Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi ailbenodiad Rona Aldrich, Gwyn Williams ac Elin Maher fel aelodau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Bydd ailbenodiad y tri yn cychwyn ar 1 Ebrill 2024 am gyfnod o dair blynedd.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sydd yn sefydlu’r Panel Cynghori, yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, i’r graddau bo hynny yn ymarferol, bod o leiaf tri ond dim mwy na phum aelod ar y panel ar unrhyw adeg. Mae ailbenodi Rona, Gwyn ac Elin yn ychwanegol i’r ddwy aelod presennol sef Anne Davies a Nia Elias yn sicrhau bod gan y panel yr ystod o sgiliau a phrofiadau sy’n angenrheidiol wrth iddynt roi cyngor i’r Comisiynydd ar faterion sydd yn berthnasol i’w swyddogaethau.
Wedi ei eni ym Mhwllheli a’i addysgu yn Wolverhampton, Bethesda, Aberystwyth a Preston, fe dreuliodd Gwyn Williams dros 25 mlynedd yn gweithio yn y cyfryngau. Bu’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg fel Cyfarwyddwr Hybu, Cyfathrebu a Gweinyddu gan ymuno ag S4C fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn 2015. Erbyn hyn mae o'n Brif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae’n aelod anweithredol o fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru ac yn byw ym Methel ger Caernarfon.
Gweithia Elin Maher fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg. Bu'n ymgynghorydd iaith ac addysg llawrydd ac y mae wedi cael amrywiol brofiadau yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i’w gwaith. Gan gychwyn fel athrawes ieithoedd uwchradd, gweithiodd Elin yn y sector gynradd fel athrawes ddosbarth ac fel athrawes ymgynghorol yn ogystal. Mae hefyd wedi gweithio yn y maes addysg bellach ac uwch yn goruchwylio myfyrwyr addysg. Bu’n gweithio i fudiad Menter Iaith Casnewydd ac i Gyngor Bwrdeistref Torfaen. Mae’n enedigol o Gwm Tawe ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers dros ugain mlynedd. Mae’n parhau i weithio’n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a’r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraethwraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.
Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd, ac mae ganddi radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy. Mae credu'n gryf fod gan bawb mewn cymdeithas yr hawl i fynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math. Ar ôl cyfnod o fod yn hunan-gyflogedig, mae erbyn hyn yn Is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Dros y blynyddoedd mae wedi dal nifer o swyddi yn lleol ac yn genedlaethol gan gynnwys i Lywodraeth Cymru ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU.