Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn hyfforddi gweithlu GIG Cymru ar gyfer y dyfodol gyda'r cyllid uchaf erioed yn 2023-24. Yn flaenorol, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau y byddwn yn cynnal yr un lefel o gyllid â 2023/24, gyda buddsoddiad o £283 miliwn mewn hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn 2024/25. Bydd hyn yn ein galluogi i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddiant o'u cymharu â'r lleoedd a gafodd eu llenwi yn 2023/24.
Rydym yn cydnabod yr heriau sylweddol sy'n wynebu ein gwasanaethau a'n gweithlu ar hyn o bryd. Dyna pam, ar y cyd â chynnal y lefel sylweddol o gyllid a ddarperir ar gyfer addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyd at 2024/25, rwyf wedi cadw £5 miliwn yn ôl o fewn y gyllideb iechyd ar gyfer rhaglenni cenedlaethol i gefnogi gweithgarwch recriwtio rhyngwladol moesegol.
Bydd y rhaglenni hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, a byddant yn canolbwyntio ar weithgarwch recriwtio a dargedir, er enghraifft ar gyfer meysydd neu arbenigeddau y mae'n anodd recriwtio gweithwyr iddynt, neu i gefnogi ffyrdd mwy effeithiol o weithio. Rwy'n rhagweld y bydd y gweithgarwch recriwtio hwn a dargedir, yn ei dro, yn arwain at leihad yn y defnydd o staff asiantaeth, gan wella profiad cleifion a lleihau gwariant ar asiantaethau. Mae'r rhaglenni hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith sydd wedi digwydd hyd yma mewn cydweithrediad â Llywodraeth Kerala, India, a'r gwaith sydd ar y gweill yn holl sefydliadau'r GIG i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dod i weithio yng Nghymru yn cael croeso cynnes ac yn cael eu cefnogi wrth iddynt ymsefydlu fel rhan o'n gweithlu.
Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ochr yn ochr â Pinarayi Vijayan, Prif Weinidog Kerala.
Mae cytundeb y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ddatblygiad pwysig wrth gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth Kerala ymhellach i gefnogi recriwtio moesegol ychwanegol a pharhaus o India i Gymru, ac yn bwysig er budd pawb. Rwyf wedi cytuno i recriwtio hyd at 250 o nyrsys, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn ystod 2024/25 drwy weithredu fframwaith y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith recriwtio rhyngwladol fynd rhagddo.