Adolygiad o ariannu gwaith ieuenctid: astudiaeth ddichonoldeb
Grynodeb gweithredol cam cychwynnol yr adolygiad o ariannu gwaith ieuenctid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Paratowyd yr adroddiad hwn yn annibynnol gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Barn yr ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid o safbwyntiau Llywodraeth Cymru.
Crynodeb gweithredol
Cefndir
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ddichonoldeb o adolygiad o gyllid gwaith ieuenctid yng Nghymru a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, y Gangen Ymgysylltu Ieuenctid (WGYEB). Rhwng 2018 i 2021 cafodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim (BGII) y cyfrifoldeb o ddatblygu argymhellion ar gyfer model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Eu hadroddiad terfynol 'Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru’ oedd y symbyliad ar gyfer yr ymchwil hwn.
Dywed y pedwerydd o 14 argymhelliad y Bwrdd y:
“Dylai Llywodraeth Cymru […] gynnal adolygiad annibynnol i ddigonolrwydd, tryloywder, atebolrwydd ac effeithiolrwydd cyllid a gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol, er mwyn asesu sut y darparwyd deilliannau ac effaith ar gyfer pobl ifanc” (Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim, 2021).
Nod yr astudiaeth hon yw cynnal adolygiad o ariannu gwaith ieuenctid ar draws Cymru gyda’r sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol a chynaledig i gyfrannu at ddatblygu model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, fydd yn cynnwys:
- gwerthusiad (ansoddol a meintiol) o sut mae trefniadau ariannu presennol yn effeithio ar wasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru a sut mae unrhyw amrywiadau yn effeithio ar hygyrchedd a hawliau
- dadansoddiad cost a budd (DCB) i sefydlu effaith ac effeithiolrwydd economaidd ariannu gwaith ieuenctid
Mae pedwar amcan allweddol ar gyfer yr adolygiad cyllido sy’n cynnwys cynnal tri cham ymchwil. Mae’r amcanion ar gyfer yr ymchwil fel a ganlyn:
Cam 1
Darparu fframwaith ar gyfer cynnal yr ymchwil yng Nghymru oedd yn cynnwys:
- sefydlu grŵp llywio
- cynnal asesiad cyflym o dystiolaeth (ACD) o’r llenyddiaeth/ymchwil empiraidd sydd ar gael ar arfer cyfredol perthnasol o ran dadansoddi cyllido a modelau ar gyfer mesur gwerth am arian yn y DG, a Gweriniaeth Iwerddon ac ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru
- astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu pa ddata sydd ar gael ac i ba raddau y gall gyflawni gofynion yr ymchwil a fwriedir ar gyfer camau 2 a 3
Cam 2
Adolygu’r ffynonellau cyllido sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru ar gyfer y sector gwirfoddol a chynaledig a sut mae’r ffynonellau cyllido hyn yn cael eu dyrannu ar draws ardaloedd y 22 awdurdod lleol, yn benodol i:
- ystyried o ble mae’r cyllid yn dod, sut y ceir gafael arno ac ar beth gaiff yr arian ei wario
- adnabod rhwystrau a heriau wrth geisio cael gafael ar arian, yn enwedig felly ond heb fod yn gyfyngedig i’r sector gwirfoddol
- sefydlu sut ddefnyddir yr arian ar gyfer gwaith ieuenctid ar draws y sector gwirfoddol a chynaledig a sut mae amrywiadau yn y ffordd y defnyddir yr arian hwn ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yn effeithio ar waith ieuenctid
- adnabod pwy sy’n gwneud y penderfyniadau ar y cyllid a ddyrennir
- adnabod i ba raddau y mae gan bobl ifanc lais yn y drefn gyllido
- deall y trefniadau atebolrwydd, llywodraethiant, ac atebolrwydd a’r prosesau adrodd ar gyfer gwaith ieuenctid
- archwilio trefniadau comisiynu/partneriaeth rhwng sectorau gwirfoddol a chynaledig a sut mae hyn yn cael ei drefnu, ei gynllunio a’i fonitro
- creu fframwaith ar gyfer casglu data ynghylch effaith a manteision gwaith ieuenctid er mwyn gallu cynnal dadansoddiad cost a budd yng ngham 3
Cam 3
Darparu tystiolaeth am argraff ac effeithiolrwydd economaidd cyllid yn y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol a chynaledig trwy ddadansoddiad cost a budd, gan amlygu tystiolaeth o arfer da.
Pwrpas yr astudiaeth ddichonoldeb hon oedd cynnal cwmpasiad cychwynnol o’r data oedd ar gael ac ac i ba raddau y gallai gyflawni gofynion yr ymchwil a fwriedir ar gyfer camau 2 a 3 yn unol ag argymhelliad y BGII. Felly, mae’r astudiaeth ddichonoldeb hon wedi edrych a ellir mynd i’r afael â nodau arfaethedig yr adolygiad trwy gasglu data ar draws ardaloedd pedwar awdurdod lleol yn y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol a chynaledig.
Cynhaliwyd Asesiad Tystiolaeth Cyflym o’r data a gyhoeddwyd ar werth economaidd gwaith ieuenctid er mwyn bwydo’r ymchwil hwn. Adolygwyd tystiolaeth ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon a Chyngor/Comisiwn Ewrop ac adroddiadau perthnasol ar Gymru’n benodol. Roedd yr astudiaethau yn edrych ar gyfraniad gwaith ieuenctid ar draws polisi cyhoeddus. Mae agweddau o bob un o’r astudiaethau hyn all helpu cyfrannu at a llywio’r ffordd y cynhelir yr astudiaeth hon.
Fodd bynnag,nid yw’r un o’r astudiaethau hyn yn cynnig templed y gellid ei atgynhyrchu at ddibenion y prosiect hwn. Nid yw’r astudiaethau a adolygwyd yn ystyried materion cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau a modelau cyllido presennol gwaith ieuenctid, na sut ellid eu gwella, ond mae’r astudiaeth hon yn ceisio mynd i’r afael â threfniadau cyllido cymhleth ac amrywiol sy’n cynnal gwasanaethau gwaith ieuenctid ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae’r lled a dyfnder a fwriedir i’r astudiaeth hon, a’r awydd i deilwra gwasanaethau i ddiwallu gofynion amgylchiadau arbennig gwaith ieuenctid yng Nghymru, yn cael ei arwain gan amrywiaeth pobl ifanc yng Nghymru, eu hanghenion, a chan gynnwys eu hamrywiaeth ieithyddol.
Mae’r ymchwil hwn yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith y datganolwyd gwaith ieuenctid, ac o’r herwydd mae’r ymchwil a’r canfyddiadau yn adlewyrchu’r cyd-destun cenedlaethol. Mae’r ffordd yr ydym yn mynd ati i gynnal yr ymchwil hwn yn ‘ffordd Gymreig’ bendant iawn: dynesiad sydd, yn y lle cyntaf, yn ceisio deall y trefniadau cyllido presennol ar gyfer gwaith ieuenctid. Wrth wneud hynny, bydd yn ceisio dod o hyd i strwythur gyllido a fyddai’n caniatáu i wasanaethau ieuenctid fynd ati mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bobl ifanc yn unol ag egwyddorion a gwerthoedd craidd gwaith ieuenctid.
Mae’r barnau a fynegir yn yr adroddiad hwn yn rhai’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.
Methodoleg
Defnyddiwyd nifer o ddulliau gwahanol i fynd i’r afael â nodau’r astudiaeth ddichonoldeb oedd yn cynnwys: holiadur; dadansoddiad meintiol o ddata eilaidd o ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, Cyhoeddiad ystadegol – data archwiliad blynyddol awdurdodau lleol’, cyllid Grant Cefnogi Ieuenctid (YSG), a Grantiau Statudol i Fudiadau Gwaith Ieuenctid (SVYWO); a chyfweliadau/grwpiau ffocws ansoddol.
Cynhaliwyd yr astudiaeth ddichonoldeb mewn pedair ardal awdurdod lleol (Wrecsam, Powys, Abertawe, Casnewydd) ac mewn sampl o fudiadau sector gwirfoddol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys darpariaeth awdurdodau lleol a mudiadau gwaith ieuenctid sector gwirfoddol, gan gynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru, sef y corff cynrychioliadol annibynnol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda swyddog Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).
Dosbarthwyd holiadur yr arolwg i gyfanswm o 24 mudiad (cyfradd ymateb o 33.3 y cant). Derbyniwyd wyth ymateb.
Defnyddiwyd dulliau dadansoddi data disgrifiadol ac achosol ar y cyhoeddiad
ystadegol – data archwilio blynyddol awdurdodau lleol rhwng 2010 i 2021, a defnyddir dull adolygiad disgrifiadol ar gyfer dadansoddi manylion y Grantiau Strategol i Fudiadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol.
Cynhaliwyd cyfanswm o 31 o gyfweliadau/grwpiau ffocws. Mae Ffigur 1 yn cyflwyno manylion y gynrychiolaeth o’r sectorau gwirfoddol a chynaledig yn y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws.
Nifer a gynhaliwyd | Cyfranogwyr o’r sector gwirfoddol | Cyfranogwyr o’r sector cynaledig | |
---|---|---|---|
Cyfweliadau | 22 | 10 | 10 |
Grwpiau ffocws | 8 | 6 | 14 |
Prif ganfyddiadau
Mae’r canfyddiadau y ceir crynodeb ohonynt yma yn ddangosol, gan gydnabod cwmpas cyfyngedig yr astudiaeth ddichonoldeb, a chânt eu cadarnhau a’u triongli ymhellach yng nghamau dilynol yr ymchwil a gynhelir ar draws Cymru gyfan.
Canfyddiadau meintiol
Mae’r prif bwyntiau a ganfuwyd o’n sampl fel a ganlyn:
- am bob £1 o doriad yng nghyllid gwaith ieuenctid, cafwyd toriad o £1.33 yn y gwariant. Wrth i incwm leihau, mae gwariant sefydliadol yn lleihau fwy fyth.
- syrthiodd cyllid craidd (cyfanswm y cymorth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid) rhwng 2010 a 2021 gan 8.77 y cant.
- fel y dywedwyd yn y cyhoeddiad ystadegol blynyddol, mae’r gwasanaethau ieuenctid cynaledig wedi dweud fod yr ‘heddlu’ a chyrff ‘camddefnyddio sylweddau’ wedi darparu 66.6 y cant o gyfanswm cyllid ffynonellau eraill ar gyfer tri o’r pedwar awdurdod lleol a adolygwyd yn yr astudiaeth hon rhwng 2019 a 2021 (mae’r cyhoeddiad ystadegol blynyddol yn dangos mai ffynonellau ‘eraill’ yw ffynonellau lleol y tu allan i’r awdurdod lleol).
- mae gan un awdurdod lleol amrywiadau mawr yn ei wariant, all awgrymu newid strwythurol yn y ffordd y maent yn prosesu eu gwariant, neu fod ffactorau eraill yn effeithio ar eu gwariant.
- syrthiodd nifer y staff llawn-amser rhwng 2010 a 2016, ond cafwyd symudiad tuag at lai o staff rhan-amser a mwy o staff llawn-amser o 2017 ymlaen.
- mae 43 y cant o’r ymatebwyr i’r arolwg yn credu fod y cyllido yn ansefydlog ac anragweladwy ar hyn o bryd.
- syrthiodd costau hyfforddiant a datblygiad 17.4 y cant rhwng 2010 a 2018 a chynyddodd 8.1 y cant rhwng 2019 a 2021.
- mae 88 y cant o’r mudiadau gwaith ieuenctid a arolygwyd yn cynnig rhyw gymaint o wasanaethau dwyieithog.
Canfyddiadau ansoddol
Mae’r canfyddiadau o’r data ansoddol yn amlygu nifer o faterion allweddol cymhleth a rhyng-gysylltiol a gafodd eu hadnabod yn ymchwil y cam dichonoldeb. Ceir crynodeb ohonynt fel a ganlyn:
- Defnyddir sawl ffynhonnell o gyllid allanol, er enghraifft, o ffynonellau elusennol, llywodraeth leol a grantiau Llywodraeth Cymru i gyllido gwaith ieuenctid.
- Mae cysyniad cyllid craidd yn bwysig yn y sectorau gwirfoddol a chynaledig. Roedd yr holl gyfweliadau gyda’r sector gwirfoddol yn cyfeirio at ba mor anodd oedd sicrhau sefyllfa gynaliadwy. Mae hyn yn awgrymu diffyg cyllid craidd penodol o fewn y system gyllido bresennol.
- Mae’n amlwg fod amrywiaeth barn ymhlith ymatebwyr ynghylch a ddylai elfen gwaith ieuenctid y Grant Cynnal Refeniw (RSG), grant heb ei neilltuo a ddarperir i awdurdodau lleol i’w wario yn ôl eu blaenoriaethau eu hunain, gael ei neilltuo. Mae hwn yn faes cymhleth sy’ncodi cwestiynau ynghylch rheolaeth leol ar adnoddau ac adnabod anghenion.
- Cafodd llymder ariannol effaith sylweddol ar faint o arian sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid yn y sectorau gwirfoddol a chynaledig.
- Mae diffyg cyllid hirdymor cynaliadwy a chyson (dros ddwy flynedd) yn her.
- Mae rhai mudiadau gwirfoddol cenedlaethol sy’n gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol yn gorfod cynnig am ac adrodd ar y cyllid a dderbyniant trwy ddyraniadau Grant Cefnogi Ieuenctid i bob un o’r awdurdodau lleol yn unigol.
- Mae mudiadau gwirfoddol cenedlaethol yn dweud eu bod yn derbyn grantiau bloc ailadroddol gan gyrff cenedlaethol gan gynnwys Chwaraeon Cymru mewn cylch pedair blynedd sy’n cael ei ystyried yn rhagweladwy a dibynadwy, yn groes i rai cynlluniau grantiau eraill sy’n defnyddio cylchoedd byrrach. Hefyd, mae’r cysylltiadau uniongyrchol gyda chyrff cenedlaethol o’r math yma yn cael eu gweld yn ffyrdd effeithiol o weithio.
- Pwysleisiodd cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol a gyfwelwyd fel rhan o’r cam hwn bwysigrwydd adeiladu cyweithfeydd gyda mudiadau megis CWVYS yn ogystal â gydag awdurdodau lleol.
- Byddai cynllunio strategol mwy hirdymor rhwng y sector gwirfoddol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn fuddiol, o ran gwneud grantiau ar gael, fel bod mudiadau yn cael rhybudd ymlaen llaw ac yn barod ar gyfer cyfleoedd cyllido.
Casgliadau
Nod yr ymarferiad dichonoldeb hwn oedd cynnal archwiliad cychwynnol o ba ddata sydd ar gael ac i ba raddau y gall ddiwallu gofynion yr ymchwil arfaethedig ar gyfer camau 2 a 3. Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn dangos y bu modd casglu ystod o dystiolaeth trwy ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol o gasglu data. Mae hyn yn awgrymu’n gryf felly fod digon o dystiolaeth ar gael i ddiwallu gofynion cwmpas llawn yr ymchwil arfaethedig wrth inni symud ymlaen.
Cryfder y ffordd hon o weithio oedd defnyddio technegau ansoddol a meintiol i sefydlu sut mae’r cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yn cael ei ddefnyddio ar draws y sectorau gwirfoddol a statudol a sut mae hyn yn amrywio rhwng ac ar draws y ddau sector. Mae’r ymchwil hwn wedi dechrau amlygu tystiolaeth o effeithiolrwydd economaidd gwaith ieuenctid i helpu llywio camau dilynol y prosiect—gan gydnabod yr angen i deilwra’r ffordd o weithio i amgylchiadau gwaith ieuenctid yng Nghymru fel yr amlygwyd yn yr Asesiad Tystiolaeth Cyflym, a thrwy ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Argymhellion
Cyngir tri argymhelliad, sy’n adlewyrchu nod yr astudiaeth ddichonoldeb. Bydd yr argymhellion hyn yn dylanwadu ar gamau dilynol yr ymchwil a rhagwelir y bydd rhagor o argymhellion yn dilyn.
Argymhelliad 1
Creda’r tîm ymchwil ei bod yn amlwg o’r ymchwil a gynhaliwyd fod digon o ddata ar gael i fynd i’r afael â gofynion camau nesaf yr ymchwil. Rydym felly’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gytuno y gellir parhau â chamau 2 a 3 yr ymchwil.
Argymhelliad 2
Parhau i gasglu data fel yr amlinellwyd yn y camau ymchwil a gytunwyd gyda mudiadau sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn gallu cadarnhau a thriongli’r dystiolaeth ddangosol a gasglwyd yn yr astudiaeth ddichonoldeb hon. Bydd hyn yn cynnwys rhagor o waith ar ganfyddiadau o gam 1 ac unrhyw ganfyddiadau newydd all ymddangos ar draws Cymru.
Argymhelliad 3
Dylai’r tîm ymchwil weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a grŵp llywio’r ymchwil i gytuno ar ragor o ddulliau casglu data a strategaeth samplo priodol ar gyfer camau dilynol yr ymchwil.
Hoffem gydnabod cefnogaeth ac anogaeth y mudiadau a’r unigolion a gymerodd ran yn yr ymchwil hwn a chynnig gair o ddiolch iddynt. Rydym wedi ymgysylltu â’r sector ar adeg brysur ond er hynny casglwyd data pwysig a pherthnasol o gyfweliadau a grwpiau ffocws, trwy ein harolwg, a data o’r llenyddiaeth, rydym yn hyderus fod gennym ystod gyfoethog o dystiolaeth sy’n cyfrannu at yr argymhellion amlinellwn uchod.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ymchwil:
Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru
Cangen Ymgysylltu Ieuenctid
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: youthwork@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.