Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, a sefydlwyd ym mis Mai 2023 i ystyried cyflog ac amser di-gyswllt Cydlynwyr ADY, wedi darparu adroddiad yr wyf wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw a'i rannu â Chorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i'w ystyried. Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, dan arweiniad Dr Sue Davies, am eu hymrwymiad a'u mewnbwn i'r hyn sydd wedi bod yn faes cymhleth i'w ystyried.
Rwy'n cydnabod yn llawn y rôl sylweddol a phwysig y mae Cydlynwyr ADY yn ei chwarae yn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Mae'n amlwg bod llawer i'w wneud i sicrhau y gall pob partner gefnogi Cydlynwyr ADY yn effeithiol i reoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, gan eu galluogi i barhau i lywio arferion a goruchwylio'r broses o weithredu'r system ADY yn effeithiol.
Rydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth yn y gwaith o weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn 2023-24, darparwyd £10.4 miliwn yn uniongyrchol i ysgolion i gynyddu adnoddau i weithredu'r system ADY ac arwain strategaethau ysgol gyfan er mwyn ymgorffori addysg gynhwysol.
Mae'r cynnig dysgu proffesiynol o ran ADY sydd ar gael i ymarferwyr, arweinwyr systemau a chynghorwyr yn eu galluogi i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY, fel y gallant roi systemau addysgu gwahaniaethol ar waith neu ymyriadau eraill sydd wedi'u targedu, a gwneud y defnydd gorau o gyngor a chymorth arbenigol. Ar ben hynny, mae'r llwybr dysgu proffesiynol cenedlaethol o ran ADY ar gael i bob athro sy'n cefnogi dysgwyr ag ADY, ac yn enwedig Cydlynwyr ADY sydd â rôl strategol mewn ysgolion a cholegau, ac sy'n gyswllt cyntaf i athrawon sy'n ceisio cyngor ac arweiniad ar ADY.
Rydym hefyd eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â rhai o'r ystyriaethau pellach a nodwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Mae adolygiad mewnol o ddeunydd dysgu proffesiynol ynghylch ADY ar y gweill i nodi meysydd i'w datblygu a'u gwella er mwyn ehangu datblygiad addysgegol pob ymarferwr. Rydym hefyd yn datblygu cyfres o astudiaethau achos gydag awdurdodau lleol a lleoliadau ysgolion er mwyn tynnu sylw at arferion da wrth gydweithio.
Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd ag ymarferwyr, cyflogwyr a'u cynrychiolwyr i gefnogi Cydlynwyr ADY wrth inni weithredu a symud tuag at wireddu bwriad y diwygio; creu strategaeth i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bob dysgwr er mwyn gallu chwarae rhan lawn a gweithredol yn eu cymunedau a'u cymdeithas ehangach, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.