Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Ar 27 Mawrth 2023 cyhoeddais Bapur Gwyn yn amlinellu ein cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg. Derbyniwyd 538 o ymatebion ysgrifenedig yn ystod y cyfnod ymgynghori. Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion ynghyd â’r ymatebion unigol a ddaeth i law. Mae’r dogfennau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a dreuliodd amser i ystyried ein cynigion a pharatoi eu hymatebion i’r ymgynghoriad.
Cyflwynwyd ein cynigion ar gyfer y Bil yng nghyd-destun yr her sylweddol y mae strategaeth Cymraeg 2050, a’r targed o filiwn o siaradwyr yn ei osod. Mae’r cyd-destun hwnnw yn galw am newidiadau trawsnewidiol i’r ffordd yr ydym yn meddwl am y Gymraeg a rôl addysg oddi fewn i hynny. Roedd y Papur Gwyn felly yn gosod allan y camau rydym yn eu cynnig i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus drwy'r system addysg statudol.
Rwy’n falch bod yr adroddiad yn dangos bod cefnogaeth cyffredinol i’r uchelgais a’r amcanion sydd wedi’u hamlinellu yn y Papur Gwyn. Ar sail y gefnogaeth honno, gallaf gadarnhau fy mwriad i fwrw ati i gyflwyno Bil a fydd yn mynd i’r afael â’r amcanion polisi a amlinellwyd yn y Papur Gwyn.
Bydd y cysyniad o ddisgrifio lefelau hyfedredd yn y Gymraeg ac o welliant parhaus er mwyn gweddnewid deilliannau yn ganolog i’r Bil. Bydd disgrifio lefelau sgiliau Cymraeg ar hyd y ‘continwwm’ hwn yn golygu y bydd gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o’r daith tuag at ddod yn siaradwyr Cymraeg.
Rydym yn parhau i gydweithio gyda’n rhanddeiliaid wrth i’r prosiect hwn ddatblygu. Ffocws y gwaith yn y cyfnod nesaf yw i gasglu gwybodaeth bellach am gostau ac effeithiau ein cynigion gan ystyried yr effaith fydd ar ein gweithlu addysg. Mae’r elfen hon yn hollbwysig wrth i ni ddatblygu’r Bil i’w gyflwyno i'r Senedd yn y flwyddyn ddeddfwriaethol hon, hynny yw cyn toriad yr Haf eleni.