Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am rôl Prif Swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru

Mae Prif Swyddogion Ymchwil (Gradd 7) yn gyfrifol am arwain timau ymchwil ac am ddatblygu a goruchwylio rhaglenni ymchwil yn eu meysydd polisi.

Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol: 

  • gweithio ar draws adrannau i nodi a blaenoriaethu anghenion tystiolaeth a chyflawni yn erbyn yr anghenion hynny
  • sefydlu a chynnal perthynas â rhanddeiliaid allweddol
  • rhoi cyngor i Weinidogion sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth
  • cefnogi datblygiad a lles eu tîm ymchwil

Yn y fideo, mae Rhian yn sôn am y profiad o fod yn Brif Swyddog Ymchwil i Lywodraeth Cymru. 

Gyrfaoedd Ymchwil Cymdeithasol

Darganfyddwch rolau eraill Ymchwil Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru.