Neidio i'r prif gynnwy

7. Adolygiad CNC

Argymhelliad 

Byddwn yn cynnal adolygiad o gydsynio a chefnogi tystiolaeth a chyngor, er mwyn sicrhau proses amserol a chymesur gan gynnwys:

  1. Adolygiad o'r dechrau i'r diwedd o'r prosesau cynghori ar drwyddedu morol, cydsynio a chefnogi i gael gwared ar rwystrau, gan dynnu ar waith y grwpiau presennol
  2. Adolygiad o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori i gadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adolygiad brys o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr CNC
  3. Nodi bylchau o ran tystiolaeth forol a dulliau o'u llenwi, er mwyn hwyluso'r broses ymgeisio
  4. Adolygu a mapio'r broses ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar y tir i gael trwydded amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar dechnolegau Newydd
  5. Nodi opsiynau ar gyfer rhyddhau capasiti ac ailgyfeirio adnodd i feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt

Byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau yn ystod haf 2022, ar wahân i bwynt b. y byddwn yn adrodd arno yng ngwanwyn 2022.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

  • Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o Drwyddedu Morol, cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi adnoddau ychwanegol i CNC. Mae’r cyllid ychwanegol wedi galluogi CNC i recriwtio 16 o staff newydd i gynyddu ei gapasiti o ran swyddogaethau rheoleiddio a chynghori, ac mae’r cyllid yn galluogi CNC i gyflwyno gwelliannau i’r broses trwyddedu morol er budd yr holl ddefnyddwyr, gan sicrhau bod y broses trwyddedu morol mewn sefyllfa gryfach i ategu uchelgeisiau Gweinidogion Cymru o ran defnyddio ardal forol Cymru mewn modd cynaliadwy.
  • Cyhoeddwyd  cyfresddiweddaraf CNC o fylchau o ran tystiolaeth forol ac arfordirol ar eu gwefan (Cyfoeth Naturiol Cymru / blaenoriaethau o ran tystiolaeth forol ac arfordirol). Mae nifer fawr o’r rhain yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy alltraeth. Parhau mae’r gwaith ar ystyried adnoddau i ddatblygu gwaith blaenoriaeth uchel.
  • Mae CNC yn parhau i weithio gyda phartneriaid allanol ar fentrau tystiolaeth alltraeth strategol, fel y nodwyd yng nghyfnod 1. Hefyd, rydym yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer cynnal prosiectau ar y cyd â Phrifysgolion, ond mae hyn oll yn ddibynnol ar allu Prifysgolion i gael gafael ar gyllid ymchwil.
  • Rydym wedi cwblhau’r gwaith i ddarganfod  bylchau tystiolaeth ar y tir  yn ôl math o dechnoleg.

Camau nesaf at gwblhau

  • Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda CNC i gyflawni gwelliannau o fewn y broses, ac mae CNC yn mynd ati’n rheolaidd i lunio adroddiadau i swyddogion polisi trwyddedu morol ar sail y camau gweithredu.
  • Mae’r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan CNC i symleiddio’r prosesau cydsynio yn hollbwysig o ran helpu i osgoi risgiau yn y broses benderfynu. Dangoswyd hyn pan roddwyd cydsyniad i brosiectau mawr fel Morlais, Awel-y-Môr ac Erebus, y fferm wynt alltraeth arnofiol gyntaf yng Nghymru – dyma arwydd o broses gydsynio sy’n galluogi.

8. Ardaloedd adnoddau strategol morol

Argymhelliad  

Byddwn ni, gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol, yn nodi 'meysydd adnoddau strategol' morol erbyn 2023, ac yn rhoi arweiniad i gyfeirio meysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu technolegau ynni adnewyddadwy gwahanol. Bydd ein polisïau cynllunio morol, trwyddedu a chadwraeth forol yn cydweithio i gynnig llwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Yn ystod y cyfnod hwn, cwblhawyd gwaith mapio technegol i lywio ystyriaethau o ran pennu meysydd adnoddau strategol posibl.

Mae’r uchafbwyntiau allweddol yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys:

  • Cynnal digwyddiad terfynol i randdeiliaid i drafod y gwaith mapio technegol.
  • Cyhoeddi allbynnau mapio ar Borth Cynllunio Morol Cymru. 
  • Cynnal cyfres o sesiynau arddangos mapio i randdeiliaid.
  • Trafodaethau parhaus gyda rheoleiddwyr ynghylch anghenion canllawiau i ategu’r gwaith o weithredu meysydd adnoddau strategol.

Camau nesaf at gwblhau

  • Cyhoeddi’r mapiau adnoddau diweddaraf ar Borth Cynllunio Morol Cymru.
  • Cyhoeddi mapiau amgylcheddol diweddaraf CNC ar Borth Cynllunio Morol Cymru.
  • Cwmpasu’r dull o ymdrin â chynigion ar gyfer meysydd adnoddau strategol posibl.
  • Parhau i weithio gyda rheoleiddwyr ar anghenion canllawiau i ategu’r gwaith o weithredu meysydd adnoddau strategol.

9. Pwerau cynghori ar y môr (JNCC i CNC)

Argymhelliad

Wrth i ni geisio datganoli Ystâd y Goron, byddwn ni'n symleiddio'r broses o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy'r Môr Celtaidd gan gynnwys dirprwyo pwerau cynghori ar y môr o'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i CNC

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Ym mis Mai 2023, cynhaliodd CNC a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) waith ymgynghori penodol ar yr opsiynau ynglŷn ag adolygu cyfrifoldeb cynghori yn rhanbarth alltraeth Cymru. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r gofynion adnoddau ar gyfer CNC wrth drosglwyddo'r swyddogaethau hyn.

Camau nesaf at gwblhau

Datganoli Ystad y Goron

  • Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru yn unol â’r sefyllfa yng Nghymru. Rydym yn parhau i ddadlau o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru gerbron Llywodraeth y DU.