Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 7 Mawrth 2023
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 7 Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cyd-gadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Aelodau'r Comisiwn
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Lauren McEvatt
- Michael Marmot
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Panel Arbenigol
- Gareth Williams
Eitem 3
- Fiona McAllister, Rheolwr Gyfarwyddwr
- Adam Blunt, Cyfarwyddwr Cyswllt
- Catrin Davies, Uwch Swyddog Ymchwil (presenoldeb rhithwir)
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
- Victoria Martin, Arweinydd Polisi
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
Eitem 1: Croeso gan y cyd-gadeiryddion
1. Croesawodd y Cyd-gadeiryddion y Comisiynwyr i'r cyfarfod personol cyntaf yn 2023.
2. Diolchodd Rowan Williams i'r Comisiynwyr am eu hymatebion i'r cynnig 'Cyflwr yr Undeb'. Ar ôl datgan diddordeb, ni chymerodd Laura unrhyw ran yn y drafodaeth a ddilynodd. Trafododd y Comisiynwyr y cynnig ac, o'r rhai a fynegodd farn yn y cyfarfod, roedd saith o blaid y cynnig, ac roedd dau yn argyhoeddedig. Penderfynwyd, ar y cydbwysedd, i fwrw ymlaen â'r cynnig.
Eitem 2: Stocktake
3. Myfyriodd y comisiynwyr ar y cynnydd a wnaed hyd yma, ac ystyried meysydd ar gyfer gwaith pellach.
Eitem 3: Adroddiad ymchwil Beaufort
4. Cyflwynodd Fiona McAllister, Adam Blunt a Catrin Davies o Beaufort Research ganfyddiadau allweddol cam cyntaf eu gwaith. Trafodwyd y canfyddiadau gan y Comisiynwyr.
Eitem 4: Edrych ymlaen
5. Adolygodd y Comisiynwyr y gweithgaredd arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer ymgysylltu.
Eitem 5: UFA
6. Diolchodd y Cyd-gadeiryddion i'r Comisiynwyr am eu cyfraniadau.