Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol dros nifer o flynyddoedd, a’r cyllid ar gyfer 2023/24 yw'r lefel uchaf erioed.
Er gwaethaf y sefyllfa ariannol eithriadol o heriol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw gweithlu’r GIG ac felly rwyf wedi cytuno i gynnal yr un lefel o gyllid â 2023/24 ym mlwyddyn academaidd 2024/25, a buddsoddi £283.126 miliwn mewn hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael mewn addysg a hyfforddiant i'r gweithwyr hyn o'u cymharu â’r lleoedd a gafodd eu llenwi yn 2023/24.
O ystyried yr heriau ariannol a hefyd yr heriau o ran y gweithlu, nad ydynt mewn unrhyw ffordd yn unigryw i Gymru, rydym yn cydnabod nad yw addysg a hyfforddiant yn ateb ar ei ben ei hun a all ddatrys holl heriau presennol y gweithlu a'r system, ac na fydd y bobl sy'n dechrau hyfforddi ym mis Medi 2024 yn gwbl gymwysedig am nifer o flynyddoedd.
Rydym yn cydnabod y pwysau anferth sydd ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd, a dyna pam, ochr yn ochr â chynnal lefel y cyllid a ddarperir ar gyfer addysg a hyfforddiant i'r gweithwyr hyd at 2024/25, y byddwn yn parhau i ystyried defnyddio rhaglenni cenedlaethol i gefnogi gweithgarwch recriwtio rhyngwladol moesegol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y GIG yn cael y gweithlu sydd ei angen i'w helpu i ymateb i'r heriau y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.