Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru
Hoffem gael eich barn ar ganllawiau drafft ar ddysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Yng Nghymru, addysg yw cenhadaeth ein cenedl. Gyda'n gilydd byddwn yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, gan fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac uchelgais. Ein nod yw bod pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, yn cael ei gefnogi i fod yn ddinesydd iach, brwdfrydig, blaengar a moesegol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
O fis Medi 2023, mae pob ysgol yng Nghymru yn addysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru ym mhob grŵp blwyddyn hyd at Flwyddyn 8. Bydd y cwricwlwm wedyn yn cael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn hŷn hyd nes y bydd pob dysgwr 3 i 16 oed yn dilyn Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026. Dyhead Cwricwlwm i Gymru yw bod pob dysgwr yn gadael addysg yn 16 oed gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo, ac wedi datblygu'r galluoedd, yr ymagweddau a'r nodweddion a ddisgrifir yn y pedwar diben; mae hyn yn cynrychioli'r cam cyntaf o ran cefnogi pobl ifanc i ffynnu fel dysgwyr gydol oes. Rydym am i gyflawniadau a chynnydd pob dysgwr gael eu cydnabod a'u cefnogi wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Gwyddom y gall llwybrau 14 i 19 fod yn gymhleth, gyda llawer iawn o ddewis i ddysgwyr. Mae adroddiad Hefin David (Pontio i Gyflogaeth), yr Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru a'r adroddiadau ar Sgwrs Genedlaethol Gwarant Pobl Ifanc yn dangos bod nifer o rwystrau a all lesteirio dysgwyr rhag pontio'n llwyddiannus ac yn ddidrafferth i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth ôl-16.
Er mwyn bodloni dyheadau cenhadaeth ein cenedl a chefnogi pob dysgwr i ffynnu, mae angen i ni fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, gan adeiladu ar sylfeini Cwricwlwm i Gymru a'r gyfres ddiwygiedig o gymwysterau 14 i 16 y mae Cymwysterau Cymru yn eu datblygu.
Cefndir
Mae canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn 2022 yn nodi gofynion y cwricwlwm ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu Cymru 2021 (y Ddeddf). Ym mis Medi 2022 dechreuodd y broses o roi Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul cam.
Er bod cynnydd o fewn Cwricwlwm i Gymru yn cael ei wneud ar draws continwwm dysgu 3 i 16, mae'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed yn wahanol i'r rhai ar gyfer plant 3 i 14 oed. Mae angen i gwricwlwm 14 i 16 ystyried cymwysterau a'r cyfle i ddysgwyr arbenigo ynddynt, a hefyd gefnogi dysgwyr i nodi a gwireddu eu llwybrau 14 i 19 dewisol.
Ochr yn ochr â diwygio'r cwricwlwm, mae Cymwysterau Cymru, rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, wrthi’n ymgymryd â rhaglen waith i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru a llunio cymwysterau newydd i gefnogi Cwricwlwm i Gymru. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu'r cynnig llawn o gymwysterau 14 i 16, gan gynnwys TGAU.
Dyma ddolen i'r amserlen lawn ar gyfer rhaglen ddiwygio Cymwys ar gyfer y Dyfodol.
Yn unol â'r amserlen hon, ym mis Mehefin 2023 cyhoeddwyd y meini prawf terfynol ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd wedi'u gwneud i Gymru sydd i'w haddysgu o fis Medi 2025, gan gadarnhau'r cymwysterau TGAU sydd ar gael i gefnogi Cwricwlwm i Gymru.
Yn dilyn hynny, mae CBAC wedi bod yn datblygu manylebau manwl y cymwysterau TGAU, a bydd fersiynau terfynol o'r rhain ar gael i ysgolion o fis Medi 2024 er mwyn iddynt allu cynllunio a pharatoi ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025.
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu hymgynghoriad "Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16" (y Cynnig Llawn) ym mis Mawrth 2023, gan nodi cynigion ar gyfer y cymwysterau sgiliau, galwedigaethol a sylfaen a fyddai ar gael i gefnogi Cwricwlwm i Gymru o 2027 ymlaen. Cyhoeddwyd yr adroddiad penderfyniadau ar gyfer y Cynnig Llawn ym mis Ionawr 2024 ac mae’n amlinellu’r ystod lawn o gymwysterau 14 i 16 cenedlaethol a fydd ar gael o fis Medi 2027.
Pam ydym yn cyhoeddi Canllawiau Dysgu 14 i 16 drafft
Gyda diwygiad mor sylweddol, i'r cwricwlwm ac i'r cymwysterau ategol, rydym yn cyhoeddi Canllawiau Dysgu 14 i 16 drafft i gefnogi ysgolion i ddeall a chyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i dderbyn cwricwlwm eang a chytbwys wrth iddynt symud tuag at gymwysterau. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi ein polisi ynghylch yr agweddau ehangach ar y cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed, agweddau yr ydym yn ystyried yn werthfawr ac hanfodol i gyflawni cenhadaeth ein cenedl. Rydym yn cydnabod bod llawer o ysgolion eisoes yn cynnig yr agweddau ehangach hyn ond rydym am sicrhau bod cwricwlwm teg ar gael i bob dysgwr ledled Cymru.
Er mai ein blaenoriaeth drwy'r Canllawiau Dysgu 14 i 16 yw rhoi eglurder ar ein polisi ar gyfer dysgu 14 i 16 yn benodol, byddant hefyd yn llywio ein gweledigaeth polisi ar gyfer llwybrau 14 i 19 llwyddiannus.
Byddwn yn defnyddio'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, ynghyd â'n hymgysylltiad uniongyrchol â rhanddeiliaid, i lunio fersiwn derfynol y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yr ydym yn bwriadu ei chyhoeddi yn ystod tymor yr haf 2024. Mae'r amserlen gyhoeddi hon yn cyd-fynd â'r amserlen ar gyfer manylebau terfynol cymwysterau 2025 (gan CBAC) ac yn ceisio sicrhau'r cymorth mwyaf posibl i ysgolion wrth gynllunio a threfnu eu cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed yn y flwyddyn academaidd 2024 i 2025, cyn i'r garfan gyntaf o ddysgwyr blwyddyn 10 ddechrau dysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2025.
Byddwn hefyd yn defnyddio'r canllawiau hyn i lywio ein cynigion ar gyfer yr hyn y dylid ei gynnwys yn yr ecosystem wybodaeth newydd i ysgolion, a pha wybodaeth y dylid ei defnyddio at ddibenion hunanwerthuso a gwella ysgolion, gan lunio'r gofynion gwybodaeth a fydd yn disodli'r mesurau perfformiad (capio 9) dros dro.
Nodweddion allweddol y Canllawiau Dysgu 14 i 16
Hawl i Ddysgu 14 i 16
Mae'r Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn cyflwyno Hawl i Ddysgu 14 i 16 (yr Hawl)sy'n mynegi'r pedair elfen o ddysgu 14 i 16 yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn eu hystyried sydd bwysicaf i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Mae Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn cadarnhau blaenoriaethau ar gyfer dysgu 14 i 16 o fewn Cwricwlwm i Gymru ac yn mynegi'r cwricwlwm y mae gan bob dysgwr 14 i 16 oed hawl iddo, ac mae'n ofynnol i bob dysgwr gael cynnig addysgu a dysgu ar draws pob un o bedair elfen yr Hawl. Rydym am i bob dysgwr allu dangos a chyfathrebu eu dysgu, cynnydd a chyflawniadau mewn perthynas â'r elfennau hyn pan fyddant yn cwblhau addysg orfodol yn 16 oed, er mwyn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Ein gweledigaeth yw bod pob dysgwr yn cwblhau addysg orfodol yn 16 oed gyda'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ehangach a fydd wedi'u galluogi i ddatblygu'r galluoedd, yr ymagweddau a'r priodoleddau a ddisgrifir yn y pedwar diben. Mae Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn cefnogi'r weledigaeth hon, gan gydnabod pwysigrwydd parhaus cymwysterau ymestynnol ac uchelgeisiol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11, ac ar yr un pryd yn adlewyrchu pwysigrwydd dysgu ac addysgu y tu hwnt i gymwysterau. Mae’r Hawl yn cynnwys datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, ochr yn ochr ag ennill cymwysterau, a fydd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Bwriad yr Hawl yw cefnogi ysgolion i ddeall a bodloni gofynion cyfreithiol Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, er enghraifft, darparu cwricwlwm eang a chytbwys; sicrhau dysgu ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad ac ym mhob elfen mandadol o'r cwricwlwm, gan gynnwys Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ynghyd â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a chefnogi camau nesaf dysgwyr ôl-16.
Yn hollbwysig, mae’r Hawl yn fodd i gydnabod, gwerthfawrogi a gwobrwyo llawer o'r gwaith da y mae ysgolion eisoes yn ei wneud i ddatblygu eu dysgwyr tuag at y pedwar diben trwy ddarparu dysgu a phrofiadau ehangach a chefnogi dysgwyr i ffynnu yn eu camau nesaf.
Strwythur i gefnogi hunanwerthuso a gwella
Mae Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn nodi strwythur cenedlaethol ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm 14 i 16, yn ogystal â darparu strwythur y dylai ysgolion ei ddefnyddio i werthuso a myfyrio ar ddysgu, cynnydd a chyflawniadau eu dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11.
Ar hyn o bryd, wrth ystyried dysgu 14 i 16, gall prosesau gwerthuso a gwella yn aml ganolbwyntio gormod ar ddeilliannau o ran cymwysterau. Fodd bynnag, fel yr amlinellwyd gennym, ein gweledigaeth yw bod y cwricwlwm ysgol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn mynd y tu hwnt i gymwysterau yn unig, gan gynnig ystod o brofiadau ehangach i gyfoethogi'r dysgu ar draws y cwricwlwm a chefnogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Rydym yn gweld rôl hanfodol ar gyfer yr Hawl o ran cefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella ysgol. Mae'n darparu strwythur y dylai ysgolion ei ddefnyddio i fyfyrio a gwerthuso eu cwricwlwm i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11, ac i ystyried y cynnydd a wnaed gan ddysgwyr unigol ar draws y pedair elfen. Bydd hyn yn cynnwys y cymwysterau a gyflawnwyd gan ddysgwyr, o ystyried eu pwysigrwydd i ddysgwyr a'u camau nesaf i addysg bellach neu gyflogaeth. Fodd bynnag, yn unol â'r pwys a roddir ar ddysgu a phrofiadau ehangach ac amser ar gyfer cynllunio ôl-16 a hunanfyfyrio o fewn cwricwlwm 14 i 16, mae'r canllawiau'n cydnabod y dylai rhan sylweddol o dystiolaeth unrhyw ysgol hefyd gynnwys y ffordd y mae dysgwyr yn gallu myfyrio ar eu dysgu a'u cynnydd a pha mor hyderus y maent yn teimlo am eu camau nesaf tuag at ôl-16.
Mae Hawl i Ddysgu 14 i 16 hefyd yn helpu ysgol i ddatblygu Dealltwriaeth Gyffredin o Gynnydd ar hyd y continwwm 3 i 16. Mae’n darparu strwythur ar gyfer trafodaethau rhwng ysgolion uwchradd, Unedau Cyfeirio Disgyblion a darparwyr Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) a chynghorwyr gwella ysgolion, wrth iddynt werthuso eu cwricwlwm ysgol ym mlwyddyn 10 ac 11 a cheisio cael ymdeimlad o'u disgwyliadau ar gyfer cynnydd a chyflawniad dysgwyr.
Nid ydym am i'r broses o werthuso cynnydd dysgwr ar draws y pedair elfen fod yn rhywbeth sy'n digwydd un waith yn unig ar ddiwedd addysg orfodol y dysgwr, yn hytrach dylai fod yn broses o fyfyrio a gwerthuso sy'n rhychwantu blwyddyn 10 ac 11. Pan fo ysgol yn pryderu nad yw dysgwyr wedi gwneud cynnydd neu gyflawniadau mewn un neu fwy o elfennau Hawl i Ddysgu 14 i 16 erbyn diwedd eu haddysg orfodol, mae'r canllawiau'n cynghori y dylai’r ysgol weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod cymorth priodol a digonol yn cael ei roi ar waith i gefnogi'r dysgwyr hyn i symud ymlaen i ôl-16.
O ystyried pwysigrwydd Hawl i Ddysgu 14 i 16 o ran cefnogi cynnydd dysgwyr, ynghyd â'i rôl wrth helpu ysgolion i lunio a gwerthuso eu cwricwlwm 14 i 16, dylai hefyd ddarparu strwythur clir i gynghorwyr gwella ac Estyn pan fyddant yn ystyried cynnydd dysgwyr a chwricwlwm 14 i 16 ysgol. Yn hyn o beth, byddem yn disgwyl y bydd cynghorwyr gwella ac Estyn yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth ar draws pob un o bedair elfen yr Hawl.
I gydnabod hyn, mae'r canllawiau'n amlinellu y bydd Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn cael ei ddefnyddio i lywio rhan o'r cynigion yn ymwneud ag ecosystem wybodaeth ddiwygiedig ar gyfer ysgolion, ac y bydd hefyd yn llywio'r gofynion gwybodaeth a fydd yn olynu'r mesurau perfformiad interim (capio 9). Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag ymarferwyr ac arweinwyr i ddatblygu cynigion ar gyfer yr ecosystem wybodaeth a rennir â'r sector yn 2024, fel y gallwn gwblhau'r trefniadau newydd erbyn haf 2025 yn barod ar gyfer addysgu Cwricwlwm i Gymru i ddysgwyr blwyddyn 10 am y tro cyntaf.
Pwysigrwydd parhaus cymwysterau
Nod y canllawiau yw cefnogi ysgolion i benderfynu ar y cymwysterau y maent yn eu cynnig i'w dysgwyr ym mlwyddyn 10 ac 11, gan egluro y bydd angen darparu cynnig heriol ac uchelgeisiol ar gyfer pob dysgwr, sy'n ystyried eu hanghenion unigol.
Cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
Mae Cwricwlwm i Gymru yn cydnabod bod sgiliau llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer cynnydd dysgwyr ar draws y cwricwlwm cyfan. Maent yn sgiliau gydol oes hanfodol sy'n galluogi dysgwyr i ffynnu yn y byd modern.
O dan Hawl i Ddysgu 14 i 16, dylai cymwysterau llythrennedd a rhifedd barhau i fod yn elfen sylfaenol o gwricwlwm ysgol ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, gan gydnabod eu pwysigrwydd ar gyfer datblygu’n llwyddiannus. Bydd gofyn i ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn parhau i wneud cynnydd ac yn gallu dangos eu cyrhaeddiad mewn llythrennedd a rhifedd pan fyddant yn cwblhau eu haddysg orfodol yn 16 oed.
Y Gymraeg
Yn unol â gweledigaeth a strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050, mae'r canllawiau'n egluro ei bod yn bwysig bod dysgwyr yn parhau i wneud cynnydd yn y Gymraeg ym mlynyddoedd 10 ac 11.
Mae'r canllawiau'n egluro ein polisi ar gyfer yr hyn a olygir wrth gwricwlwm uchelgeisiol a heriol mewn perthynas â'r Gymraeg, gan dynnu sylw at y gwahanol gymwysterau a fydd ar gael a sut y gellir eu defnyddio i gefnogi pob dysgwr i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar hyd y continwwm Cymraeg, a chydnabod sut y bydd hyn yn amrywio yn ôl categori iaith ysgolion. Mae ein canllawiau wedi'u cynllunio i gefnogi'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Gymraeg, gan gydnabod pwysigrwydd sgiliau Cymraeg i'r genedl gyfan ac i ddysgwyr unigol, a'u cefnogi i ffynnu yng Nghymru yn y dyfodol.
Cymwysterau i annog ehangder: pwysigrwydd parhaus gwyddoniaeth
Mae Hawl i Ddysgu 14 i 16 hefyd yn cyfeirio at gymwysterau sy'n annog dysgu eang. Dylai ysgolion gynnig cyfres eang o gymwysterau sy'n cefnogi amrywiaeth o lwybrau addysg a chyflogaeth yn y dyfodol, ac sy’n caniatáu i ddysgwyr ddechrau arbenigo a hefyd yn eu helpu i gael cyfleoedd dysgu eang ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn unol â'r gofynion cyfreithiol.
Mae'r canllawiau'n amlinellu ein polisi mewn perthynas â gwyddoniaeth; yn y canllawiau rydym yn nodi ei bod yn bwysig i bob dysgwr ddilyn cymhwyster heriol ac uchelgeisiol mewn gwyddoniaeth ym mlynyddoedd 10 ac 11. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd gwyddoniaeth i ddealltwriaeth unigolyn o'r byd yr ydym yn byw ynddo ac fel cymhwyster pwysig ar gyfer llawer o bynciau a gyrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Mae'n bwysig nad yw dysgwyr yn cau llwybrau yn y dyfodol cyn pryd o ganlyniad i benderfyniadau a wneir ar gyfer blwyddyn 10. Bydd y disgwyliad fod pob dysgwr yn dilyn cymhwyster heriol ac uchelgeisiol mewn gwyddoniaeth yn 14 i 16 oed yn helpu i sicrhau bod dewisiadau a llwybrau yn parhau i fod ar gael iddynt yn y dyfodol.
Hunanfyfyrio a chynllunio ôl-16
Mae datblygu effeithiolrwydd ein dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen tuag at y pedwar diben yn hollbwysig ac yn rhan o elfennau mandadol Cwricwlwm i Gymru. Mae'r egwyddor cynnydd allweddol hon yn ceisio cefnogi dysgwyr i ddod yn fwyfwy effeithiol wrth ddysgu mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun cysylltiedig â byd gwaith trwy ddatblygu'r sgiliau i wneud penderfyniadau mwy effeithiol a gwybodus; mae hyn yn cynnwys cefnogi dysgwyr i ddefnyddio dulliau cynyddol lwyddiannus o hunanwerthuso ac adnabod eu camau nesaf.
Er bod datblygu effeithiolrwydd dysgwyr yn bwysig gydol taith ddysgu'r cwricwlwm 3 i 16, mae'r canllawiau'n pwysleisio y dylai hyn gael ei ystyried yn arbennig o berthnasol ym mlwyddyn 10 ac 11 o gofio bod diwedd blwyddyn 11 yn nodi diwedd addysg orfodol i ddysgwyr yng Nghymru. Bydd hyn, yn ogystal â rhoi'r sgil bywyd hwn i ddysgwyr, yn eu helpu i wneud penderfyniadau effeithiol mewn perthynas â'u llwybrau a'u camau nesaf yn y dyfodol.
Mae tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys yr adolygiad gan Dr Hefin David AS ar Bontio i Fyd Gwaith, yr adolygiad dan arweiniad Sharron Lusher MBE o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru a thystiolaeth a gasglwyd drwy dri cham y Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc yn dangos bod angen gwella gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o'r llwybrau sydd ar gael iddynt a buddsoddi mwy i gefnogi'r llwybrau hyn er mwyn helpu dysgwyr i ffynnu. Rydym hefyd wedi comisiynu'r OECD i ymgymryd ag ymchwil annibynnol trwy gynnal adolygiad cymharol o systemau addysg i ddysgwyr 14 i 19 oed a'u heffaith ar bontio dysgwyr. Mae'r dystiolaeth o'r ymchwil hon yn nodi bod arfer dda rhyngwladol mewn perthynas â chyngor ar yrfaoedd a'r byd gwaith a chefnogi pontio yn aml yn helpu dysgwyr i gymryd agwedd fwyfwy annibynnol at ddeall eu cryfderau, y meysydd i'w gwella a'u hamcanion.
Er mwyn i bobl ifanc allu ffynnu, mae angen iddynt ddeall sut y gall yr ystod o sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiadau y maent wedi'u datblygu o fewn Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â'u profiadau ehangach y tu allan i'r ysgol, gefnogi a llywio eu dewisiadau a rhoi'r hyder iddynt barhau i'w camau nesaf. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cael eu cefnogi gan y cynnig dysgu 14 i 16 er mwyn:
- deall yr ystod lawn o opsiynau sydd ar gael iddynt, gan greu agwedd agored i gymwysterau galwedigaethol a chyffredinol ôl-16
- deall goblygiadau eu dewisiadau o fewn a thu hwnt i addysg orfodol
- cael profiadau gwaith dilys ac ystyrlon
- gwneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu llwybr unigol
Felly, mae Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw bod pob ysgol yn darparu amser penodol yn y cwricwlwm i ddatblygu effeithiolrwydd dysgwyr a gwella eu dealltwriaeth o'u dewisiadau ôl-16, a gefnogir gan Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy'n Gysylltiedig â Byd Gwaith sy'n berthnasol, yn ystyrlon ac wedi'u teilwra.
Mae neilltuo amser yn yr amserlen i ganolbwyntio ar feithrin a chefnogi datblygiad y dysgwr yn ei gyfanrwydd, sy'n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am ei gamau nesaf a llwybrau tymor hwy, yn nodwedd sylfaenol o Hawl i Ddysgu 14 i 16. Rydym yn cydnabod bod llawer o ysgolion eisoes yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo'r math hwn o gynnydd gan ddysgwyr; fodd bynnag, rydym am ddefnyddio'r elfen hon o’r Hawl i ddiogelu tegwch i bob dysgwr trwy sicrhau cysondeb, a gwerthfawrogi a gwobrwyo'r dull hwn ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru.
Dyfodol Bagloriaeth Cymru
Mae'r canllawiau'n nodi na fydd Bagloriaeth Cymru, fel cymhwyster cyfunol, yn gymwys mwyach ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau blwyddyn 10 yn 2025.
Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i'r newidiadau i'r cymwysterau sylfaenol sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru. Ond mae hefyd yn cydnabod nad yw Bagloriaeth Cymru yn cynrychioli ehangder llawn ein polisi ar gyfer dysgu 14 i 16 o fewn Cwricwlwm i Gymru. Yn hytrach, bydd Hawl i Ddysgu 14 i 16 yn cynnal elfennau craidd Bagloriaeth Cymru (e.e. pwysigrwydd cymwysterau llythrennedd a rhifedd) a hefyd yn ymgorffori ein disgwyliadau ehangach ar gyfer dysgu 14 i 16 (er enghraifft, cefnogi cynnydd effeithiolrwydd dysgwyr, gan gynnwys o ran hunanfyfyrio a chynllunio ôl-16).
Mae'r canllawiau'n nodi, yn unol â'r amserlen ar gyfer y Cynnig Llawn gan Cymwysterau Cymru, y bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn parhau i fod ar gael fel cymhwyster annibynnol i ddysgwyr sy'n dechrau blwyddyn 10 yn 2025, a'r rhai sy'n dechrau blwyddyn 10 yn 2026. Yna, bydd y Gyfres Sgiliau yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau, o dan y Cynnig Llawn, ym mis Medi 2027 ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau blwyddyn 10 bryd hynny.
Mae'r canllawiau'n nodi ei bod yn bwysig bod ysgolion yn parhau i gynnig y Dystysgrif Her Sgiliau i ddysgwyr blwyddyn 10 yn 2025 a 2026, gan gydnabod sut y gall y cymhwyster hwn helpu ysgolion i ddarparu dysgu a phrofiadau ehangach, fel rhan o Hawl i Ddysgu 14 i 16.
Y camau nesaf
Rydym yn cydnabod y bydd blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn gyfnod trosiannol allweddol i ysgolion mewn perthynas â'u cynnig o ran Cwricwlwm i Gymru i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11, yn enwedig wrth gyflwyno'r cymwysterau 14 i 16 llawn yn raddol hyd at 2027. Rydym eisiau cefnogi ysgolion gymaint â phosibl fel eu bod yn teimlo'n hyderus am eu cwricwlwm yn y cyfnod hwn a thu hwnt.
Felly, rydym yn bwriadu cyhoeddi deunyddiau ategol, ochr yn ochr â'r canllawiau terfynol yn nhymor yr haf, a fydd yn ceisio helpu ysgolion wrth iddynt feddwl am strwythur y cwricwlwm; y dysgu a'r addysgu; a'r ffordd orau o gyflawni eu rhwymedigaethau statudol.
Ar y cyd â hyn, byddwn yn gweithio gyda Chymwysterau Cymru a CBAC i ddarparu gwybodaeth ychwanegol fel bod ysgolion yn deall sut y gellir defnyddio heriau cyfredol y Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o gynllun eu cwricwlwm i gefnogi darparu dysgu a phrofiadau ehangach yn Hawl i Ddysgu 14 i 16, cyn i'r Gyfres Sgiliau ddod ar gael yn 2027.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau o ran llwyth gwaith mewn ysgolion, ac mae cael dealltwriaeth wirioneddol o effaith bosibl ein cynigion ar y proffesiwn yn rhan bwysig o'r gwaith o ddatblygu ein polisi. Rydym am sicrhau ein bod yn ystyried risgiau ac effeithiau'r polisi dysgu 14 i 16 ar y proffesiwn yn llawn ac rydym wedi cytuno i fod y cyntaf i dreialu'r 'asesiad effaith llwyth gwaith' newydd. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gyhoeddi fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig cyffredinol yn yr haf. I gefnogi'r gwaith hwn, mae cwestiwn ymgynghori wedi'i ddrafftio ar gyfer yr ymgynghoriad hwn i gasglu barn ymarferwyr ar oblygiadau'r cynigion iddyn nhw a'u llwyth gwaith, ac i bennu unrhyw anghenion dysgu proffesiynol.
Portffolio digidol i ddysgwyr
Yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 28 Mehefin 2023, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ei fod wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynigion ar gyfer portffolio digidol i ddysgwyr a allai gefnogi cynnydd dysgwyr o fewn Cwricwlwm i Gymru yn 14 i 16 ac, yn hollbwysig, lwybrau unigol dysgwyr. Dywedodd y byddai'r cynigion hyn yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ar Ddysgu 14 i 16.
Yn ogystal â'n hymgysylltiad yn ystod yr hydref ar ddatblygu'r Canllawiau Dysgu 14 i 16, rydym wedi casglu gwybodaeth a thystiolaeth er mwyn llywio'r cynigion ar gyfer portffolio digidol i ddysgwyr. Rydym yn dal i gydnabod y rôl bwysig y gallai portffolio digidol i ddysgwyr ei chwarae o ran cefnogi ysgolion a dysgwyr i ystyried, gwerthuso, dangos tystiolaeth o gynnydd ar hyd y continwwm 3 i 16 ac yn arbennig eu Hawl i Ddysgu 14 i 16. Felly, rydym wedi ymrwymo i fireinio a gwerthuso opsiynau ymarferol ar gyfer cyflwyno'r portffolio digidol. Rydym yn bwriadu cynnull gweithgor i gefnogi'r gwaith hwn, a fydd yn cynnwys ymarferwyr o ysgolion sydd eisoes â dull gweithredu ar gyfer hyn ac ysgolion nad oes ganddynt ddull gweithredu, gyda golwg ar gyhoeddi rhagor o fanylion ar yr un pryd â chyhoeddi'r Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn nhymor yr haf.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn eich helpu i ddeall eich rhwymedigaethau statudol ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed o fewn Cwricwlwm i Gymru?
Cwestiwn 2: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn eich helpu i ddeall sut y dylid defnyddio'r cynnig o gymwysterau i gefnogi cwricwlwm 14 i 16 i ddysgwyr o fewn Cwricwlwm i Gymru?
Cwestiwn 3: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn eich helpu i ddeall sut y dylai cynnig cwricwlwm 14 i 16 gael ei gynllunio?
Cwestiwn 4: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn cynnwys digon o fanylder?
Cwestiwn 5: Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y bydd y polisi a amlinellir yn y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn eu cael ar weithlu'r ysgolion, gan gynnwys unrhyw effaith y gallai ei chael ar lwyth gwaith.
Cwestiwn 6: Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y bydd y polisi a amlinellir yn y Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn eu cael ar anghenion amrywiol dysgwyr unigol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig a'r rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (fel y nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
Cwestiwn 7: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y Canllawiau Dysgu 14 i 16 ar y Gymraeg ym Mlynyddoedd 10 ac 11? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 8: Yn eich barn chi, a allai'r Canllawiau Dysgu 14 i 16 gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn sicrhau:
- eu bod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg; a
- nad ydynt yn cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Cwestiwn 9: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma.
Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaeth graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Information Commissioner's Office.