Adroddiad ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, gan ddefnyddio data lefel genedlaethol o'r asesiadau personol. Mae asesiadau personol ar-lein yn cael eu gwneud gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 2 i Flwyddyn 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ac yn ategu'r data a ddarparwyd mewn adroddiad byr ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. Mae'n cyflwyno gwybodaeth am newidiadau mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd dros amser, gan gynnwys dadansoddiad yn ôl rhyw, a hefyd y bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Cynhaliwyd y dadansoddiad gan ddefnyddio data dienw ar lefel genedlaethol o'r asesiadau personol, hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2022/23.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 14 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.