Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Fis diwethaf, cymerais y cam digynsail i benodi pedwar comisiynydd i fod yn gyfrifol am redeg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd hyn yn dilyn adroddiad damniol gan Fenella Morris KC a ddatgelodd lefelau parhaus o gamymddygiad gan staff, diwylliant camweithredol yn y gweithle a methiannau difrifol a systemig o ran rheolaeth ar bob lefel.
Dywedais y byddwn yn ystyried ar fyrder i ba raddau yr oedd materion tebyg yn bresennol yn y ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru. Ers hynny, rwyf wedi cyfarfod â phrif swyddogion gwasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru a chadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub i drafod adroddiad Morris a'i argymhellion. Yn y cyfarfodydd hyn, ceisiais gael sicrwydd am y diwylliant a'r gwerthoedd, a nodais fy nisgwyliadau am ddiwylliant y gweithle yn y gwasanaethau tân ac achub.
Mae'r ddau sefydliad wedi cychwyn ar raglenni cynhwysfawr i adolygu a gwella eu diwylliannau sefydliadol. Mae'r rhain yn adeiladu ar eu harolygon staff eu hunain; yn ceisio ymateb i adroddiad ITV News am Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru; canfyddiadau Adroddiad Sbotolau Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi yn Lloegr ac adroddiad Morris.
Ceir rhai enghreifftiau o arfer da yn y ddau wasanaeth, er enghraifft, mae gan bob gorsaf dân yng Ngogledd Cymru swyddog cymorth pwrpasol y gall staff siarad â nhw yn gyfrinachol, ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae gan unrhyw weithiwr yr hawl i godi unrhyw fater gyda rheolwyr ar unrhyw lefel.
Fodd bynnag, rwy'n parhau i dderbyn gohebiaeth gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr y ddau sefydliad, gan gynnwys honiadau o fwlio, aflonyddu rhywiol a dangos ffafriaeth wrth gynnig dyrchafiadau.
Mae angen rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd am y diwylliant a'r arferion rheoli cysylltiedig yn ein gwasanaethau tân ac achub ac mae angen i staff gael sicrwydd bod ganddynt fodd diogel ac effeithiol i rannu eu profiadau, boed hynny'n brofiadau da neu ddrwg, yn eu sefydliad.
Mae gwasanaethau tân ac achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru ill dau wedi cytuno i gynnal adolygiad annibynnol i
- Gynnal asesiad o sefyllfa bresennol y sefydliad mewn perthynas â chanfyddiadau Fenella Morris KC ac astudiaethau perthnasol eraill ynghylch diwylliant y gweithle; boddhad a chymhelliant staff; ymgysylltu â staff; trefniadau dyrchafu; trefniadau cwyno; ac amrywiaeth y gweithlu.
- Ystyried canlyniadau gwaith a gomisiynwyd eisoes gan y ddau sefydliad yn y meysydd hyn, megis arolygon ymgysylltu â staff, grwpiau ffocws a'r camau nesaf a gynigiwyd mewn ymateb.
- Nodi a blaenoriaethu cyfleoedd i wella, gydag amserlenni dangosol ar gyfer gweithredu.
- Ymgysylltu'n llawn ac yn agored â staff presennol a chyn-aelodau o staff a gyda phartïon eraill sydd â diddordeb fel rhan o'r uchod.
- Ymgysylltu a chynnwys yr undebau llafur a sefydliadau staff perthnasol fel y bo'n briodol yn y broses hon.
- Cynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi'n llawn, ac eithrio unrhyw fanylion lle y gellid adnabod unigolion.
Byddwn yn disgwyl i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru benodi cyn gynted â phosibl, a chyhoeddi adroddiad erbyn hydref 2024 fan bellaf. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.