Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ysgrifennais at yr Aelodau ym mis Mehefin 2023 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymrwymiad i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn unol â'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Dechreuodd Cam 2 y broses o ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar ym mis Ebrill 2023. Yn ystod y cam hwn (2023-24 a 2024-25) rydym yn buddsoddi £46m i ymestyn gofal Plant Dechrau'n Deg ac yn disgwyl cefnogi mwy na 9,500 yn ychwanegol o blant dwyflwydd oed ledled Cymru i gael gofal Plant Dechrau'n Deg o ansawdd.
Mae'n bleser gennyf ddweud wrth yr Aelodau, fod data rhagarweiniol gan awdurdodau lleol yn dangos ein bod wedi cyflawni ein targed o gynnig 4,500 o leoedd gofal plant ychwanegol wrth ehangu gofal Plant Dechrau'n Deg yn ystod 2023-24. Mwy na 700 o leoedd gofal plant wedi cael eu cymryd mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhain yn llwyddiannau sylweddol sy'n dangos ein hymrwymiad i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Mae gofal Plant Dechrau'n Deg yn wasanaeth hanfodol sy'n helpu plant i ddysgu, i dyfu ac i ffynnu. Trwy ehangu Cam 2 y ddarpariaeth gofal Plant Dechrau'n Deg, byddwn yn parhau i gyrraedd mwy o deuluoedd a all elwa o'r cynnig hwn a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.
Hoffwn, ar y cyd â Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ddiolch i gydweithwyr ar draws y sector gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG a darparwyr gofal plant am eu holl waith caled i ymestyn gofal Plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a phartneriaid eraill i sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gofal Plant Dechrau'n Deg.
Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am unrhyw gynnydd pellach.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.