Canllawiau i awdurdodau lleol ac ysgolion ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Cynnwys
Trosolwg
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddysgwyr cymwys mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Yr awdurdod lleol lle mae'r dysgwr yn mynd i'r ysgol (nid lle mae'n byw) sy'n:
- darparu'r pryd ysgol am ddim
- asesu cymhwystra
Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru nawr yn gallu cael mynediad at Brydau ysgol am ddim i holl bant ysgolion cynradd. Mae'r canllawiau hyn felly'n cyfeirio at y dysgwyr hynny sy'n gymwys i gael pryd ysgol am ddim drwy'r meini prawf sy'n gysylltiedig â budd-daliadau.
At ddibenion y canllawiau hyn, mae 'rhiant' yn unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn, gan gynnwys rhieni maeth. Nid oes rhaid i'r plentyn fod yn byw gyda'r rhiant neu'r gofalwr sy'n ei wneud yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Pwy sy'n gymwys
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynd i'r ysgol yn llawnamser. Maen nhw'n cynnwys:
- plant iau sy'n gwneud diwrnodau llawn yn y meithrin
- disgyblion ysgol chweched dosbarth
Mae'n bosibl y bydd disgybl yn gallu cael prydau ysgol am ddim os yw ei riant yn derbyn un neu fwy o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Elfen warantedig Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant (ar yr amod nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth Gwaith hefyd a bod ei incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth)
- Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol (a delir am bedair wythnos ar ôl i rieni beidio â bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol (cyhyd â bod incwm blynyddol net yr aelwyd yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau)
Gall dysgwyr sy'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau hyn yn eu rhinwedd eu hunain (nid trwy riant) hefyd gael prydau ysgol am ddim.
Plant nad oes gan eu rhieni neu ofalwyr hawl i gyllid cyhoeddus
Rydym yn annog awdurdodau lleol i arfer eu disgresiwn i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i unrhyw blentyn y mae statws mewnfudo’i rieni yn golygu nad oes ganddo hawl awtomatig iddynt. Gall awdurdodau lleol benderfynu peidio â defnyddio’u pŵer cyfreithiol i godi tâl am brydau ysgol ar blant o deuluoedd sydd 'Heb hawl i gyllid cyhoeddus'.
Credydau Treth Gwaith
Nid yw rhieni sy'n derbyn Credyd Treth Gwaith yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim.
Fodd bynnag, bydd rhieni sy'n derbyn Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar yr amod eu bod yn bodloni gweddill y meini prawf cymhwystra. Telir Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol o 4 wythnos ar ôl i hawlydd beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith.
Dysgwyr mewn ysgol breifat
Nid oes rhaid i awdurdodau lleol ddarparu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr mewn ysgol breifat neu annibynnol.
Fodd bynnag, pan fo'r awdurdod lleol yn gosod disgyblion mewn ysgol annibynnol i ddiwallu eu hanghenion o dan ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ceir darpariaethau:
- yn Neddf Addysg 1996
- yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
mewn perthynas â darparu ac ariannu bwyd a llety gan yr awdurdod lleol. Os na ellir diwallu anghenion dysgwr mewn ysgol a gynhelir, ni fyddem yn disgwyl iddynt fod yn waeth eu byd os cânt eu rhoi mewn ysgol annibynnol.
Os oes gan ddysgwr ysgoloriaeth neu fwrsariaeth, dylai'r rhieni edrych i weld a yw'r cyllid hwn yn cynnwys dyraniad ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
Dylai fod ffurflen gais ar-lein a chanllawiau i rieni ar wefannau'r awdurdodau lleol. Dylai ysgolion ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon hefyd.
Amddiffyniad wrth bontio
Fe wnaeth yr hawl i amddiffyniad o dan y darpariaethau dros dro yn y Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio ddod i ben naill ai:
- ar 31 Rhagfyr 2023 neu
- ar ddiwedd y cyfnod presennol o addysg y disgybl cymwys (cynradd neu uwchradd) os yn ddiweddarach
Mae'n bwysig nodi, er bod y polisi wedi dod i ben, na ddylai unrhyw amddiffyniadau fod wedi dod i ben ar unwaith ar 1 Ionawr 2024.
Dylai dysgwyr barhau i gael prydau ysgol am ddim tan ddiwedd eu cyfnod ysgol os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:
- bod y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau etifeddol ar 31 Mawrth 2019
- daeth y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn Credyd Cynhwysol neu fuddion etifeddol o 1 Ebrill 2019 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2023
Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eu hamgylchiadau'n newid, ac nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwystra mwyach.
I ddysgwyr sy'n:
- dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 1 Ionawr 2024, neu'n
- parhau i fodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim wrth iddynt symud i'r ysgol uwchradd
ni fydd eu hawl i brydau ysgol am ddim yn cael ei diogelu mwyach os yw eu hamgylchiadau'n newid.
Cofnodi dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Y ffordd fwyaf cyffredin o nodi amddifadedd cymdeithasol mewn ysgolion yw drwy ddefnyddio cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim fel procsi. Statws cymhwystra yw'r data mwyaf dibynadwy o hyd ar lefel disgyblion i ddeall:
- pa ddysgwyr sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan dlodi,
- lle mae angen cefnogaeth
Felly, mae'n bwysig cofnodi pa ddysgwyr sy'n:
- gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM)
- destun amddiffyniad wrth bontio
- cael prydau am ddim drwy'r cynllun prydau ysgol an ddim i holl blant ysgolion cynradd
Defnyddir y data am gymhwystra i gael prydau ysgol am ddim mewn sawl ffordd ymarferol bwysig:
- cwblhau'r dyraniadau cyllid i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw
- pennu lefel y cyllid grant a ddyrennir i gyflwyno'r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru
- cyfrifo a dosbarthu dyraniadau cyllid ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion (cyllid ar gyfer ysgolion) a'r Grant Hanfodion Ysgol (cyllid ar gyfer teuluoedd)
Mae deunyddiau cyfathrebu wedi'u datblygu i'ch helpu i barhau i roi gwybod i deuluoedd am bwysigrwydd a gwerth cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Newidiadau i amgylchiadau teuluol
Gall newid mewn amgylchiadau effeithio ar daliadau budd-daliadau. Gallai hyn gynnwys newid yn y canlynol:
- statws perthynas
- costau gofal plant
- oriau gwaith
- lefelau incwm
- amgylchiadau’r plentyn neu’r person ifanc
- a yw rhiant yn gadael y DU am fwy na 4 wythnos
Dylai awdurdodau lleol annog rhieni i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau a allai effeithio ar eu hawl i brydau ysgol am ddim. Dylid eu hannog hefyd i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu eu Canolfan Byd Gwaith leol (yn dibynnu ar y budd-dal).