Cyfarfod y Cabinet: 15 Ionawr 2024
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 15 Ionawr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Nia James, Cyfarwyddwr Dros Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Owain Lloyd, Cyfarwyddwr, Addysg a'r Gymraeg (eitem 4)
- Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwella Ysgolion a Chymwysterau (eitem 4)
- Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cynaliadwyedd Amgylcheddol (eitem 5)
- Spencer Conlon, Pennaeth Adnoddau Naturiol a Chymunedau (eitem 5)
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
- 1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 8 Ionawr.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Ymweliad â Silesia, Gwlad Pwyl
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi ymweld â Silesia, Gwlad Pwyl yr wythnos flaenorol i adnewyddu'r cytundeb gyda Voivodeship Silesia, a lofnodwyd dros 20 mlynedd yn ôl. Roedd y Cynllun Gweithredu ar gyfer cydweithio yn canolbwyntio ar wyddorau bywyd, seiber, addysg, gwyddoniaeth, ac arloesi.
Fujitsu
2.2 Yn dilyn cwestiynau yn y Siambr yr wythnos flaenorol am gontractau Llywodraeth Cymru gyda Fujitsu, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ysgrifennu at yr holl Aelodau yn tynnu sylw at y ffaith bod dau gontract Fujitsu wedi'u nodi - y ddau gyda Thrafnidiaeth Cymru - a fyddai'n dod i ben ym mis Gorffennaf.
Gweithredu Diwydiannol yn y Gwasanaeth Iechyd a phwysau'r Gaeaf
2.3 Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Cabinet fod llawer iawn o waith wedi ei wneud i baratoi ar gyfer gweithredu diwydiannol gan feddygon iau.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Nododd y Cabinet fod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:05pm ddydd Mawrth a thua 5.55pm ddydd Mercher.
3.2 Roedd Gweinidogion yn cydnabod y byddai busnes ar gyfer y dydd Mawrth canlynol yn canolbwyntio gan mwyaf ar themâu'n ymwneud â materion tlodi plant, gyda lansiad Strategaeth Tlodi Plant y Llywodraeth.
Eitem 4: Gwella Ysgolion: Rolau a Chyfrifoldebau Partneriaid Addysg
4.1 Cyflwynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi casgliadau'r adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg. Hefyd gofynnwyd i’r Gweinidogion gytuno y dylai'r adolygiad weithio'n agos gyda phartneriaid i lunio dull gweithredu symlach a mwy penodol ar gyfer gwella perfformiad addysgol yng Nghymru.
4.2 Comisiynwyd adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg a'r trefniadau gwella ysgolion.
4.3 Ym mis Rhagfyr, roedd y Gweinidog wedi cael diweddariad ar gasgliadau'r adolygiad a'r camau nesaf. Roedd yr adolygiad wedi canfod bod cryn rwystredigaeth gyda'r trefniadau presennol, yn ogystal a chysondeb y gefnogaeth a ddarperir i ysgolion.
4.4 Roedd wedi dod i'r casgliad bod angen mwy o ffocws ar gydweithio'n lleol ac ar sicrhau bod arweinwyr ysgolion a'u hawdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth, gyda phartneriaethau rhwng dau neu fwy o awdurdodau yn hytrach na strwythurau rhanbarthol ehangach. Roedd arweinyddiaeth a blaenoriaethau cenedlaethol cryf yn bwysig, a byddai angen i fecanweithiau sicrhau bod cynifer o adnoddau â phosibl yn cael eu darparu'n uniongyrchol i ysgolion neu grwpiau cymorth yr ysgolion a oedd yn cydweithio.
4.5 Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai'r adolygiad yn parhau tan fis Mawrth 2024, ond oherwydd cysondeb yr ymateb, a oedd yn cyd-fynd â thystiolaeth arall, argymhellwyd y dylai'r tîm adolygu symud i weithio'n uniongyrchol gyda phartneriaid addysg i lunio dull gweithredu symlach i gefnogi ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â diffinio'r hyn yr oedd ei angen ar lefel genedlaethol.
4.6 Byddai hynny'n cyd-fynd â'r cynlluniau i gyfuno grantiau addysg a ddarperir i Awdurdodau Lleol, consortia rhanbarthol neu bartneriaethau eraill, gan symleiddio prosesau a lleihau beichiau mewn modd a fyddai’n gydnaws â'r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu presennol.
4.7 Byddai'r broses adolygu yn helpu i lunio model a ffefrir. Byddai angen i gapasiti cenedlaethol gyd-fynd â hyn er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gweithredu o fewn fframwaith polisi blaenoriaethau clir, gan ganolbwyntio ar sicrhau canlyniadau.
4.8 Byddai Grŵp Cydlynu Cenedlaethol i sicrhau cydlyniad y trefniadau newydd ar draws Cymru.
4.9 Cytunodd y Cabinet dylai'r ffocws fod ar ddarparu cysondeb a sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc.
4.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Targedau llywodraethiant amgylcheddol a bioamrywiaeth – Papur Gwyn a Bil
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r cyfeiriad teithio a nodir yn y Papur Gwyn arfaethedig, Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy: Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth ar gyfer Cymru Wyrddach.
5.2 Roedd newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn parhau i fod yn fygythiad gwirioneddol a pharhaus i Gymru. Roedd y dystiolaeth yn glir bod gweithgareddau dynol yn achosi i hinsawdd y Ddaear newid ar raddfa na welwyd ei thebyg, gan arwain at dywydd mwy eithafol, lefelau'r môr yn codi, a rhewlifoedd yn toddi.
5.3 Y flwyddyn flaenorol oedd y flwyddyn gynhesaf erioed yn fyd-eang, gyda thymheredd cyfartalog a oedd 1.48c yn uwch na'r cyfartaledd cyn-ddiwydiannol. Roedd y tymheredd wedi bod yn llawer uwch na'r cyfartaledd yn yr Antarctig ac yn rhan Ewropeaidd yr Arctig, gyda lleihad sylweddol ym maint y rhew. Roedd disgwyl i dymheredd y flwyddyn nesaf fod hyd yn oed yn uwch gyda digwyddiad El Nino. Felly, roedd hyn yn dangos bod y newid yn yr hinsawdd yn dod â bygythiad dirfodol.
5.4 Roedd y Papur Gwyn arfaethedig yn nodi sut yr oedd y Llywodraeth yn bwriadu rhoi sylw pellach i'r bygythiadau hyn. Roedd wedi'i rhannu'n dair rhan wahanol ond ategol, a oedd yn cynnwys ystod o gynigion ynghylch sut y gellid cryfhau dulliau o ddiogelu'r amgylcheddol ac ar yr un pryd cymryd camau effeithiol i adfer bioamrywiaeth.
5.5 Roedd y rhan gyntaf yn ystyried ymgorffori egwyddorion amgylcheddol effeithiol yn gynnar yn y broses o lunio polisïau, mewn modd a oedd yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn neddfwriaeth yr UE lle'r oedd yn ofynnol i aelod-wladwriaethau roi sylw dyledus. Byddai'r egwyddorion hyn yn neddfwriaeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiad i sicrhau nad oedd unrhyw ddirywiad mewn safonau amgylcheddol ers gadael yr UE, gan gyflwyno sylfaen effeithiol i ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn y dyfodol, sef sylfaen nad oedd yn cael ei darparu fel arall drwy'r gyfraith amgylcheddol bresennol.
5.6 Roedd yr ail ran yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan fanylu ar gynigion i gryfhau trefniadau llywodraethu amgylcheddol drwy sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru, yn seiliedig ar gomisiwn gydag arbenigwyr. Y nod oedd i'r sefydliad rannu swyddogaethau ystafell-gefn gyda chyrff hyd braich eraill, fel yr Awdurdod Tomenni Glo newydd, er mwyn lleihau costau.
5.7 Yn drydydd, roedd dull newydd o fynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys targed allweddol ar gyfer hybu a diogelu natur i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030, gan sicrhau eu hadferiad clir erbyn 2050. Byddai'r targed hwn yn cael ei gefnogi gan gynigion i gryfhau dulliau o weithredu, monitro ac adrodd, yn ogystal â gosod dyletswyddau pellach ar Weinidogion Cymru i nodi sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy dargedau atodol.
5.8 Hefyd byddai dyletswydd statudol ar gyfer bioamrywiaeth yn cael ei gweithredu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyfrannu at gyflawni'r targedau hynny.
5.9 Gyda'i gilydd, roedd y cynigion yn bodloni ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal â rhan o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Roedd y cynigion hefyd yn cefnogi ymrwymiadau ehangach ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfyngau Hinsawdd a Natur.
5.10 Ar ben hynny, roedd y cynigion yn adeiladu ar ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu blaenorol yn 2019 a 2020, yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd trwy brofiadau diweddar Llywodraeth y DU a'r Alban wrth iddynt fwrw ymlaen â'u deddfwriaeth nhw. Nod y Papur Gwyn hefyd oedd adeiladu ar y camau cadarnhaol a gymerwyd gan yr Aseswr dros dro ar gyfer Diogelu'r Amgylchedd yng Nghymru.
5.11 Croesawodd y Cabinet y Papur Gwyn, gan nodi y byddai'r prif darged natur yn cael ei adeiladu ar y dangosydd bioamrywiaeth o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), er mwyn osgoi dyblygu.
5.12 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.
Eitem 6: Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023: Gweithredu'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol sydd ar Weinidogion Cymru
6.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y dull gweithredu ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol sydd ar Weinidogion Cymru, o dan Adran 17 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Gofynnwyd i'r Gweinidogion hefyd gadarnhau y dylid ystyried materion strategol tymor hirach at ddibenion ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
6.2 Daeth y Ddeddf yn gyfraith ddiwedd mis Mai’r flwyddyn flaenorol ac, ymhlith materion eraill, fe osododd ddyletswydd newydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol o ran penderfyniadau strategol mewn perthynas â'r camau rhesymol o fewn yr ymrwymiadau a nodir o dan yr amcanion llesiant yn y Rhaglen Lywodraethu.
6.3 Cynigiwyd y dylid ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar y sbardunau strategol y byddai angen eu gweithredu ymlaen llaw er mwyn cyflawni’r rhain. Byddai hyn yn cyflawni'r ddyletswydd.
6.4 Dyma’r sbardunau penodol: dull gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer blaenoriaethu cyllid drwy'r broses o bennu'r gyllideb; blaenoriaethu deddfwriaeth, fel y nodir yn y datganiad deddfwriaethol blynyddol; a'r adolygiad blynyddol o'r amcanion llesiant a bennir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dylid ystyried amseriad yr adolygiadau yn unol â'r prosesau blynyddol.
6.5 Byddai cyfle hefyd i ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar faterion strategol tymor hirach.
6.6 Croesawodd y Cabinet y papur a'r dull cymesur arfaethedig o ymgynghori â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar sbardunau strategol y Llywodraeth.
6.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, gan nodi y byddai'r Prif Weinidog yn cyfleu'r penderfyniad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn ei gyfarfod nesaf ar 1 Chwefror.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2024