Yn y canllaw hwn
3. Gwneud cais
Ffoniwch Nyth am ddim ar 0808 808 2244 (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9am i 6pm) neu wneud cais am alwad yn ôl gan Nyth.
Gallwch hefyd anfon e-bost advicewales@est.org.uk.
Croesawir galwadau ac e-byst yn Gymraeg.
Os nad ydych yn credu eich bod yn gymwys neu os nad ydych yn siŵr, gallwch barhau i alw am gyngor effeithlonrwydd ynni. Gallwn helpu gyda grantiau eraill, tariffau ynni a gwirio a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau.
Os ydych yn gymwys, byddwn yn trefnu bod asesydd yn ymweld â chi ac yn casglu mwy o wybodaeth am eich cartref. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu pecyn cymorth wedi'i deilwra sy'n benodol i chi a'ch cartref.