Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG dyddiad newydd (WHC/2024/010)
Gwybodaeth a ddiweddarwyd am y Gynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru efo manylion am sut i ymgeisio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Gweithredu.
Categori:
Y gweithlu.
Teitl:
Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru, diweddariad.
Dyddiad dod i ben:
30 Mehefin 2024.
I’w weithredu gan:
- Prif weithredwyr y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr meddygol y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr ac arweinwyr ymchwil a datblygu y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr therapïau a gwyddorau iechyd y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr cynllunio y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr gweithlu a datblygu sefydliadol y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
- Cyfarwyddwyr cyllid y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
Angen gweithredu erbyn:
Uniongyrchol.
Anfonwr:
Rachel Gardiner,
Newid Hinsawdd ac EPH,
y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Rachel.Gardiner@llyw.cymru.
Enw(au) cyswllt Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru Llywodraeth Cymru:
Y Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd:
- Ann Corp, Newid Hinsawdd ac Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ann.Corp@llyw.cymru.
- Maureen Potter, Newid Hinsawdd ac Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Maureen.Potter@llyw.cymru.
- Blwch Post Argyfwng Hinsawdd ac Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd: IGC.ArgyfwngHinsawddacEPH@llyw.cymru
Dogfennau amgaeedig:
Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru:
Dogfen Categorïau a Chanllawiau.
Poster Gwnewch Gais Nawr.
Poster Arbed y Dyddiad.
Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru, diweddariad
Y cefndir
Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd i Gymru er mwyn sbarduno mwy o ffocws a gweithgarwch wrth inni ymateb i’r heriau sy’n codi yn sgil yr argyfwng hinsawdd.
Mae gan Gymru darged sy’n ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050, ochr yn ochr ag uchelgais i’r sector cyhoeddus cyfan fod yn garbon sero net erbyn 2023.
Yn 2018 i 2019, amcangyfrifwyd mai 1,001,378 tCO2e oedd ôl troed carbon GIG Cymru, ac mae’r 'allyriadau iechyd' hyn oddeutu 2.6% o gyfanswm allyriadau Cymru.
Er mai Llywodraeth Cymru sydd wedi sefydlu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd, gyda’r nod o hwyluso’r math o arweinyddiaeth a chydweithredu y mae eu hangen i gyrraedd sero net a chreu sector sy’n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd, rydym yn cydnabod mai holl staff GIG Cymru sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod newidiadau cynaliadwy yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus.
Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru
Mae Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG, dan arweiniad Hywel Dda gyda chefnogaeth cydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru, wedi cael eu sefydlu a'u lansio i hyrwyddo egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy a chefnogi’r ymgyrch i ymwreiddio arferion cynaliadwy mewn gofal clinigol.
Gofynnwn yn garedig i chi gymryd rhan.
Dyddiad newydd
Gan gydnabod y pwysau mae'r GIG yn ei wynebu dros y gaeaf, ac i fanteisio ar flwyddyn ariannol lawn o gynnal prosiectau, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i newid dyddiad y gynhadledd a'r gwobrau.
Mae'r dyddiadau newydd fel a ganlyn:
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno prosiectau: 10 Mai 2024.
Y dyddiad ar gyfer y Gynhadledd a'r Gwobrau: 13 Mehefin 2024.
Bydd estyn y dyddiadau hyn yn ein galluogi i ymwreiddio mwy o weithgareddau yn ein llwybrau gofal, lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach, a rhoi gofal iechyd cynaliadwy a'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth wraidd popeth a wnawn.
Gofynnwn am eich cymorth
Rydym yn gofyn i’r holl gydweithwyr sy’n cael copi o’r cylchlythyr iechyd hwn raeadru a hyrwyddo’r wybodaeth ynglŷn â Chynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG a'r dyddiadau newydd, drwy rwydweithiau a sianeli cyfathrebu eu staff.
Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru
Cynhelir Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru ar 13 Mehefin 2024 yng Ngwesty'r Vale, Caerdydd.
Y gynhadledd: fe'ch gwahoddir i 'Arbed y Dyddiad' ac ymuno â ni ar gyfer diwrnod lle bydd cyfle i fwynhau arddangosfeydd a gwrando ar anerchiadau pwysig gan ein siaradwyr, sy'n canolbwyntio ar ofal clinigol; y mannau lle mae problemau carbon yn eich gwasanaethau; a'r angen i sicrhau gwerth cynaliadwy.
Mae'r siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau yn cynnwys:
- y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru
- Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Y Gwobrau: Beth am gymryd rhan eich hunain? Gallwch ymgeisio drwy gyflwyno prosiect cynaliadwyedd mewn un o'r naw categori o wobrau cyn 10 Mai 2024 i gael y cyfle i fod yn rhan o fwrlwm y digwyddiad unigryw hwn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer y digwyddiad a chofrestrwch eich cais yma!
Cofion cynnes,
Irfon Rees,
Cyfarwyddwr Iechyd a Llesiant,
Llywodraeth Cymru.