Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

Mae’r ddogfen ganllaw hon yn darparu diffiniadau ar gyfer dangosyddion allbynnau a chanlyniadau i raglen Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru. Y bwriad yw cefnogi’r rheini sy’n ymwneud ag unrhyw gam o ddatblygu, rheoli neu werthuso prosiect sy’n cael ei ariannu gan Cymru Ystwyth.

Bydd angen i’ch cais nodi pa allbynnau y bydd y prosiect yn eu cyflawni yn ystod ei gyfnod gweithredu a’r canlyniadau a allai ddeillio o hynny yn y tymor byr a’r tymor canolig. Gellid cofnodi canlyniadau tymor byr yn ystod cyfnod gweithredu’r prosiect neu’n fuan ar ôl ei gwblhau. Gellid cofnodi canlyniadau tymor canolig fisoedd lawer ar ôl cwblhau’r prosiect os ceir cysylltiad rhesymegol â gweithgarwch y prosiect ond mae’n debygol y bydd hynny’n digwydd o fewn blwyddyn i’w gwblhau.l demonstrate significant value, but these should be discussed with the Agile Cymru Team first. Bydd angen rhesymeg ymyrraeth glir rhwng y math o weithgarwch a gynigir a’r allbynnau a’r canlyniadau arfaethedig. Nid oes angen i chi gynnwys pob allbwn a chanlyniad, dim ond y rhai sy'n cyfateb i'ch gweithgarwch arfaethedig. Mae Atodiad A yn rhoi arweiniad ar allbynnau a chanlyniadau perthnasol, gan gynnwys diffiniadau a'r gofynion o ran tystiolaeth. Mae’n bosibl nodi allbynnau a chanlyniadau perthnasol eraill, yn enwedig os byddant yn dangos gwerth sylweddol, ond dylid trafod y rhain gyda Thîm Cymru Ystwyth yn gyntaf.

Amserlen adrodd am ddangosyddion

Byddwn yn cofnodi allbynnau ac unrhyw ganlyniadau uniongyrchol fel rhan o’r broses hawlio; bydd y dystiolaeth sy’n ofynnol yn gymesur â’r grant a ddyfernir, er enghraifft gallai hunan-ddatganiad fod yn briodol mewn llawer o achosion. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi chwe mis ar ôl i’r gweithgarwch ddod i ben neu o fewn cyfnod sy’n berthnasol i’r prosiect er mwyn nodi unrhyw ganlyniadau pellach. Bydd y data a gesglir hefyd yn llywio unrhyw werthusiadau o effaith Cymru Ystwyth ac efallai y cysylltir â chi at ddibenion gwerthuso, er enghraifft i archwilio barn fwy ansoddol am effaith.

Allbynnau a chanlyniadau Cymru Ystwyth

Allbynnau posibl

Canlyniadau posibl

  • Nifer y partneriaethau presennol a gynhaliwyd yn rhyngwladol neu yn y DU.
  • Nifer y partneriaethau newydd a sefydlwyd yn rhyngwladol neu yn y DU.
  • Nifer y rhwydweithiau ffurfiol newydd a grëwyd.
  • Faint o gyllid cystadleuol a ddyfarnwyd (£oedd)
  • Nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi a ganfuwyd.
  • Mwy o wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd ymysg cyfranogwyr o Gymru.
  • Nifer y cynhyrchion, y prosesau neu’r gwasanaethau newydd a fabwysiadwyd neu a grëwyd.

Allbynnau

Nifer yr ymgysylltiadau gyda phartneriaid rhyngwladol a neu yn y DU

Diffiniad

Mae ymgysylltiad yn cyfeirio at ryngweithio ag un neu fwy o bartneriaid rhyngwladol a/neu’r DU i gyfnewid gwybodaeth am sefydliadau eich gilydd, canfod nodau cyffredin, a phwyso a mesur y cyfleoedd a’r parodrwydd i gydweithio (gweler ‘nifer y trefniadau cydweithio newydd’ fel y dilyniant naturiol i weithgarwch o’r fath).

Y nod yw datblygu partneriaethau newydd neu gynnal / adeiladu ar yr ymgysylltiadau presennol sydd â’r potensial i arwain at weithgarwch economaidd mwy parhaol sy’n arwyddocaol i Gymru.

Gallai’r gweithgarwch gynnwys ymgysylltu drwy gyfarfodydd ffurfiol, cymryd rhan mewn rhwydweithiau a/neu gysylltu â phartneriaid allweddol mewn digwyddiadau/cynadleddau ffurfiol, wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.

Uned fesur

Ymgysylltu ar lefel y sefydliad. 

Yr uned fesur yw ‘ymgysylltiadau’ ac rydym yn cydnabod y gall rhai prosiectau gynnwys rhyngweithio lluosog rhwng yr un partneriaid (e.e. cyfres o gyfarfodydd neu weithdai); fodd bynnag, o ystyried maint a hyd prosiectau Cymru Ystwyth, bydd y casgliadau o ryngweithiadau yn ystod y prosiect yn cyfrif tuag at un ymgysylltiad â phob partner. 

Ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys dim ond un sefydliad Cymreig (y rhan fwyaf o brosiectau Cymru Ystwyth), yr oll a wneir wrth gyfrifo nifer yr ymgysylltiadau y mae prosiect wedi’u creu yw cyfrif nifer y partneriaid rhyngwladol a/neu yn y DU. 

Ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys mwy nag un sefydliad Cymreig, gellir cyfrif ymgysylltiad rhwng pob sefydliad Cymreig a phartner rhyngwladol/yn y DU yn y prosiect. Nifer yr ymgysylltiadau sy’n cael eu creu gan brosiect yw nifer y partneriaid rhyngwladol wedi’i luosi â nifer y sefydliadau Cymreig sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Enghreifftiau:

  1. Mae sefydliad Cymreig A yn ymgysylltu â Phartner Rhyngwladol 1, Partner Rhyngwladol 2 a Phartner yn y DU 3. 
    Nifer yr ymgysylltiadau = 3 (Un sefydliad Cymreig yn unig, felly mae nifer y partneriaid rhyngwladol/yn y DU yn 3)
  2. Mae sefydliad Cymreig A a sefydliad Cymreig B yn ymgysylltu â Phartner Rhyngwladol 1, Partner Rhyngwladol 2 a Phartner yn y DU 3.
    Nifer yr ymgysylltiadau = 6 (Dau sefydliad Cymreig a thri phartner rhyngwladol/y DU, felly 2*3 = 6)

Tystiolaeth a awgrymir

Mae ffurflen gais Cymru Ystwyth yn rhoi manylion partneriaeth(au) allweddol a hwylusir drwy weithgarwch y prosiect (Adran 1). Dylid cadarnhau bod yr ymgysylltiadau hyn ac ymgysylltiadau eraill wedi digwydd drwy hunan-ddatgan drwy gyfrwng y broses o gyflwyno adroddiad ar gyfer hawlio.

Data cysylltiedig

Rhaid i’r cysylltiadau gael eu rhannu rhwng partneriaid y DU a phartneriaid rhyngwladol.

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Nifer y partneriaethau newydd a sefydlwyd yn rhyngwladol neu yn y DU
  • Nifer y partneriaethau presennol a gynhaliwyd yn rhyngwladol neu yn y DU
  • Nifer y rhwydweithiau ffurfiol newydd a grëwyd

Nifer y rhwydweithiau ffurfiol yr ymunoch â nhw

Diffiniad

Mae hyn yn golygu ymuno â rhwydwaith ffurfiol neu grŵp diddordeb arbennig sy’n bodoli’n barod ac sy’n cael ei gydnabod, sef strwythur neu system sy’n dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd ar draws ffiniau i rannu gwybodaeth, rhannu adnoddau a meithrin gallu, i’ch galluogi i gydweithio i gael gafael ar gyllid a datblygu nodau cyffredin.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymuno â’r rhwydwaith iawn yn arwain at nifer o gyfleoedd, felly ceir cysylltiad anuniongyrchol â chanlyniadau cyllido a buddsoddi.

Mae hyn ar wahân i ymgysylltiadau ‘adeiladu fy rhwydwaith’ anffurfiol, a'r bwriad yw cofnodi eich aelodaeth o rwydweithiau ffurfiol (e.e. Vanguard ac ati). Tîm Cymru Ystwyth sy’n penderfynu’n derfynol a yw rhwydwaith yn ddilys ar gyfer yr allbwn hwn.

Uned fesur

Nifer y rhwydweithiau / grwpiau diddordeb arbennig yr ymunoch â nhw.

Tystiolaeth a awgrymir

Bydd manylion y rhwydweithiau y byddwch wedi ymuno â nhw yn cael eu nodi drwy ffurflen gais Cymru Ystwyth a’r broses o gyflwyno adroddiad ar gyfer hawlio.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y sector, y maes thematig drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Faint o gyllid cystadleuol a ddyfarnwyd (£oedd)
  • Nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi a ganfuwyd

Nifer y ceisiadau am gyllid cystadleuol

Diffiniad

Mae ceisiadau i bob ffynhonnell ariannu yn y DU ac yn rhyngwladol yn gymwys (ac eithrio Llywodraeth Cymru). Gall hefyd gynnwys ailgyflwyno ceisiadau am gyllid.

Gellid cysylltu hyn ag Agored Cymru yn ariannu’r gwaith o ddatblygu cynigion yn uniongyrchol, neu gallai ddeillio o weithgareddau eraill fel ymgysylltiadau a rhwydweithiau.

Er nad oes rhaid i geisiadau am gyllid o anghenraid fod yn gydweithredol, rhaid gallu dangos llif rhesymegol rhwng gweithgarwch/cydweithrediad Cymru Ystwyth a’r cais am gyllid.

Uned fesur

Nifer y ceisiadau a gyflwynwyd.

Tystiolaeth a awgrymir

Bydd gofyn cael tystiolaeth bod cais wedi’i gyflwyno, e.e. cadarnhad bod y corff ariannu wedi derbyn y cais/ceisiadau.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y sector, y maes thematig drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Faint o gyllid cystadleuol a ddyfarnwyd (£oedd)

Nifer y cyfranogwyr a hyfforddwyd

Diffiniad

Mae hyn yn ymwneud â hyfforddiant sydd wedi’i ariannu’n uniongyrchol drwy Cymru Ystwyth.

Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, hyfforddiant arbenigol ar ofynion daearyddol penodol, meysydd thematig neu lwybrau ariannu. Byddai disgwyl iddo gyfrannu at amcanion Cymru Ystwyth, gan gynyddu’r siawns o gael canlyniadau cadarnhaol mewn perthynas â chydweithredu economaidd trawsffiniol a rhyngwladol.

Uned fesur

Cyfranogwyr a hyfforddwyd.

Tystiolaeth a awgrymir

Hunan-ddatgan drwy’r broses o gyflwyno adroddiad ar gyfer hawlio yn cadarnhau nifer y cyfranogwyr a hyfforddwyd. Os oes cyllid sylweddol i'w ddyfarnu, efallai y bydd angen rhagor o dystiolaeth.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y sector, y maes thematig drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Mwy o wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd ymysg cyfranogwyr o Gymru.
  • Nifer y cynhyrchion, y prosesau neu’r gwasanaethau newydd a grëwyd

Nifer y trefniadau cydweithio newydd

Diffiniad

Gweithio gyda phartneriaid newydd/presennol yn y DU ac yn rhyngwladol (ac eithrio partneriaid Cymreig) i gyfuno adnoddau/arbenigedd/data ac ati er mwyn cydweithio ar brosiect newydd.

Uned fesur

Cydweithrediadau newydd.

Tystiolaeth a awgrymir

Ceir lefelau amrywiol o dystiolaeth yn dibynnu ar faint y cydweithio. Gallai’r dystiolaeth gynnwys:

  • Negeseuon e-bost yn disgrifio manylion y cydweithio, gan gynnwys rôl pob parti a’r nodau a’r amcanion a rennir. Byddai angen i hyn gynnwys cadarnhad bod y cydweithio wedi dechrau; neu
  • Gopi o gytundeb cydweithio ffurfiol / anffurfiol (e.e. Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth neu gontract) sy’n cadarnhau beth yw rôl pob parti yn y trefniadau cydweithio, y nodau a’r amcanion a rennir, a’r amserlenni.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y sector, y maes thematig drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Potensial i gyfrannu at ystod eang o ganlyniadau yn dibynnu ar natur y cydweithio.

Nifer yr astudiaethau dichonoldeb a gwblhawyd

Diffiniad

Bwriad yr allbwn hwn yw cofnodi Astudiaethau Dichonoldeb a gefnogir yn uniongyrchol drwy gyllid Cymru Ystwyth.

Tystiolaeth a awgrymir

Copi o’r adroddiad terfynol.

Uned fesur

Astudiaethau dichonoldeb wedi’u cwblhau.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi a ganfuwyd.
  • Mwy o wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd ymysg cyfranogwyr o Gymru.

Nifer y prosiectau peilot a gwblhawyd

Diffiniad

Bwriad yr allbwn hwn yw cofnodi prosiectau peilot sy’n cael eu cefnogi’n uniongyrchol drwy Cymru Ystwyth, fel prosiect sydd wedi’i gynllunio fel treial, a fwriedir i brofi dull penodol dros gyfnod cyfyngedig o amser, gyda’r bwriad o arwain at weithgarwch yn y maes/disgyblaeth neu’r sector i’r dyfodol.

Uned fesur

Nifer y prosiectau peilot a gwblhawyd.

Tystiolaeth a awgrymir

Adroddiad diwedd prosiect peilot yn manylu ar ganfyddiadau megis tystiolaeth llinell sylfaen a phrawf o gysyniad.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Canlyniadau posibl

  • Nifer y cynhyrchion, y prosesau neu’r gwasanaethau newydd a fabwysiadwyd neu a grëwyd.
  • Nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi a ganfuwyd

Canlyniadau

Nifer y partneriaethau presennol a gynhaliwyd yn rhyngwladol neu yn y DU

Diffiniad

Ymrwymiad parhaus/o’r newydd i weithio ar feysydd o ddiddordeb cyffredin mewn perthynas â chydweithredu economaidd.

Canlyniad uniongyrchol o’r gweithgarwch ymgysylltu gyda ‘nifer yr ymgysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol neu yn y DU’ ond gallai hefyd ddeillio o weithgareddau eraill y prosiect.

Uned fesur

Nifer y partneriaethau a gynhaliwyd.

Tystiolaeth a awgrymir

Negeseuon e-bost yn disgrifio manylion cynlluniau/bwriadau i gydweithio, gan gynnwys nodau ac amcanion a rennir.

Data cysylltiedig

Rhaid i’r partneriaethau gael eu rhannu rhwng partneriaid y DU a phartneriaid rhyngwladol. Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio

Nifer y partneriaethau newydd a sefydlwyd yn rhyngwladol neu yn y DU

Diffiniad

Ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid newydd Rhyngwladol a/neu yn y DU ar feysydd o ddiddordeb cyffredin mewn perthynas â chydweithredu economaidd.

Canlyniad uniongyrchol ‘nifer yr ymgysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol neu yn y DU’ ond gallai hefyd ddeillio o weithgareddau eraill y prosiect.

Uned fesur

Nifer y partneriaethau a sefydlwyd.

Tystiolaeth a awgrymir

Negeseuon e-bost yn disgrifio manylion cynlluniau/bwriadau i gydweithio, gan gynnwys nodau ac amcanion a rennir. 

Tystiolaeth ei fod yn bartneriaeth newydd drwy ffurflen gais Cymru Ystwyth a’r broses o gyflwyno adroddiad ar gyfer hawlio neu drwy hunan-ddatganiad.

Data cysylltiedig

Rhaid i’r partneriaethau gael eu rhannu rhwng partneriaid y DU a phartneriaid rhyngwladol.

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Nifer y rhwydweithiau ffurfiol newydd a grëwyd

Diffiniad

Yn gysylltiedig â ‘Nifer yr ymgysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol a phartneriaid yn y DU’ ond lle mae cyfnod parhaus o weithgarwch yn arwain at sefydlu rhwydwaith strwythuredig newydd drwy ei aelodaeth a’i nodau a’i amcanion cyffredin.

Byddai disgwyl iddo ychwanegu gwerth at rwydweithiau sydd eisoes yn bodoli.

Uned fesur

Nifer y rhwydweithiau ffurfiol.

Tystiolaeth a awgrymir

Cadarnhau y cytunwyd ar Gylch Gorchwyl ar gyfer y Rhwydwaith newydd.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Faint o gyllid cystadleuol a ddyfarnwyd (£oedd)

Diffiniad

Mae’r holl ffynonellau cyllid yn y DU ac yn rhyngwladol yn berthnasol (ac eithrio Llywodraeth Cymru) ond byddai angen cysylltiad rhesymegol â’r gweithgarwch a ariennir gan Cymru Ystwyth.

Uned fesur

Cyllid a ddyfarnwyd (£oedd).

Tystiolaeth a awgrymir

Copi o’r llythyr dyfarnu neu dystiolaeth o gyhoeddi’r grant yn ffurfiol, ar gyfer e.e. cyhoeddi ar wefan y cyllidwyr.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi a ganfuwyd

Diffiniad

Mae’r canlyniad hwn yn cyfrif nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi penodol a nodwyd, yn hytrach na faint o fewnfuddsoddiad a gafwyd, h.y. camau cynnar y broses fuddsoddi. Byddai angen cael cysylltiad rhesymegol â’r gweithgarwch sy’n cael ei ariannu gan Cymru Ystwyth.

Uned fesur

Nifer y cyfleoedd buddsoddi.

Tystiolaeth a awgrymir

Dynodi cyfleoedd mewnfuddsoddi penodol drwy’r broses hawlio neu’r broses hunan-ddatgan ddilynol. 

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.

Mwy o wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd ymysg cyfranogwyr o Gymru

Diffiniad

Byddai’r canlyniad hwn yn deillio’n naturiol o allbynnau fel gweithgarwch hyfforddi (a fydd yn cynyddu gwybodaeth cyfranogwyr) ond gallai hefyd fod o ganlyniad i amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu eraill, astudiaethau dichonoldeb, neu brosiectau peilot (a fydd yn berthnasol ar lefel sefydliadol).

Uned fesur

Nifer y cyfranogwyr Cymreig.

Nifer y sefydliadau.

Tystiolaeth a awgrymir

Hunan-ddatganiad drwy ffurflen gais Cymru Ystwyth a’r broses o gyflwyno adroddiad ar gyfer hawlio.

Data cysylltiedig

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio. 

Nifer y cynhyrchion, y prosesau neu’r gwasanaethau newydd a fabwysiadwyd neu a grëwyd

Diffiniad

Cynhyrchion, prosesau, gwasanaethau newydd sy’n cael eu mabwysiadu neu eu creu o ganlyniad i weithgarwch Cymru Ystwyth. Byddai’n llifo yn naturiol o weithgarwch fel prosiectau peilot, neu hyfforddiant, hefyd gydweithrediadau ac ymgysylltu hirdymor lle gallai dull/technoleg/techneg newydd fod wedi esblygu. Gall ‘newydd’ fod yn newydd i’r sefydliad perthnasol, e.e. mabwysiadu proses arfer gorau, neu fod wedi’i chreu o'r newydd gan y sefydliad perthnasol.

Uned fesur

Cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd.

Tystiolaeth a awgrymir

Hunan-ddatganiad sy’n rhoi manylion y cynnyrch/proses/gwasanaeth newydd y mae'r sefydliad perthnasol wedi’i fabwysiadu neu ei greu a sut mae wedi deillio o’r gweithgarwch sy’n cael ei ariannu gan Cymru Ystwyth. Lle bo’n briodol, dylai hyn gynnwys dolenni i wybodaeth gyhoeddus am y cynnyrch/proses/gwasanaeth newydd.

Data cysylltiedig

Rhaid ei rannu rhwng y nifer a fabwysiadwyd a’r nifer a grëwyd.

Lle bo’n briodol, rhaid cofnodi’r rhanbarth targed, y maes thematig, y sector drwy’r broses ymgeisio a’u cadarnhau yn naratif y broses hawlio.