pennu blaenoriaethau a gweithgareddau uniongyrchol ar gyfer Ynni Cymru.
- Caiff Trydan Gwyrdd Cymru, sef datblygwr mawr sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, ei lywio gan gynrychiolydd cymunedol ar y Bwrdd.
Camau nesaf at gwblhau
- Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu achos busnes Ynni Cymru, a fydd yn pennu ei gwmpas, ei gylch gwaith a’i baramedrau gweithio.
- Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio yn y gwanwyn. Bydd ganddo Fwrdd annibynnol a fydd yn cynnwys cymwyseddau anweithredol ar gyfer cynyddu gwerth cymdeithasol gwaith y datblygwr.
16. Mynediad ynni cymunedol i’r ystad gyhoeddus
Argymhelliad
Byddwn yn gwella mynediad i'r ystâd gyhoeddus i'r sector ynni cymunedol drwy (a) mae gan fentrau cymunedol hawliau i gynnig cyntaf os nad yw'n cael ei ddatblygu gan gorff cyhoeddus (b) strwythuro prosesau tendro i ffafrio prosiectau / cynlluniau cymunedol cymdeithasol.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
- Mae gwaith yn dal i fod ar y gweill i bennu cyfleoedd ar gyfer datblygiadau gwynt ar yr ystâd goetir.
Camau nesaf at gwblhau
- Pan fydd Trydan Gwyrdd Cymru ar waith, ac ar ôl iddo bennu ei strategaeth ddatblygu, gellir ystyried rhoi ychwaneg o gyfleoedd i grwpiau cymunedol gael mynediad i’r ystâd. Bydd hyn yn cynnwys asesu capasiti datblygu cymunedol a’r archwaeth i fwrw ymlaen â phrosiectau.
- Wrth i Gynlluniau Ynni Ardal Leol gael eu cwblhau a’u cadarnhau, byddwn yn cynorthwyo’r sector ynni cymunedol i ystyried y modd y gall grwpiau cymunedol fynd ati yn y ffordd orau i gyflawni’r cyfleoedd cynhyrchu a bennir ganddynt.
17. Canllawiau perchnogaeth
Argymhelliad
Byddwn yn cwblhau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r canllawiau ar ranberchnogaeth, gan gynnwys yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad o 'ranberchnogaeth', ac yn gweithio'n agos gyda datblygwyr preifat i gael yr effaith fwyaf posibl. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2022.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
- Mae diweddariadau blaenorol wedi cyflwyno gwybodaeth am gyhoeddi canllawiau ar Ranberchnogaeth Prosiectau Ynni yng Nghymru.
Camau nesaf at gwblhau
- Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy