Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Eleni gwelir dechrau rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae’n dilyn dull newydd sy'n cael ei reoli drwy Grŵp Goruchwylio Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac sy'n cael ei weithredu drwy gytundeb sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a GIG Cymru. Mae'r rhaglen ddiwygio yn seiliedig ar argymhellion yr Adolygiad Seneddol diweddar, ac mae'n cyd-fynd â'r ysgogwyr pwysig hynny sydd wedi'u cynnwys yn Symud Cymru Ymlaen ac yn Ffyniant i Bawb.
Mae'n bleser gen i gyhoeddi y daeth y trafodaethau ynghylch contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2018/2019 i ben ddiwedd mis Chwefror 2018. Cytunwyd ar y canlynol ar gyfer blwyddyn gontract 2018/2019:
- Ymgodiad o 1% i gyflogau a chynnydd o 1.4% ar gyfer costau cyffredinol (ac eithrio indemniad, sy'n cael ei drin ar wahân). Bydd y cynnydd yn cael ei gymhwyso i'r swm craidd a'r gwasanaethau ychwanegol ar gyfer brechiadau ac imiwneiddio.
- Ymgodiad ar gyfer indemniad proffesiynol, gan gydnabod y cynnydd penodol yn y farchnad indemniad o ganlyniad i'r newid i'r cyfraddau disgownt a gyhoeddwyd gan yr Arglwydd Ganghellor.
- Gwella darpariaeth sylfaenol y Gymraeg
- Gwerthuso'r Cynllun Denu a Chadw Meddygon
- Gwella'r trefniadau mentora a hyfforddi ar gyfer Meddygon Teulu
- Adolygu'r cynnig recriwtio i Feddygon Teulu
- Newid y llwyth gwaith a'r systemau, gan wella'r rhyngweithio rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd
- Cytuno ar ffordd o fynd ati i wella hygyrchedd gwasanaethau
- Edrych ar sut i ddileu'r rhwystr indemniad ar gyfer Meddygon Teulu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar
- Llacio'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau er mwyn lleihau'r pwysau o'r llwyth gwaith
- Estyn trefniadau Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd ar gyfer presgripsiynu oherwydd achosion o'r ffliw
- Ymrwymiad i fonitro effaith symud i systemau TG eraill
- Ymrwymiad i ystyried y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ochr yn ochr â mynediad gwell at ddata.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r holl gydweithwyr yn GIG Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru am eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus i'r rhaglen ddiwygio hon. Rydym wedi gwneud cynnydd mewn cysylltiad â nifer o eitemau, ond mae corff sylweddol o waith yn parhau i'w wneud ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Fodd bynnag, mae'r dull newydd hwn yn rhoi'r llwyfan inni ddiwygio'r contract presennol, i fynd i'r afael â materion o fewn y system ac i ddatblygu'r ymrwymiadau hynny y mae'r Llywodraeth hon wedi'u hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.