Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): asesiad o’r effaith ar y Gymraeg
Asesiad effaith y Gymraeg ar effaith y Bil ar gyfer diwygio rhestrau ymgeiswyr etholiadol y Senedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r strategaeth newydd, gyda’r targed o filiwn o siaradwyr wedi’i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae iaith Gymraeg ffyniannus hefyd wedi’i chynnwys yn un o’r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae rhwymedigaeth statudol arnom hefyd i roi ystyriaeth lawn i effeithiau ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut mae ein polisïau’n effeithio ar yr iaith a’r rhai sy’n ei siarad.
Mae tair thema gydgysylltiedig i strategaeth Cymraeg 2050:
Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Trosglwyddo'r Iaith o fewn y teulu
- Y blynyddoedd cynnar
- Addysg statudol
- Addysg ôl-orfodol
- Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau
Thema 2: Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
- Y gweithle
- Gwasanaethau
- Defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg
Thema 3: Creu amodau ffafriol - seilwaith a chyd-destun
- Cymuned a'r economi
- Diwylliant a'r cyfryngau
- Cymru a'r byd ehangach
- Technoleg ddigidol
- Seilwaith ieithyddol
- Cynllunio ieithyddol
- Gwerthuso ac ymchwil
Ni ystyrir bod cyflwyno cwotâu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd yn effeithio'n uniongyrchol ar y tair thema yn strategaeth Cymraeg 2050.
Fodd bynnag, gall cynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd gael effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar y Gymraeg. Y rheswm am hyn yw bod potensial i'r iaith ymddangos yn fwy amlwg mewn dadleuon cyhoeddus – er enghraifft, o ran ei defnydd mewn addysg, wrth ddarparu gwasanaethau ac mewn cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol. Awgryma ymchwil fod cynrychiolwyr etholedig benywaidd yn rhoi mwy o ffocws i bolisïau sy'n ymwneud â'r gymdeithas sifil, plant a theuluoedd (Clayton 2021). Felly, o ganlyniad i nod cyffredinol y polisi cwota, sef gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, drwy sicrhau ei bod yn adlewyrchu cyfansoddiad y boblogaeth o ran rhywedd yn fras, efallai y bydd cynnydd yn y sylw penodol i bynciau sy'n ymwneud â'r Gymraeg, ac mewn dadleuon ar y pynciau hynny. Gallai hyn gynnwys addysg Gymraeg a digwyddiadau diwylliannol Cymraeg (Aelwydydd Cymraeg a throsglwyddo 2013).
Nodwyd effaith gadarnhaol bosibl arall ar y Gymraeg yn sgil cyflwyno'r cynigion cwota. Pe bai nifer uwch o fenywod iau yn cael eu hethol o ganlyniad i'r cwotâu, gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer y menywod hynny sy'n siarad Cymraeg. Nodir hyn mewn ymchwil sy'n dangos bod:
proffil oedran siaradwyr Cymraeg yn iau na'r boblogaeth gyffredinol. O'r rheini adroddodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, roedd dros hanner yn iau na 33 oed a thri chwarter yn iau na 57 oed
Hefyd, nodir bod y:
ganran o ferched tair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn parhau'n uwch na'r ganran gyfatebol ar gyfer dynion, gyda'r bwlch ar ei fwyaf ar gyfer y boblogaeth 16 i 18 oed
(Y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth (Cyfrifiad 2021) 2024)
Gallai hyn arwain at greu modelau rôl cadarnhaol i'r Gymraeg o ganlyniad i bobl yn gweld aelodau blaenllaw'r byd cyhoeddus yn defnyddio'r iaith yn y Senedd fel gweithle ac wrth ryngweithio â'r etholwyr neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys gosod gofynion ar ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol a Swyddogion Canlyniadau Etholaethol, yn ogystal â chreu rôl newydd, sef Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau cwota. Yng nghyd-destun etholiadau'r Senedd, mae Safonau'r Gymraeg ar hyn o bryd yn gymwys i'r Comisiwn Etholiadol sy'n rhoi arweiniad i bleidiau, ymgeiswyr a Swyddogion Canlyniadau Etholaethol ar gymhwyso'r gyfraith etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd.
Nid yw'r safonau yn gymwys i Swyddogion Canlyniadau Etholaethol ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae'r adrannau gwasanaethau gweinyddu etholiadau o fewn awdurdodau lleol yn darparu ffurflenni enwebu ar gyfer ymgeiswyr etholiadol a phleidiau gwleidyddol. Mae'r ffurflenni hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg (mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn darparu ar gyfer y ffurflenni yn y ddwy iaith yn Atodlen 10). Felly, ni fydd newidiadau a wneir i'r system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd o ganlyniad i'r cynigion ar gyfer cwotâu yn cael unrhyw effaith andwyol ar allu'r rhai sy'n ymwneud â'r etholiad i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy gyfrwng y Gymraeg.