Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Joseph Dooher, Pennaeth Trafnidiaeth Gymunedol a Bysiau (eitem 4)
  • Robbie Thomas, Pennaeth Deddfwriaeth Bysiau (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 15 Ionawr.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Weinidog yr Economi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Tata Steel.

Tata Steel

2.2 Dywedodd Gweinidog yr Economi wrth y Cabinet fod Tata Steel wedi cadarnhau ddydd Gwener y byddai'n cau'r ddwy ffwrnais chwyth sydd ar ôl ym Mhort Talbot, gan arwain at golli 2,500 o swyddi ar y safle, a 300 o swyddi eraill o fewn y ddwy i dair blynedd nesaf yn Llanwern yng Nghasnewydd.

2.3 Dywedwyd bod Gweinidogion y DU wedi methu â dadlau'r achos o blaid y cymhorthdal o £500m, rhywbeth a fyddai'n arwain at golli swyddi ar y raddfa hon a cholli'r gallu i wneud dur fel diwydiant brodorol yn y DU. Nid oedd yn glir pa ganlyniadau a flaenoriaethwyd, na pham y dewiswyd y lefel hon o gefnogaeth.  Roedd gan Lywodraeth y DU a'r cwmni yr adnoddau i roi trosglwyddiad cyfiawn ar waith a fyddai'n dda ar gyfer twf gwyrdd ac yn hanfodol ar gyfer diogelwch ar y cyd, yn enwedig o ystyried yr angen am ddur o ansawdd uchel i weithredu cynlluniau Ystad y Goron ar gyfer ynni gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.

2.4 Ar ben hynny, roedd pryder am y gadwyn gyflenwi ehangach, yn enwedig y Gwaith Dur yn Nhrostre, a'r golled gyffredinol mewn swyddi anuniongyrchol a allai fod mor uchel â thri neu bedwar am bob diswyddiad ym Mhort Talbot. Roedd pryderon hefyd na fyddai'r £100m a gynigir gan y Bwrdd Pontio i gefnogi gweithwyr yn ddigonol.

2.5 Roedd y Gweinidog wedi parhau i bwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach am gyfarfod i drafod dyfodol UK Steel, ond gwrthodwyd y ceisiadau hynny.  Roedd y Prif Weinidog wedi gofyn am alwad ffôn frys gyda Phrif Weinidog y DU ddydd Gwener, ond nid oedd ar gael.

2.6 Cydnabu'r Gweinidogion fod angen canolbwyntio ar chwilio am ffyrdd credadwy eraill ymlaen i'r busnes a fyddai'n osgoi'r angen am gynllun i golli'r ddwy ffwrnais a cholli swyddi ar raddfa mor fawr. Cytunwyd y dylai'r wybodaeth a gyfathrebir ganolbwyntio ar hyn a'r effaith ar y newid yn yr hinsawdd a fyddai'n deillio o'r ffaith bod DU yn ddibynnol ar fewnforion.

2.7 Byddai'r Gweinidog yn parhau i weithio gydag Undebau Llafur a Llywodraeth y DU i geisio osgoi colli swyddi ar raddfa mor fawr fel y rhagwelir, ac i chwilio am atebion amgen gyda'r cwmni. Nodwyd y byddai'r Gweinidog yn gwneud datganiad llafar i'r Senedd y diwrnod canlynol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet fod dau newid wedi bod i grid y cyfarfodydd llawn ers iddo gael ei gylchredeg, gyda'r datganiad ar Tata Steel yn cael ei ymestyn 15 munud, a bod datganiad ar Economi Blaenau'r Cymoedd wedi'i ohirio tan sesiwn arall. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:15pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Cynllun gweithredu'r Bil Bysiau Trafnidiaeth Cymru

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y papur, a ofynnodd i'r Cabinet gytuno ar y cynllun gweithredu drafft a nodir yn y ddogfen Diwygio Gwasanaethau Bws yng Nghymru, a fyddai'n cael ei ddefnyddio i ymgysylltu ymhellach â'r sector.  

4.2 Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi cynhyrchu cynllun gweithredu, sef y Map Masnachfreinio, a oedd yn nodi sut y byddai'n mynd ati i weithredu Bil Bysiau (Cymru). Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid, a chynllunio gwasanaethau bws.

4.3 Byddai'n helpu i roi cyd-destun i'r Bil drwy sicrhau bod gan y diwydiant, Llywodraeth Leol a'r cyhoedd ddealltwriaeth gliriach o ran sut y byddai masnachfreinio'n gweithio'n ymarferol, a byddai'n creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig. Roedd hyn yn hanfodol er mwyn sbarduno newid mewn dulliau teithio a helpu i gyrraedd targedau Sero Net statudol sy'n ymwneud â thrafnidiaeth.

4.4 Mae'r map yn nodi tri amcan: darparu rhwydwaith bysiau a fyddai'n gysylltiedig â gweddill trafnidiaeth gyhoeddus ac yn hawdd ei ddeall; amserlenni cydgysylltiedig a fyddai'n hawdd eu defnyddio ac a fyddai'n caniatáu cysylltiadau ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru; a thocynnau symlach a fyddai'n galluogi teithio ar draws y system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, gyda phrisiau fforddiadwy a chyson.

4.5 Roedd y map hefyd yn cydnabod pwysigrwydd bysiau wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan fod menywod, pobl ddu Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a'r rheini sydd ar gyflogau isel neu sydd mewn swyddi ansicr i gyd yn debygol o ddefnyddio bysiau'n fwy nag eraill.

4.6 Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru i ystyried sut y gellid cynllunio'n fwy effeithiol i wella rhwydweithiau bysiau yn sylweddol. Roedd hyn wedi cynhyrchu naw egwyddor graidd ar gyfer cynllunio rhwydwaith, gan osgoi dyblygu a sicrhau bod y rhwydwaith mwyaf effeithlon posibl ar waith ar draws ardal benodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar nifer y teithwyr ar lwybrau unigol.

4.7 Croesawodd y Cabinet y papur gan gytuno bod y map ffordd yn gynllun da a chlir. Croesawyd hefyd y ffocws ar faterion cydraddoldeb a'r gwaith a oedd yn mynd rhagddo gyda gweithgor teithio'r Tasglu Hawliau Anabledd i wella teithio hygyrch. Byddai'n bwysig sicrhau diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus, i gadw bysiau'n ddiogel rhag hiliaeth a thrais ar sail rhywedd.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2024