Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, yn ystyried y mater o ddatganoli plismona a'r system cyfiawnder troseddol, a sut y dylid gweithredu system o'r fath yng Nghymru. Disgwyliwn am gasgliadau'r Comisiwn.
Yn y cyfamser, mae heriau cynyddol yn codi wrth reoli'r galw am wasanaethau cyhoeddus gan y rheini yn y system cyfiawnder troseddol, neu'r rheini yr effeithir arnynt gan fod aelod o'u teulu yn rhan o'r system. Er mai Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros gyfiawnder troseddol, mae'r system yng Nghymru yn wynebu heriau.
Rwy'n bryderus y bydd y galw ar wasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i gynyddu, ac y bydd pobl o fewn ein system cyfiawnder troseddol yn dioddef canlyniadau gwaeth os na fyddwn yn cynnal trafodaethau ystyrlon a manwl â Llywodraeth y DU. Rwy'n arbennig o bryderus nad yw rhai o'r dynion a'r menywod yng Nghymru sydd wedi'u hanfon i'r carchar yn cael y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn sicrhau bod modd eu hadsefydlu'n effeithiol a'u cefnogi i beidio ag aildroseddu.
Wrth inni aros i'r Comisiwn ar Gyfiawnder ddod i'w gasgliadau, mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu dull gweithredu gwahanol a neilltuol sy'n adlewyrchu anghenion pobl Cymru, ond sydd hefyd yn fwy cydnaws â'n gwasanaethau cyhoeddus a'n polisïau.
Mae hyn yn cynnwys deall yn well pam fod pobl yn mynd i'r carchar a'r hyn y gallwn ei wneud i rwystro llawer rhag cael eu hanfon yno, yn aml am ddedfryd fer sy'n cael effaith drychinebus ar eu bywydau.
Hyd nes y byddwn wedi ystyried hyn yn fanylach, a chynnal trafodaethau manwl â Llywodraeth y DU, nid wyf yn credu y byddai mwy o waith datblygu carchardai o fudd i Lywodraeth Cymru na phobl Cymru. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi gwybod iddo na fyddwn yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu carchardai ymhellach yng Nghymru heb i drafodaethau mwy ystyrlon gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru.
Byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau ynghylch hynt unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.