Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno rheoliadau i estyn y ddyletswydd llesiant (Rhan 2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) i wyth corff cyhoeddus arall, sef:
- Cymwysterau Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn amodol ar wneud y rheoliadau, bydd y cyrff cyhoeddus hyn yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant o 30 Mehefin 2024 ymlaen, gan ddod â chyfanswm y cyrff cyhoeddus datganoledig o dan y Ddeddf i 56. Bydd cynnwys y cyrff cyhoeddus eraill hyn yn cynyddu cwmpas ac ehangder yr agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn cryfhau'r ffyrdd cynaliadwy o weithio sy'n ganolog i Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.
Mae'r penderfyniad i estyn y ddyletswydd llesiant i'r wyth corff cyhoeddus hyn yn dilyn adborth a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym yn 2022. Gellir dod o hyd i grynodeb o'r ymgynghoriad hwn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r Ddeddf yn rhoi pwrpas cyffredin sy'n rhwymol yn gyfreithlon – y saith nod llesiant – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd, a chyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae'n rhoi manylion am y ffyrdd y mae rhaid i gyrff cyhoeddus penodedig weithio, a gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant Cymru. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud gwell penderfyniadau drwy sicrhau bod y cyrff hynny’n ystyried yr hirdymor, yn helpu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu, yn cymryd ymagwedd integredig a chydweithredol, ac yn ystyried ac yn cynnwys pobl o bob oed. Mae gweithio tuag gyflawni'r nodau llesiant yn galw am arweinyddiaeth effeithiol mewn cyrff cyhoeddus i yrru gweithgarwch ymlaen ar draws Cymru.
Mae'r ddyletswydd llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy, sef y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, er mwyn cyflawni'r nodau llesiant fel y nodir yn y Ddeddf.
Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid iddynt osod a chyhoeddi amcanion llesiant sy’n ceisio sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith o gyflawni pob un o’r nodau llesiant, ac yn cymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion. Yn amodol ar wneud y rheoliadau, bydd yn ofynnol i'r wyth corff cyhoeddus osod amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025, cyn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu cynnydd tuag at yr amcanion hynny.
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant hefyd yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r cyrff hyn weithio gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr staff eraill wrth osod a chyflawni eu hamcanion llesiant.
Er mwyn helpu i baratoi'r wyth corff i gyflawni eu dyletswyddau, mae fy swyddogion wedi cynnull cyfres o sesiynau cyfnewid gwybodaeth i rannu gwersi ac arferion da rhwng y cyrff cyhoeddus presennol a'r cyrff cyhoeddus arfaethedig o dan y Ddeddf, a byddant yn cynnull mwy o’r rhain yn 2024.
Rwy'n ddiolchgar i'n rhwydwaith o bartneriaid sy'n parhau i gefnogi ein gwaith i wneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy a chydnerth.