Gweithlu practis cyffredinol: ar 30 Medi 2023
Dadansoddiad o'r gweithlu gan gynnwys nifer y meddygon teulu, nyrsys ac aelodau staff eraill sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol, ar sail nifer yr unigolion a'r nifer cyfwerth ag amser llawn, ar 30 Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y datganiad hwn yw darparu ystadegau ar y gweithlu practis cyffredinol, gan gynnwys lefelau staffio, llifau'r gweithlu a nodweddion y staff.
Cyflwynir ystadegau ar gyfer rolau staff gwahanol yn ôl cyfrif pennau a'r nifer cyfwerth ag amser (CALl). Mae cyfrif pennau yn ffordd unigryw o gyfrif pobl sy'n golygu, os bydd person yn gweithio ar draws sawl practis, mai dim ond unwaith y caiff ei gyfrif. Mae'r nifer CALl yn ffordd well o asesu darpariaeth y gweithlu fel arfer gan ei fod yn cyfrif nifer yr oriau y mae staff wedi'u contractio i'w gweithio, gydag un CALl yn cyfateb i 37.5 awr yr wythnos ar gyfer pob rôl staff, heblaw am feddygon teulu dan hyfforddiant.
Mae'r datganiad hwn hefyd yn dadansoddi meddygon teulu a staff eraill practisau yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg. Cyhoeddir tablau data ychwanegol ar wefan StatsCymru.
Prif ffynhonnell y data yw System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) ac mae gwybodaeth am brosesau casglu data ac ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Crynodeb
Ar 30 Medi 2023, roedd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn fwy nag ar unrhyw ddyddiad cyfeirio ers i ddata y gellir eu cymharu'n uniongyrchol gael eu casglu gyntaf ym mis Mehefin 2021. Er na chyrhaeddodd y nifer uchaf erioed, cynyddodd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig CALl yn ystod y flwyddyn hefyd.
Mae'r cynnydd mewn meddygon teulu o ganlyniad, i raddau helaeth, i gynnydd yn nifer y meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu locwm. Er i fwy o feddygon teulu sy'n bartneriaid adael practis cyffredinol na'r nifer a ymunodd, roedd canran trosiant y staff ar gyfer meddygon teulu sy'n bartneriaid yn is nag ar gyfer pob math arall o feddyg teulu a grwpiau staff eraill practisau.
Mae'r mwyafrif o'r meddygon teulu wedi'u contractio i oriau gwaith rhan-amser ac mae'r gyfran honno yn uwch ymhlith meddygon teulu benywaidd na meddygon teulu gwrywaidd.
Cyrhaeddodd nifer staff eraill practisau y ffigur uchaf erioed, a hynny ar gyfer cyfrif pennau a'r nifer CALl. Mae staff gweinyddol yn cyfrif am fwy o staff nag unrhyw grŵp staff arall a chynyddodd nifer y staff yn y grŵp hwn fwy nag unrhyw grŵp arall yn ystod y flwyddyn.
Roedd y mwyafrif helaeth o staff eraill practisau yn fenywaidd ac o grwpiau ethnig gwyn, er y bu gostyngiad bach yng nghanran y staff yn y categorïau hyn o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Roedd canran uwch o drosiant staff ymhlith grwpiau staff eraill practisau hefyd o gymharu â mathau o feddygon teulu.
Prif bwyntiau
Yng Nghymru, ar 30 Medi 2023, roedd:
- 378 o bractisau meddygon teulu yn weithredol, sef gostyngiad o 8 (2.1%) ers 30 Medi 2022
- 1,592 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl, sef cynnydd o 50 (3.3%) ers 30 Medi 2022. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a staff locwm gweithredol yn unig
- 428 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) CALl, sef gostyngiad o 17 (3.9%) ers 30 Medi 2022
- 5,975 o staff eraill practisau CALl, sef cynnydd o 197 (3.4%) ers 30 Medi 2022
Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu a grwpiau o staff, roedd:
- 1,441 o ymarferwyr cyffredinol CALl, sef gostyngiad o 4 (0.3%) ers 30 Medi 2022. Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig
- 11 o feddygon teulu wrth gefn CALl, sef cynnydd o 1 ers 30 Medi 2022
- 140 o feddygon teulu locwm CALl, sef cynnydd o 53 (61.9%) ers 30 Medi 2022. Ni chaiff meddygon teulu locwm eu cyfrif oni bai eu bod yn weithredol a bod contractau wedi'u cofnodi ar eu cyfer yn system Locum Hub Wales rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2023
- 1,050 o nyrsys cofrestredig CALl, sef cynnydd o 27 (2.6%) ers 30 Medi 2022
- 955 o staff gofal uniongyrchol i gleifion CALl (sef staff nad ydynt yn feddygon teulu nac yn nyrsys ond sy'n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion, megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef cynnydd o 34 (3.7%) ers 30 Medi 2022
- 3,971 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill CALl, sef cynnydd o 136 (3.5%) ers 30 Medi 2022
Meddygon teulu cwbl gymwysedig
Ceir diffiniadau llawn o'r mathau o feddygon teulu yn yr adroddiad ansawdd. Dim ond data ar gyfer meddygon teulu sydd â chontractau fel partner, darparwr, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu wrth gefn neu feddyg teulu locwm a geir yn yr adran hon. Dim ond os oeddent yn weithredol yn ystod y chwarter ac yr oedd ganddynt gontractau a gofnodwyd drwy Locum Hub Wales y caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif.
Os oes gan feddyg teulu fwy nag un math o gontract, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif fel ‘meddyg teulu cwbl gymwysedig’ wrth gyfrif pennau, ond caiff yr oriau contract ar gyfer pob contract eu cyfrif yn y nifer CALl.
Mae un CALl yn cyfateb i 37.5 awr yr wythnos i feddygon teulu cwbl gymwysedig. Os caiff un meddyg teulu cwbl gymwysedig gontract i weithio mwy na 37.5 awr, bydd ei rif CALl yn fwy nag 1.
Ffigur 1: Nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig, cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn (CALl) [Nodyn 1], 30 Mehefin 2021 i 30 Medi 2023
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Mae data CALl ar gael o 31 Rhagfyr 2021 yn unig. Mae'r nifer CALl yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel gan nad yw nifer bach o feddygon teulu wedi cofnodi unrhyw oriau contract nac oriau gwaith. Ym mis Medi 2023, roedd hyn yn effeithio ar gontract 8 meddyg teulu.
Ar 30 Medi 2023, roedd 2,445 o feddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, sef y cyfrif pennau uchaf ers i ddata y gellir eu cymharu'n uniongyrchol gael eu casglu gyntaf ym mis Mehefin 2021.
Mae'r cyfrif pennau wedi cynyddu am bum chwarter yn olynol ac roedd 2.4% yn uwch nag ar ddiwrnod olaf y chwarter blaenorol (30 Mehefin 2023) a 4.2% yn uwch nag ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol (30 Medi 2022).
Roedd 1,592 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl; mae hyn yn cyfateb i 65.1% o'r cyfrif pennau yn gweithio oriau amser llawn.
Roedd y nifer CALl 1.0% yn uwch nag ar ddiwrnod olaf y chwarter blaenorol (30 Mehefin 2023) a 3.3% yn uwch nag ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol (30 Medi 2022). Cyfran y cyfrif pennau a oedd yn gweithio oriau amser llawn oedd 65.1%, sef gostyngiad o 0.6 pwynt canran o'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dangos gostyngiad bach yn nifer cyfartalog oriau contract ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig.
Roedd 5.1 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru, fymryn yn uwch nag ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol (30 Medi 2022).
Gan ystyried meddygon teulu cwbl gymwysedig a pharhaol yn unig (sy'n cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu wrth gefn, ond heb gynnwys meddygon teulu locwm), roedd y cyfrif pennau yn 2,036, gyda CALl cysylltiedig o 1,452, (neu 71.3% o'r cyfrif pennau). Wrth gymharu â'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol (30 Medi 2022), cynyddodd y cyfrif pennau 1.8% ond gwelwyd gostyngiad bach yn y nifer CALl (0.2%).
Meddygon teulu yn ôl math o gontract
Gellir categoreiddio meddygon teulu yn ôl y math o gontract sydd ganddynt. Ceir diffiniad o bob math o feddyg teulu yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Os bydd gan feddyg teulu gontractau lluosog o fewn yr un math, byddant yn cael eu cyfrif unwaith yn y cyfrif pennau ar gyfer y math hwnnw ond caiff pob awr ei chyfrif yn y nifer CALl.
Os bydd gan feddyg teulu gontractau lluosog o wahanol fathau, byddant yn cael eu cyfrif unwaith yn y cyfrif pennau ar gyfer pob math a chaiff yr oriau ar gyfer pob math o gontract eu cynnwys yn y nifer CALl ar gyfer y math perthnasol o gontract yn unig.
Am y rhesymau hyn, mae nifer CALl ‘meddygon teulu cwbl gymwysedig’ yn cyfateb i'r swm CALl ar gyfer partneriaid/darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm. Fodd bynnag, nid yw’r cyfrif pennau yn hafal i swm y gwahanol fathau o feddygon teulu.
Ffigur 2: Cyfran y meddygon teulu cwbl gymwysedig yn ôl y math o feddyg teulu (chyfwerth ag amser llawn), 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart cylch yn dangos mai staff parhaol oedd mwyafrif helaeth o'r meddygon teulu cwbl gymwysedig, gyda dwy ran o dair yn bartneriaid ac ychydig llai na chwarter yn feddygon teulu cyflogedig, yn seiliedig ar y nifer CALl.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Roedd gan ychydig mwy na naw allan o ddeg (91.2%) o feddygon teulu cwbl gymwysedig gontractau ar gyfer rolau parhaol, yn seiliedig ar y nifer CALl. Roedd y gyfran hon 3.2 pwynt canran yn is nag ar 30 Medi 2022.
Roedd 66.7% o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn bartneriaid; 6.8 pwynt canran yn is nag ar 30 Medi 2022. I'r gwrthwyneb, cynyddodd cyfran y meddygon teulu cyflogedig 3.6 pwynt canran i 23.8% a chynyddodd meddygon teulu locwm 3.2 pwynt canran i 8.8% o'r nifer CALl ar gyfer yr holl feddygon teulu cwbl gymwysedig.
Roedd meddygon teulu wrth gefn yn cyfrif am 0.7% o'r nifer CALl ar gyfer yr holl feddygon teulu cwbl gymwysedig, sydd yr un peth â 30 Medi 2022.
Ffigur 3: Cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn (CALl) [Nodyn 1] yn ôl y math o feddyg teulu, 30 Mehefin 2021 i 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 3: Siartiau llinell sy'n dangos mai partneriaid yw'r mwyafrif o feddygon teulu (cyfrif pennau a CALl). Fodd bynnag, mae partneriaid wedi bod ar duedd ar i lawr dros y gyfres amser; i'r gwrthwyneb, mae meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu locwm a chofrestryddion oll yn dangos tuedd ar i fyny dros y gyfres amser ar gyfer y ddau fesur.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales, Cofnod Staff Electronig (ESR) y GIG; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Mae'r nifer CALl yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel gan nad yw nifer bach o feddygon teulu wedi cofnodi unrhyw oriau contract nac oriau gwaith. Ym mis Medi 2023, roedd hyn yn effeithio ar gontract 8 meddyg teulu.
[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
[Nodyn 3] Y contract safonol ar gyfer cofrestrydd yw 40 awr yr wythnos, felly mae nifer CALl cofrestryddion yn seiliedig ar wythnos 40 awr, tra bo'r nifer CALl ar gyfer pob meddyg teulu arall yn seiliedig ar 37.5 awr yr wythnos.
Ar 30 Medi 2023, roedd 1,381 o feddygon teulu sy'n bartneriaid (cyfrif pennau), sef gostyngiad blynyddol o 5.3%. Roedd nifer CALl meddygon teulu sy'n bartneriaid yn 1,061, sef gostyngiad blynyddol o 6.3%.
Roedd 628 o feddygon teulu cofrestredig (cyfrif pennau), sef cynnydd blynyddol o 21.7%. Roedd meddygon teulu cyflogedig wedi'u contractio i lai o oriau na meddygon teulu sy'n bartneriaid, ac roedd y nifer CALl ar gyfer meddygon teulu cyflogedig yn 380, sef cynnydd blynyddol o 21.6%.
Roedd contractau meddyg teulu locwm wedi'u cofnodi ar Locum Hub Wales ar gyfer 572 o feddygon teulu gwahanol yn ystod y chwarter o 1 Gorffennaf 2023 i 30 Medi 2023, sef cynnydd blynyddol o 20.7%. Gan mai gwaith dros dro sydd gan feddyg teulu locwm, mae'r nifer CALl cysylltiedig yn gyfatebol is na mathau parhaol o feddygon teulu ac, yn y chwarter diweddaraf, roedd 140 o feddygon teulu locwm CALl, sef cynnydd blynyddol o 61.9%.
O blith y 572 o feddygon teulu y cofnodwyd gwaith locwm ar eu cyfer yn ystod y chwarter, roedd gan 28.5% gontract parhaol ar y dyddiad cyfeirio hefyd (roedd 66 yn feddygon teulu sy'n bartneriaid, roedd 96 yn feddygon teulu cyflogedig ac roedd 2 feddyg teulu wrth gefn). Ni chaiff unrhyw waith locwm nad oedd wedi’i gofnodi ar Locum Hub Wales ei gynnwys yn yr ystadegau hyn. Gall hyn gynnwys gwaith locwm mewn practisau a reolir gan fyrddau iechyd, gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.
Mae data ar StatsCymru hefyd yn dangos bod 40 o feddygon dan hyfforddiant F2 (cyfrif pennau a CALl) ar leoliadau gwaith mewn practisau cyffredinol ar 30 Medi 2023.
Llifau gweithlu meddygon teulu cwbl gymwysedig
Mae'r adran hon yn dadansoddi'r ffordd y mae meddygon teulu cwbl gymwysedig wedi symud rhwng rolau neu wedi gadael y gweithlu, neu ymuno ag ef, ers yr un dyddiad cyfeirio y flwyddyn flaenorol.
Caiff aelod o staff ei ddiffinio fel un sydd wedi ymuno â'r gweithlu os oedd wedi'i gontractio i weithio fel meddyg teulu cwbl gymwysedig mewn practis cyffredinol ar 30 Medi 2023 ond nad oedd wedi'i gontractio i weithio fel meddyg teulu cwbl gymwysedig ar 30 Medi 2022.
Caiff aelod o staff ei ddiffinio fel un sydd wedi gadael y gweithlu os oedd wedi'i gontractio i weithio fel meddyg teulu cwbl gymwysedig mewn practis cyffredinol ar 30 Medi 2022 ond nad oedd wedi'i gontractio i weithio fel meddyg teulu cwbl gymwysedig ar 30 Medi 2023.
Ffigur 4: Meddygon teulu cwbl gymwysedig, cyfwerth ag amser llawn (CALl) [Nodyn 1] sydd wedi ymuno a gadael rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 [Nodyn 2] [Nodyn 3], yn ôl y math o feddyg teulu
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar sy'n dangos y gwnaeth mwy o feddygon teulu cwbl gymwysedig ymuno na'r nifer a adawodd. Gan ystyried y gwahanol fathau o feddygon teulu, gwnaeth mwy o feddygon ymuno na gadael yn y rolau meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu locwm a meddyg teulu wrth gefn, ond gwnaeth mwy o feddygon adael nag ymuno yn y rôl meddyg teulu sy'n bartner.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
[Nodyn 2] Ni fydd y siart hon yn cyfrif staff a ymunodd ar ôl 30 Medi 2022 ond a adawodd cyn 30 Medi 2023.
[Nodyn 3] Mae'n bosibl na fydd y gwahaniaeth rhwng nifer y staff CALl a ymunodd ac a adawodd o reidrwydd yn hafal i'r newid yn nifer y staff CALl a oedd yn gweithio rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 oherwydd gallai staff a oedd yn bresennol ar y ddau ddyddiad cyfeirio fod wedi newid eu horiau contract.
Ymunodd 160.4 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl â'r gweithlu a gadawodd 97.7 o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl y gweithlu rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023.
O blith y 160.4 o feddygon teulu CALl a ymunodd, ymunodd 109.0 CALl (neu 68.0%) fel meddyg teulu cyflogedig, ymunodd 28.8 (18.0%) fel meddyg teulu locwm, ymunodd 20.1 (12.5%) fel meddyg teulu sy'n bartner ac ymunodd 2.4 (1.5%) fel meddyg teulu wrth gefn.
Ar 30 Medi 2023, roedd 1.9% o feddygon teulu sy'n bartneriaid CALl wedi ymuno yn ystod y 12 mis diwethaf, o gymharu â 28.7% o feddygon teulu cyflogedig, 21.7% o feddygon teulu wrth gefn a 20.6% o feddygon teulu locwm.
O blith y 97.7 o feddygon teulu CALl a adawodd, roedd 60.5 CALl (neu 61.9%) yn bartneriaid yn flaenorol, roedd 25.6 (26.2%) yn feddygon teulu cyflogedig, roedd 10.7 (10.9%) yn feddygon teulu locwm, ac roedd 0.9 (0.9%) yn feddygon teulu wrth gefn.
O blith y meddygon teulu sy'n bartneriaid a oedd wedi'u contractio ar 30 Medi 2022, gadawodd 5.3% bractis cyffredinol yn ystod y 12 mis dilynol, yn seiliedig ar y nifer CALl. Mae hyn yn cymharu ag 8.2% o feddygon teulu cyflogedig, 8.8% o feddygon teulu wrth gefn a 12.4% o feddygon teulu locwm.
Ar gyfer pob meddyg teulu cyflogedig a adawodd y gweithlu, gwnaeth mwy na phedwar meddyg teulu cyflogedig ymuno â'r gweithlu; i'r gwrthwyneb, am bob meddyg teulu sy'n bartner a ymunodd â'r gweithlu, gwnaeth oddeutu tri meddyg teulu sy'n bartner adael y gweithlu.
Ffigur 5: Meddygon teulu cwbl gymwysedig CALl [Nodyn 1] sydd wedi ymuno â'r gweithlu a'i adael rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 [Nodyn 2, Nodyn 3], yn ôl grŵp oedran
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar sy'n dangos bod meddygon teulu cwbl gymwysedig a ymunodd â'r gweithlu yn tueddu i fod yn iau na'r rhai a adawodd.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Nid oedd yr oedran yn hysbys ar gyfer 9% o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl a ymunodd â'r gweithlu a 4% o feddygon teulu cwbl gymwysedig CALl a adawodd y gweithlu. Nid yw’r meddygon teulu hyn wedi'u cynnwys yn y siart hon na'r enwadur mewn unrhyw gyfrifiadau canrannol.
[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
[Nodyn 3] Ni fydd y siart hon yn cynnwys achosion lle ymunodd meddyg teulu ar ôl 30 Medi 2022 a gadael cyn 30 Medi 2023.
Roedd ychydig mwy na saith o bob deg (71.2%) meddyg teulu cwbl gymwysedig a ymunodd â'r gweithlu yn ystod y 12 mis cyn 30 Medi 2023, rhwng 30 a 39 oed, yn seiliedig ar y nifer CALl. Gostyngodd nifer y rhai newydd a ymunodd CALl ym mhob grŵp oedran dilynol.
Roedd y rhai a adawodd wedi'u dosbarthu'n fwy cyfartal ar draws grwpiau oedran, a'r band mwyaf cyffredin oedd 50 i 59 oed (31.4%).
Ffigur 6: Symudiad meddygon teulu cwbl gymwysedig CALl rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 6: Siart Sankey yn dangos bod y mwyafrif o'r meddygon teulu oedd â chontract ar 30 Medi 2023 yn gweithio fel yr un math o feddyg teulu ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol. Roedd y llifau mwyaf o ganlyniad i staff newydd a ymunodd yn dod yn feddygon teulu cyflogedig ac yn feddygon teulu locwm; y llif mwyaf rhwng gwahanol fathau o feddygon teulu oedd meddygon teulu cyflogedig yn dod yn feddygon teulu sy'n bartneriaid.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Llifoedd gweithlu meddygon teulu cymwysedig blynyddol (cyfwerth ag amser llawn) ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mae'r siart yn crynhoi data CALl ar gyfer y 91% o feddygon teulu oedd ag un contract ar 30 Medi 2023 ac un contract ar 30 Medi 2022, neu a ymunodd â phractis cyffredinol yn ystod y 12 mis cyn 30 Medi 2023. Nid yw'r rhai â mathau lluosog o gontract a'r rhai a adawodd bractis cyffredinol wedi'u cynnwys.
Mae ochr dde'r siart Sankey yn dangos cyfansoddiad yr holl feddygon teulu cwbl gymwysedig ar 30 Medi 2023 yn seiliedig ar y dull yn ‘Nodyn 1’. Mae ochr chwith y siart yn dangos pa fathau o feddygon teulu yr oedd yr un meddygon teulu ar 30 Medi 2022. Mae canol y siart yn dangos y ‘llifau’ rhwng mathau o feddygon teulu, lle mae uchder y bariau llif yn gymesur â maint symudiad y meddygon teulu CALl. Gellir defnyddio'r siart i amcangyfrif llifau gweithlu ar gyfer y gweithlu meddygon teulu cyfan.
Ar 30 Medi 2023, amcangyfrifir bod 96.0% o feddygon teulu sy'n bartneriaid hefyd yn bartneriaid ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys meddygon teulu sy'n bartneriaid a gynyddodd eu horiau contract o'r flwyddyn flaenorol. Nid oedd y 4% sy'n weddill yn gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru yn flaenorol (2.0%); roeddent yn feddygon teulu cyflogedig (1.5%); neu'n feddygon teulu locwm (0.5%).
Roedd 62.0% o feddygon teulu cyflogedig hefyd yn feddygon teulu cyflogedig ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol. Nid oedd y mwyafrif helaeth o'r meddygon teulu cyflogedig sy'n weddill yn gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru yn flaenorol (33.0%); roedd 3.0% yn feddygon teulu locwm ac roedd 2.0% yn bartneriaid.
Roedd bron dwy ran o dair (65.5%) o feddygon teulu locwm hefyd yn feddygon teulu locwm ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol. Nid oedd chwarter (25.5%) yn gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru yn flaenorol, ac roedd 8.0% yn bartneriaid yn flaenorol a 2.0% yn feddygon teulu cyflogedig.
Roedd tri chwarter (75.0%) y meddygon teulu wrth gefn hefyd yn feddygon teulu wrth gefn ar yr un dyddiad y flwyddyn flaenorol. Nid oedd 22.5% yn gweithio mewn practis cyffredinol yng Nghymru yn flaenorol, ac roedd 2.0% yn feddygon teulu cyflogedig yn flaenorol.
Nodweddion meddygon teulu cwbl gymwysedig
Mae'r adran hon yn cynnwys data am feddygon teulu â chontractau fel partner, darparwr, meddyg teulu cyflogedig, meddyg teulu wrth gefn neu locwm yn unig.
Ffigur 7: Canran y meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1] cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn (CALl), yn ôl rhywedd, 31 Rhagfyr 2020 i 30 Medi 2023 [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 7: Siartiau llinell yn dangos bod mwy o feddygon teulu cwbl gymwysedig benywaidd na rhai gwrywaidd pan gânt eu mesur yn ôl cyfrif pennau a CALl, gyda thuedd sefydlog ar y cyfan dros y gyfres amser.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Dim ond pan gofnodwyd gwerthoedd gwryw neu fenyw ar gyfer yr eitem data ‘rhywedd’ y cyflwynir data. Ar 30 Medi 2023, ‘arall/anhysbys’ oedd y rhywedd a gofnodwyd ar gyfer 182 (neu 7%) o feddygon teulu. Gan na allwn wahanu'r ddau gategori hyn, ni chânt eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.
[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
Ar 30 Medi 2023, roedd bron chwech o bob deg (57.4%) o'r meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn fenywaidd ac roedd ychydig dros bedwar o bob deg (42.6%) yn wrywaidd. Gostyngodd canran y meddygon teulu benywaidd 0.5 pwynt canran a chynyddodd canran y meddygon teulu gwrywaidd 0.5 pwynt canran o gymharu â 30 Medi 2022.
Wrth gymharu niferoedd CALl, roedd 53.2% o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn fenywaidd ac roedd 46.8% yn feddygon teulu gwrywaidd. Mae'r nifer CALl 4.2 pwynt canran yn is na'r cyfrif pennau ar gyfer meddygon teulu benywaidd a 4.2 pwynt canran yn uwch ar gyfer meddygon teulu gwrywaidd. Mae hyn yn golygu bod gan feddygon teulu gwrywaidd oriau contract hirach na meddygon teulu benywaidd fel rheol.
Pan gafodd yr holl oriau contract eu cyfansymio ar gyfer pob meddyg teulu, roedd 92.8% o feddygon teulu benywaidd yn rhan-amser (wedi'u contractio i lai na 37.5 awr yr wythnos), o gymharu â 80.4% o feddygon teulu gwrywaidd.
Ffigur 8: Meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1], cyfrif pennau yn ôl oedran a rhywedd, 30 Medi 2023 [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far yn dangos bod crynodiad uwch o feddygon teulu benywaidd iau nag o rai gwrywaidd iau; a chrynodiad uwch o feddygon teulu gwrywaidd hŷn nag o rai benywaidd hŷn.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Nid yw'r rhywedd a/neu'r oedran yn hysbys ar gyfer 7% o feddygon teulu cwbl gymwysedig ac ni chânt eu cynnwys yn Ffigur 8. Meddygon teulu locwm oedd y rhan fwyaf o'r rhain.
[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
O'r meddygon teulu cwbl gymwysedig, yr oedd eu hoedran a’u rhyw yn hysbys, hyd at 49 oed, roedd bron i ddwy ran o dair (63.1%) yn fenywaidd. Roedd y grŵp oedran 50 i 59 oed yn fwy cyfartal gyda 52.0% yn feddygon teulu benywaidd a 48.0% yn feddygon teulu gwrywaidd, ac roedd mwyafrif y meddygon teulu 60 oed neu'n hŷn yn wrywaidd (69.2%).
Roedd 5.9% o'r holl feddygon teulu, yr oedd eu hoedran a'u rhyw yn hysbys, rhwng 60 a 64 oed, ac roedd 3.0% yn 65 oed neu'n hŷn.
Ffigur 9: Canran y meddygon teulu cwbl gymwysedig [Nodyn 1], cyfrif pennau a CALl, yn ôl ethnigrwydd, 31 Rhagfyr 2020 i 30 Medi 2023 [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy'n dangos y cofnodwyd bod mwyafrif helaeth o feddygon teulu cwbl gymwysedig mewn grwpiau ethnig gwyn, er bod y duedd ar i lawr dros y gyfres amser. Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig oedd y grŵp ethnig leiafrifol mwyaf, ac yna grwpiau ethnig eraill, Du neu Ddu Prydeinig, a grwpiau ethnig cymysg.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau a CALl yn ôl ethnigrwydd) ar StatsCymru
[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
Ar 30 Medi 2023, roedd ychydig mwy nag wyth o bob deg (80.6%) meddyg teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) o gefndir ethnig gwyn. Mae hyn wedi gostwng yn raddol o 82.6% ym mis Medi 2022. Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig oedd y grŵp ethnig mwyaf ymhlith meddygon teulu o gefndir ethnig leiafrifol (13.0% o'r holl feddygon teulu cwbl gymwysedig).
Wrth fesur yn ôl y nifer CALl, roedd ychydig llai nag wyth o bob deg (79.9%) meddyg teulu cwbl gymwysedig yn dod o gefndir ethnig gwyn, sef gostyngiad o 2.1 pwynt canran o fis Medi 2022; roedd 13.8% o gefndir ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, sef cynnydd bach o 0.3 pwynt canran o fis Medi 2022.
Mae'r nifer CALl yn gyson uwch na'r cyfrif pennau ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig o gefndir ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod meddygon teulu o gefndir ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig wedi'u contractio i weithio mwy o oriau ar gyfartaledd na meddygon teulu mewn grwpiau ethnig eraill.
Mae mwy o amrywiaeth ethnig ymhlith meddygon teulu cwbl gymwysedig sy'n gweithio yng Nghymru nag ymhlith y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru. Daw 19.4% o feddygon teulu o gefndiroedd ethnig Du, Asiaidd neu gefndiroedd ethnig eraill, o gymharu â 5.0% o bobl sy'n byw yng Nghymru yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru) (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023) neu 6.2% yn ôl Cyfrifiad 2021 (SYG).
Ffigur 10: Canran y meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn ôl sgiliau siarad Cymraeg [Nodyn 1], 31 Rhagfyr 2020 i 30 Medi 2023 [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy'n dangos bod mwyafrif mawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg, er bod y ganran heb unrhyw sgiliau wedi bod yn lleihau dros amser.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru, Locum Hub Wales; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Nid yw'n cynnwys cofnodion lle nad oedd sgiliau siarad Cymraeg yn hysbys. Ym mis Medi 2023, roedd data am sgiliau Cymraeg ar goll ar gyfer 39% o feddygon teulu cwbl gymwysedig ac ni chawsant eu cynnwys yn yr enwadur yn y cyfrifiad canrannol o'r categorïau iaith Gymraeg hysbys. Meddygon teulu locwm oedd canran fawr o'r meddygon teulu â data coll.
[Nodyn 2] Caiff meddygon teulu locwm eu cyfrif os cofnodwyd unrhyw waith ar eu cyfer drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio yn unig.
Nododd y rhan fwyaf o feddygon teulu (82.1%) nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg ar 30 Medi 2023.
Dywedodd ychydig mwy nag un o bob deg (11.9%) meddyg teulu cwbl gymwysedig fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel uwch neu hyfedr a dywedodd ychydig dros un o bob ugain (6.0%) fod ganddynt sgiliau siarad Cymraeg ar lefel mynediad i ganolradd.
Roedd canran y meddygon teulu cwbl gymwysedig sydd ag unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn 17.9% ar 30 Medi 2023. Mae hyn yn gynnydd o 2.3 pwynt canran o'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol.
Mae canran y meddygon teulu a ddywedodd fod ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg ychydig yn uwch na'r ganran o boblogaeth Cymru a oedd yn gallu siarad Cymraeg, yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021 (StatsCymru). Fodd bynnag, mae'n is na'r 29.2% o bobl a nododd fod ganddynt rywfaint o sgiliau siarad Cymraeg ym mis Medi 2023 yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru).
Gan fod y prosesau casglu data ar gyfer gwybodaeth am y Gymraeg yn wahanol yn y tair ffynhonnell, mae cryfder cymariaethau uniongyrchol yn gyfyngedig. Caiff yr ystadegau eu cyflwyno yma gan mai'r rhain yw'r rhai gorau sydd ar gael a dylid eu defnyddio i roi syniad o'r gwahaniaethau rhwng sgiliau siarad Cymraeg staff practis cyffredinol a phobl sy'n byw yng Nghymru.
Staff eraill practisau
Er mwyn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, mae meddygon teulu yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill a gyflogir mewn practisau meddygon teulu, gan gynnwys nyrsys, fferyllwyr, rheolwyr, gweinyddwyr ac eraill sy'n ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'r adran hon yn darparu data ar nifer y staff a gyflogir mewn rolau staff eraill nad ydynt yn feddygon teulu mewn practisau cyffredinol.
Fel yn achos meddygon teulu cwbl gymwysedig, mae un CALl yn cyfateb i gontract o 37.5 awr yr wythnos. Os yw aelod o staff wedi'i gontractio i weithio mwy na 37.5 awr, bydd ei rif CALl yn fwy nag 1.
Os oedd gan berson gontractau lluosog yn yr un practis neu mewn practisau gwahanol, dim ond unwaith y byddai’n cael ei gyfrif yn y cyfanswm cyfrif pennau, ond byddai'r holl oriau contract yn cael eu cyfrif yn y nifer CALl.
Ffigur 11: Nifer y staff eraill mewn practisau, cyfrif pennau a chyfwerth ag amser llawn (CALl) [Nodyn 1], 31 Mawrth 2020 i 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy'n dangos bod cyfrif pennau a nifer CALl staff eraill practisau wedi cynyddu'n raddol dros amser, gan gyrraedd y ffigurau uchaf a gofnodwyd ar y dyddiad cyfeirio diweddaraf (30 Medi 2023).
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] O 31 Rhagfyr 2021 mae'r data CALl ar gael gyntaf. Nid oedd unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gyfer 1.1% o gofnodion ar 30 Medi 2023. Felly, mae'r nifer CALl yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel.
Ar 30 Medi 2023, roedd 8,243 o staff eraill practisau (cyfrif pennau) yn gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru, sef cynnydd o 3.4% o 30 Medi 2022.
Ym mis Rhagfyr 2021 y cafodd data CALl y gellir eu cymharu'n uniongyrchol ar gyfer staff eraill practisau eu casglu gyntaf. Roedd 5,975 o staff eraill practisau CALl ar 30 Medi 2023, sydd hefyd 3.4% yn uwch nag ar 30 Medi 2022.
Mae'r nifer CALl ar gyfer staff eraill practisau yn cyfateb i 72.5% o'r cyfrif pennau yn gwneud gwaith amser llawn. Mae'r ganran hon 7.4% yn uwch na'r ganran ar gyfer meddygon teulu cwbl gymwysedig.
Ar 30 Medi 2023, roedd 19.1 o staff eraill practisau CALl am bob 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.
Grwpiau staff eraill practisau
Gellir categoreiddio staff eraill practisau yn ôl eu grŵp staff. Cyhoeddir data ar fathau unigol o swyddi ym mhob grŵp staff ar StatsCymru.
Pan fydd gan unigolyn fwy nag un contract o fewn yr un grŵp staff, unwaith y caiff ei gyfrif yn y nifer cyfrif pennau ond caiff yr holl oriau contract eu cyfrif yn y nifer CALl.
Pan fydd gan unigolyn gontractau lluosog mewn grwpiau staff gwahanol, caiff ei gyfrif yn y cyfrif pennau ar gyfer pob grŵp staff a chaiff ei oriau contract eu cyfrif yn y niferoedd CALl ar gyfer y grŵp staff cysylltiedig yn unig.
Ffigur 12: Cyfrif pennau a nifer cyfwerth ag amser llawn (CALl) [Nodyn 1] yn ôl grwpiau staff eraill practisau, 31 Mawrth 2020 i 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 12: Siartiau llinell sy'n dangos bod nifer y staff gweinyddol a staff gofal uniongyrchol i gleifion wedi bod yn cynyddu dros y gyfres amser, tra bo nifer y nyrsys wedi bod yn fwy sefydlog.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Mae data CALl yn dechrau o 31 Rhagfyr 2021. Nid oedd unrhyw oriau contract nac oriau gwaith wedi'u cofnodi ar gofnodion 1.4% o nyrsys, 1.1% o staff gofal uniongyrchol i gleifion ac 1.0% o staff gweinyddol ar 30 Medi 2023. Felly, mae'r nifer CALl yn debygol o fod yn amcangyfrif ychydig yn isel.
Ar 30 Medi 2023, y grŵp staff mwyaf oedd staff gweinyddol/anghlinigol, gyda chyfrif pennau o 5,514, bron ddwywaith y cyfrif pennau cyfunol ar gyfer nyrsys (1,443) a staff gofal uniongyrchol i gleifion (1,356).
Cynyddodd cyfrif pennau staff gweinyddol 3.8% o 30 Medi 2022, sef y cynnydd mwyaf o blith holl grwpiau staff eraill practisau. Cynyddodd nifer y staff gofal uniongyrchol i gleifion 3.5% a chynyddodd nifer y nyrsys 1.7%.
Roedd y tri grŵp o staff eraill practisau wedi'u contractio i gyfrannau cymharol debyg o oriau amser llawn, mewn perthynas â'u cyfrif pennau. Gweithiodd nyrsys yr hyn sy'n cyfateb i 1,050 o oriau CALl (72.8% o'u cyfrif pennau), gweithiodd staff gweinyddol 3,971 o oriau CALl (72.0% o'u cyfrif pennau) a gweithiodd staff gofal uniongyrchol i gleifion 955 o oriau CALl (70.4% o'u cyfrif pennau).
O gymharu â mis Medi 2022, cynyddodd nifer CALl y staff gofal uniongyrchol i gleifion 3.7%; o gymharu â chynnydd o 3.5% ar gyfer staff gweinyddol a 2.6% ar gyfer nyrsys.
Staff eraill practisau: y nifer sy'n ymuno ac yn gadael
Mae'r adran hon yn cynnwys data ar staff eraill practisau sydd wedi gadael y gweithlu, neu wedi ymuno ag ef, ers yr un chwarter y flwyddyn flaenorol, yn seiliedig ar y nifer CALl.
Caiff aelod o staff ei ddiffinio fel un sydd wedi ymuno â'r gweithlu yn ystod y cyfnod hwn os oedd wedi'i gontractio i weithio mewn grŵp staff arall mewn practis ar 30 Medi 2023 ond nad oedd wedi'i gontractio i weithio yn yr un grŵp staff ar 30 Medi 2022.
Caiff aelod o staff ei ddiffinio fel un sydd wedi gadael y gweithlu yn ystod y cyfnod hwn os oedd wedi'i gontractio i weithio mewn grŵp staff arall mewn practis ar 30 Medi 2022 ond nad oedd wedi'i gontractio i weithio yn yr un grŵp staff ar 30 Medi 2023.
Ffigur 13: Staff eraill practisau CALl sydd wedi ymuno neu adael rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2], yn ôl grŵp staff
Disgrifiad o Ffigur 13: Siart bar sy'n dangos y gwnaeth mwy o staff ymuno na gadael yn y grwpiau staff nyrsio, gofal uniongyrchol i gleifion a gweinyddol.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Ni fydd y siart hon yn cyfrif staff a ymunodd ar ôl 30 Medi 2022 ond a adawodd cyn 30 Medi 2023.
[Nodyn 2] Mae'n bosibl na fydd y gwahaniaeth rhwng nifer y staff CALl a ymunodd ac a adawodd o reidrwydd yn hafal i'r newid yn nifer y staff CALl a oedd yn gweithio rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 oherwydd gallai staff a oedd yn bresennol ar y ddau ddyddiad cyfeirio fod wedi newid eu horiau contract.
Gwnaeth mwy o staff ymuno na gadael yn y tri grŵp o staff eraill practisau. Roedd cynnydd net o 136.4 o staff gweinyddol CALl; 35.1 o staff nyrsio CALl; a 34.5 o staff gofal uniongyrchol i gleifion CALl wrth gymharu nifer CALl y staff a ymunodd â'r gweithlu yn ystod y 12 mis cyn 30 Medi 2023 a'r staff a adawodd y gweithlu yn ystod y 12 mis ar ôl 30 Medi 2022.
Ar 30 Medi 2023, roedd 18.0% o nyrsys CALl wedi ymuno yn ystod y 12 mis blaenorol, o gymharu ag 19.5% o staff gofal uniongyrchol i gleifion a 22.2% o staff gweinyddol.
O blith y nyrsys a oedd wedi'u contractio ar 30 Medi 2022, gadawodd 15.1% bractis cyffredinol yn ystod y 12 mis dilynol, yn seiliedig ar y nifer CALl. Mae hyn yn cymharu ag 16.5% o staff gofal uniongyrchol i gleifion ac 19.5% o staff gweinyddol.
Ar gyfer holl staff eraill practisau gyda'i gilydd, ymunodd 1,258 o staff CALl â'r gweithlu a gadawodd 1,052 o staff CALl y gweithlu. Nid yw'r ffigur hwn yn hafal i’r swm a geir wrth gyfrif yr is-grwpiau nyrsys, gofal uniongyrchol i gleifion a gweinyddol/anghlinigol gan y symudodd rhai staff rhwng gwahanol fathau o rolau yn ystod y cyfnod hwn ond gan aros yn y gweithlu practis cyffredinol.
Ffigur 14: Staff eraill practisau CALl sydd wedi ymuno â'r gweithlu a'i adael rhwng 30 Medi 2022 a 30 Medi 2023 [Nodyn 1] yn ôl grŵp oedran
Disgrifiad o Ffigur 14: Siartiau bar sy'n dangos bod dosbarthiad oedran y rhai a ymunodd ac a adawodd yn gymharol debyg ar gyfer pob grŵp staff arall mewn practisau, gyda rhai amrywiadau bach. Roedd y staff a ymunodd â'r gweithlu yn tueddu i fod yn iau na'r rhai adawodd, er bod y dosbarthiad oedran ar gyfer y rhai a ymunodd ac a adawodd yn fwy cyfartal o gymharu â meddygon teulu cwbl gymwysedig.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Ni fydd y siart hon yn cyfrif staff a ymunodd ar ôl 30 Medi 2022 ond a adawodd cyn 30 Medi 2023.
Roedd chwarter (24.7%) yr holl staff eraill mewn practisau a ymunodd â'r gweithlu o dan 30 oed ac roedd chwarter arall (25.8%) rhwng 30 a 39 oed.
Roedd staff eraill practisau a adawodd bractis cyffredinol wedi'u dosbarthu'n gymharol gyfartal rhwng grwpiau oedran, ac roedd y ganran uchaf yn y grŵp oedran 50 i 59 oed (25.7%).
Roedd rhai amrywiadau ym mhroffil oedran y staff a ymunodd â grwpiau staff gwahanol. Roedd dros hanner (54.9%) y staff gofal uniongyrchol i gleifion a ymunodd o dan 40 oed; fodd bynnag, roedd y mwyafrif o'r nyrsys a ymunodd yn (59.1%) 40 oed neu'n hŷn.
Nodweddion staff eraill practisau
Ffigur 15: Canran y grwpiau staff eraill mewn practisau yn ôl rhywedd (cyfrif pennau), 31 Rhagfyr 2020 i 30 Medi 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 15: Siartiau llinell sy'n dangos bod mwyafrif mawr o'r staff yn y tri grŵp o staff eraill practisau yn fenywaidd, er bod y ganran hon wedi bod ar duedd fach ar i lawr ers dechrau'r gyfres amser.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Dim ond pan gofnodwyd gwerthoedd gwryw neu fenyw y cyflwynir data. Ar 30 Medi 2023, ‘arall/anhysbys’ oedd y rhywedd a gofnodwyd ar gyfer 11 (neu 1%) o nyrsys, 7 (1%) aelod o staff gofal uniongyrchol i gleifion a 38 (1%) o staff gweinyddol. Gan na allwn wahanu'r ddau gategori hyn, ni chânt eu cynnwys yn y siartiau nac yn yr enwadur yn y cyfrifiadau canrannol.
Ar 30 Medi 2023, roedd 96.6% o nyrsys mewn practis cyffredinol yn fenywaidd, sydd yr un peth â'r un dyddiad yn 2022, ond 0.4 pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad yn 2021.
Roedd 89.2% o staff gofal uniongyrchol i gleifion yn fenywaidd, sydd 0.9 pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad yn 2022 a 0.9 pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad yn 2021.
Roedd 95.0% o staff gweinyddol yn fenywaidd, sydd 0.1 pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad yn 2022, ond 0.2 pwynt canran yn uwch nag ar yr un dyddiad yn 2021.
Mae data CALl a gyhoeddwyd ar StatsCymru yn dangos, ar 30 Medi 2023, fod canran y staff benywaidd CALl ychydig yn is na'r cyfrif pennau benywaidd ar gyfer nyrsys a staff gofal uniongyrchol i gleifion, gan fod gan staff benywaidd lai o oriau contract na staff gwrywaidd fel rheol. Ar gyfer staff gweinyddol, roedd cyfran y staff benywaidd CALl ychydig yn uwch na'r cyfrif pennau.
Ffigur 16: Cyfrif pennau staff eraill practisau yn ôl grŵp oedran, 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 16: Siartiau bar sy'n dangos bod dosbarthiad oedran nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol yn dilyn patrwm tebyg, gyda rhai amrywiadau bach. Y grŵp oedran 50 i 59 oed sydd â'r nifer mwyaf o staff ar gyfer pob grŵp staff a'r grŵp oedran dan 30 oed sydd â'r nifer lleiaf o staff ar gyfer pob grŵp staff.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a CALl) yn ôl band oedran a bwrdd iechyd lleol ar StatsCymru
Ar 30 Medi 2023, roedd llai nag un o bob ugain (4.2%) o nyrsys mewn practis cyffredinol dan 30 oed. Roedd bron chwech o bob deg (57.2%) rhwng 40 a 59 oed, ac roedd un rhan o bump (19.7%) yn 60 oed neu'n hŷn.
Roedd crynodiadau uwch o staff gofal uniongyrchol i gleifion mewn grwpiau oedran iau na'r ddau grŵp staff arall. Roedd un rhan o dair (33.0%) yn 39 oed neu'n iau ac roedd 14.7% yn 60 oed neu'n hŷn.
Roedd tri o bob deg (30.1%) aelod o staff gweinyddol yn 39 oed neu'n iau, ac roedd ychydig dros hanner (53.0%) yn 50 oed neu drosodd, gan gynnwys 21.5% o staff a oedd yn 60 oed neu drosodd.
Ffigur 17: Canran y grwpiau staff eraill mewn practisau [Nodyn 1], cyfrif pennau yn ôl ethnigrwydd, 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 17: Siartiau bar sy'n dangos y cofnodwyd mwyafrif mawr o nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol mewn grwpiau ethnig gwyn gyda gwahaniaethau bach rhwng y mesurau cyfrif pennau a CALl.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Staff eraill y practisau (cyfrif pennau a CALl) yn ôl ethnigrwydd ar StatsCymru
[Nodyn 1] Nid yw'n cynnwys cofnodion lle nad oedd ethnigrwydd yn hysbys. Ar 30 Medi 2023, nid oedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 10% o nyrsys, 9% o staff gofal uniongyrchol i gleifion ac 8% o staff gweinyddol. Ni chaiff y staff hyn eu cynnwys yn yr enwadur wrth gyfrifo canran y categorïau ethnigrwydd hysbys.
Ar 30 Medi 2023, roedd 98.0% o nyrsys (cyfrif pennau) yn dod o grŵp ethnig gwyn, 0.2 pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad yn 2022, a 1.0 pwynt canran yn is nag ar yr un dyddiad yn 2021. O blith y rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf yn dod o gefndir ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, neu Ddu neu Ddu Prydeinig (0.6% yr un). Nid oedd gwahaniaeth rhwng dosbarthiad staff yn ôl grwpiau ethnig wrth ddefnyddio cyfrif pennau a CALl.
Roedd 96.0% o staff gofal uniongyrchol yn dod o gefndir ethnig gwyn, sef gostyngiad o 1.3 pwynt canran o'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol a gostyngiad o 1.6 pwynt canran o'r un dyddiad yn 2021. O blith y rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf yn dod o gefndir ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.8%). Wrth fesur yn ôl CALl, roedd y ganran o gefndir ethnig gwyn ychydig yn is, sef 96.0%.
Roedd 97.8% o staff gweinyddol/anghlinigol yn dod o grŵp ethnig gwyn, sy'n debyg i'r ddwy flynedd flaenorol i raddau helaeth. O blith y rhai o gefndir ethnig leiafrifol, roedd y rhan fwyaf yn dod o gefndir ethnig Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (1.0%). Wrth fesur yn ôl CALl, roedd y ganran o gefndir ethnig gwyn ychydig yn uwch, sef 98.0%.
Roedd gan bob grŵp staff arall ganran is o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd, cymysg neu gefndiroedd ethnig leiafrifol eraill na phoblogaeth gyffredinol Cymru (5.0% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (StatsCymru); neu 6.2% o Gyfrifiad 2021 (SYG)).
Ffigur 18: Canran y grwpiau staff eraill mewn practisau (cyfrif pennau) yn ôl sgiliau siarad Cymraeg [Nodyn 1], 31 Rhagfyr 2020 i 30 Medi 2023
Disgrifiad o Ffigur 18: Siartiau llinell sy'n dangos bod mwyafrif mawr o nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg, er bod y ganran hon wedi lleihau dros amser.
Ffynhonnell: System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru; Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Nid yw'n cynnwys cofnodion lle nad oedd sgiliau Cymraeg yn hysbys. Ar 30 Medi 2023, nid oedd sgiliau siarad Cymraeg yn hysbys ar gyfer 46% o nyrsys, 44% o staff gofal uniongyrchol i gleifion a 47% o staff gweinyddol. Ni chaiff y staff hyn eu cynnwys yn yr enwadur wrth gyfrifo canran y categorïau sgiliau Cymraeg hysbys.
Mae canran y staff y cofnodwyd bod ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg wedi cynyddu ym mhob grŵp staff arall mewn practisau dros y ddwy flynedd flaenorol; fodd bynnag, mae canran y staff â data anghyflawn am y Gymraeg hefyd wedi cynyddu dros y cyfnod sy'n cyfyngu ar ansawdd yr ystadegau hyn.
Ar 30 Medi 2023, dywedodd 19.6% o nyrsys (lle cofnodwyd sgiliau siarad Cymraeg) fod ganddynt rai sgiliau siarad Cymraeg, sef cynnydd o 2.0 pwynt canran o gymharu â'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 3.3 pwynt canran o gymharu â'r un dyddiad ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd 19.8% o staff gofal uniongyrchol i gleifion fod ganddynt rai sgiliau siarad Cymraeg, sef cynnydd o 1.9 pwynt canran o gymharu â'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 1.4 pwynt canran o gymharu â'r un dyddiad ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd 16.8% o staff gweinyddol fod ganddynt rai sgiliau siarad Cymraeg, sef cynnydd o 3.1 pwynt canran o gymharu â'r un dyddiad y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 3.5 pwynt canran o gymharu â'r un dyddiad ddwy flynedd yn ôl.
Yn y categori ‘sgiliau uwch neu hyfedr’ y gwelwyd y cynnydd mwyaf ar gyfer pob grŵp staff.
Roedd 17.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 (StatsCymru). Roedd canran y nyrsys a'r staff gofal uniongyrchol i gleifion oedd ag unrhyw sgiliau siarad Cymraeg ychydig yn uwch na phoblogaeth Cymru, gan ddefnyddio mesur y cyfrifiad.
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth hefyd yn amcangyfrif bod gan 29.2% o bobl sy'n byw yng Nghymru rai sgiliau siarad Cymraeg (Medi 2023). Roedd gan y tri grŵp staff ganran is o staff â rhai sgiliau siarad Cymraeg na phoblogaeth Cymru wrth gymharu â'r mesur hwn.
Gan fod y prosesau casglu data ar gyfer gwybodaeth am y Gymraeg yn wahanol yn y tair ffynhonnell, mae cryfder cymariaethau uniongyrchol yn gyfyngedig. Caiff yr ystadegau eu cyflwyno yma gan mai'r rhain yw'r rhai gorau sydd ar gael a dylid eu defnyddio i roi syniad o'r gwahaniaethau rhwng sgiliau siarad Cymraeg staff practis cyffredinol a phobl sy'n byw yng Nghymru.
Llifau cleifion dros y ffin
Mae'r adran hon yn rhoi ystadegau ar nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau practis cyffredinol dros ffin Cymru/Lloegr.
Ffigur 19: Llifau cleifion dros y ffin, mis Ionawr 2020 i fis Hydref 2023
Disgrifiad o Ffigur 19: Siart linell sy'n dangos bod nifer mwy o gleifion sy'n byw yn Lloegr wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru na phreswylwyr sy'n byw yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yn Lloegr. Mae'r nifer ar gyfer y ddau fesur wedi parhau i fod yn gymharol sefydlog ers mis Ionawr 2020.
Ffynhonnell: Gwasanaethau Cymwysiadau ac Isadeiledd Iechyd Cenedlaethol (NHAIS), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
[Nodyn 1] Ni chafwyd unrhyw ddata ar gyfer mis Ebrill 2022.
Ym mis Hydref 2023, roedd 21,184 o breswylwyr sy'n byw yn Lloegr wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru, ac 13,427 o breswylwyr sy'n byw yng Nghymru wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yn Lloegr.
Roedd llif net cleifion i bractisau cyffredinol yng Nghymru yn 7,757 ym mis Hydref 2023. Mae'r ffigur hwn wedi bod yn gymharol sefydlog ers i'r data fod ar gael gyntaf ym mis Ionawr 2020, gan amrywio o 7,102 ym mis Ionawr 2020 i 8,387 ym mis Gorffennaf 2022.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd a rhestr o dermau eu cyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd ystadegol.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (LlCD)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Y nodau hyn yw cael Cymru sy'n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus, yn fwy cydnerth, yn iachach ac yn fwy cyfrifol yn fyd-eang gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) cyflwyno copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cyflwynwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.