Mae busnes sy'n dylunio, yn gweithgynhyrchu ac yn cynnal ac yn cadw seddi awyrennau dosbarth cyntaf a dosbarth busnes yn buddsoddi ar gyfer y dyfodol yn ei safleoedd yng Nghasnewydd a Chwmbrân, ar ôl i gyllid Llywodraeth Cymru helpu i gefnogi mwy na 900 o swyddi presennol a thwf pellach yn y gweithlu.
Mae Safran Seats GB yn un o brif gyflenwyr seddi dosbarth cyntaf a dosbarth busnes yn y byd i gwmnïau hedfan rhyngwladol mwyaf y byd.
Gyda chymorth gwerth £1.6 miliwn gan Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru, mae'r cwmni'n buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ei safleoedd yn Ne Cymru, yn bennaf mewn prynu offer peiriannu newydd a moderneiddio cyfleusterau.
Dywedodd Véronique Bardelmann, Prif Swyddog Gweithredol Safran Seats GB:
Mae'n dda iawn gennyn ni fod wedi derbyn y cyllid hwn gan Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru.
Bydd yn ategu ein buddsoddi ein hunain mewn moderneiddio ein hoffer a'n cyfleusterau yng Nghasnewydd a Chwmbrân i sicrhau eu bod yn fwy effeithlon a chynaliadwy, fel ein bod yn gallu bodloni'r galw cynyddol am seddi dosbarth cyntaf a dosbarth busnes, a gwasanaeth cynnal a chadw ar ôl gwerthu'r seddi.
Byddwn ni'n gweld cynnydd sylweddol yn ein lefelau gweithgynhyrchu eleni, wrth i raglenni cynhyrchu sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gael eu rhoi ar waith. Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer ein gweithlu sy'n parhau i dyfu, a'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol.
Mae Cronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i fuddsoddi, tyfu ac adeiladu economi Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Yma yng Nghymru, rydyn ni am helpu busnesau i dyfu ac, yn ei dro, ddarparu swyddi gwell, yn agosach gartrefi pobl.
Mae ein cenhadaeth ar gyfer economi ffyniannus, wyrddach a thecach yng Nghymru yn dibynnu ar economïau rhanbarthol cryfach, ac Mae Safran Seats GB yn enghraifft wych o hynny – cyflogwr mawr yn Ne-ddwyrain Cymru sy'n cynnig swyddi medrus pwysig o ansawdd uchel sy'n talu cyflogau deniadol.
Nid yn unig y mae'r cwmni'n cael effaith sylweddol ar yr ardal leol, ond mae hefyd yn gwario tuag £11 miliwn bob blwyddyn gyda chyflenwyr – llawer ohonyn nhw'n fusnesau bach, annibynnol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn felly ein bod wedi gallu eu cefnogi drwy ein Cronfa Dyfodol yr Economi wrth inni weithio tuag at economi a adeiladwyd gennyn ni i gyd.