Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cadernid Meddwl, canfyddiadau ei ymchwiliad i gefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Roedd yr adroddiad yn galw am ddatgan bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig, ac ym mis Gorffennaf fe drafodwyd yr adroddiad a'n hymateb ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn. Yn ddigon teg, roedd teimladau cryf iawn ymysg Aelodau'r Cynulliad am y testun pwysig hwn. Ers y drafodaeth, rydym wedi bod yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i adnabod a chyflymu'r gwaith da sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn, a sicrhau gwir ddull ysgol gyfan i hybu iechyd meddwl a llesiant.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi llesiant emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Rydym eisoes wedi datgan bod hyn yn flaenoriaeth yn Ffyniant i Bawb - gan dynnu sylw at swyddogaeth bwysig ysgolion yn sylwi ar broblemau yn gynnar a'r angen i arfogi plant a phobl ifanc â ffyrdd o ddygymod â'r straen o dyfu i fyny. Rydym hefyd wedi gwneud iechyd meddwl yn un o bum blaenoriaeth genedlaethol, i herio Llywodraeth Cymru i ystyried ei effaith ar iechyd a llesiant meddyliol.
Rydym wedi bod yn cyflawni dros y blynyddoedd diwethaf ar draws nifer o feysydd, gydag amrywiol bartneriaid. Mae hyn yn cynnwys datblygu cwricwlwm newydd gyda'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant; cefnogi Rhwydwaith o Gynlluniau Ysgolion Iach; a lansio rhaglen ysgolion Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed 2017. Fodd bynnag, rydym yn cytuno â'r Pwyllgor bod angen cymryd camau pellach, ynghyd â chynlluniau, adnoddau ac ymrwymiad i sicrhau newid gwirioneddol.
Gyda'i gilydd, mae gan ein gwaith ni a gwaith ein partneriaid ar draws y sector statudol a'r trydydd sector, y potensial i gyflawni'r newid sylweddol yr ydym i gyd am ei weld. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod y maes hwn yn un prysur iawn, gydag amryw o bartneriaid a mentrau oll yn cyfrannu at yr agenda. O ganlyniad, mae perygl o ddiffyg cyfathrebu, dyblygu gwaith a chystadlu mewn maes lle mae pawb yn gweithio gyda'r bwriad gorau ac er lles y person ifanc.
Rydym felly wedi cytuno i roi sylw o'r newydd i ymdrin ag iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc ar lefel 'ysgol gyfan', gan gefnogi’r gwaith ehangach sy’n mynd rhagddo i ddiwygio cymorth iechyd meddwl. Fel rhan o ymdrech amlasiantaethol, mae rôl bwysig gan ysgolion wrth geisio cyflawni’r nod uchelgeisiol o feithrin poblogaeth o blant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n emosiynol gryf ac yn iach yn feddyliol.
Byddai ymdrin â hyn ar lefel 'ysgol gyfan' yn sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn dod yn rhan ganolog o'r ffordd mae ysgolion yn gweithio a bydd yn cyffwrdd â sawl agwedd ar fywyd ysgol. Golyga hyn y bydd ethos yr ysgol yn cefnogi iechyd a lles meddyliol ehangach dysgwyr a fydd yn ei dro yn helpu i osgoi problemau eraill rhag datblygu neu waethygu, gan gynnwys problemau yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Rydym hefyd wedi cytuno i ffurfio Cyd-grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion er mwyn cyflymu ein gwaith i gyflawni’r dull ysgol gyfan hwn. Byddwn yn cadeirio'r Grŵp gyda'n gilydd, gan uno rhanddeiliaid strategol allweddol o fyd addysg, iechyd, y sector cyhoeddus ehangach a'r trydydd sector. Mae Lynne Neagle AC wedi cytuno i arsylwi ar waith y Grŵp yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a bydd yn cyfrannu ato hefyd. Bydd y grŵp yn caniatáu i ni symud ymlaen â chamau nesaf yr agenda hon ar fyrder; uno'r gwahanol ffrydiau o weithgaredd; tynnu sylw at fylchau yn y ddarpariaeth; a sicrhau bod ynni ac adnoddau yn cael eu targedu i gael yr effaith fwyaf bosib.
Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion yn cael cymorth grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod yr holl asiantaethau sydd â rhan wrth gyflawni dull ysgol gyfan yn cael eu cynnwys yn briodol yn y rhaglen. Elfen ganolog o hyn yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu eu sylwadau i helpu gyda'r gweithgaredd sy'n effeithio'n uniongyrchol arnynt.
Nid oes cytundeb eto ar y rhaglen waith fanwl ar gyfer y ddau grŵp, ond bydd yn seiliedig ar weithdy amlasiantaethol ac amlbroffesiwn yr ydym yn ei gynnal ar 7 Medi. Yma, gyda'n partneriaid, byddwn yn edrych ar ein dealltwriaeth o ystyr 'dull ysgol gyfan'; nodi ein cyfraniadau ar y cyd; a gweld lle mae bylchau posib yn bodoli. Bydd canlyniadau'r gweithdy hwn yn cyfrannu at gyfarfod cyntaf Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion, y bwriedir ei gynnal yn fuan ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol ddychwelyd ar ôl y toriad.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddem yn hapus i wneud hynny.