Araith gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
“Innovation comes from creating environments where ideas can connect.”
Diolch o galon am y croeso cynnes. Mae’n braf cael cyfle i ymuno â thrafodaeth bwysig fel hon.
Dyna eiriau’r awdur Steven Johnson, a dwi’n mawr obeithio y bydd heddiw yn gyfle i hynny ddigwydd. Diolch i Brifysgol Caerdydd am fod mor barod i gydweithio gyda ni i drefnu’r diwrnod.
Yma i drafod arfer da ac arloesi mewn polisi iaith ydyn ni, a hoffwn i ddweud ar ddechrau’r sesiwn cymaint o fraint—a pha mor ddiddorol—mae wedi bod i fod yn Weinidog dros ein hiaith ni ers bron i dair blynedd. Bydd y brwdfrydedd, yr emosiwn a’r angerdd dwi wedi eu gweld yn y maes yn aros gyda fi am byth.
Ac o ran iaith, angerdd—ac emosiwn hyd yn oed—dwi’n dweud yn aml bod y Gymraeg yn fwy na jyst rhywbeth dwi’n ei siarad—mae’n rhywbeth dwi’n ei deimlo. A dwi’n credu bod mwy a mwy o bobl Cymru yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. A nod diwrnodau fel heddiw yw trafod dulliau o droi teimladau fel’na mewn i realiti.
Mae gyda ni yn Llywodraeth Cymru weledigaeth glir ar gyfer ein hiaith ni, a chynlluniau arloesol i droi’r weledigaeth yna yn realiti. Ond er hynny, mae’n bwysig pwysleisio un peth: o gychwyn cyntaf fy nhymor fel Gweinidog, dwi ‘di dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru na fi fy hun—na neb arall a dweud y gwir—fonopoli ar syniadau da. Felly dwi’n edrych ymlaen yn arbennig at glywed am syniadau a gwersi gan bawb sy’ma:
- Beth ry’n ni’n ei wneud yn dda yma yng Nghymru a lle gallwn ni wella?
- Beth ych chi eich hun wedi’i ddysgu gan wledydd eraill?
- Beth fyddai’ch cynghorion chi—bobl sy wedi teithio i Gymru ar gyfer y gynhadledd—ar gyfer datblygu polisi iaith ymhellach yng Nghymru?
Ac o ran teithio, mae llawer ohonoch chi wedi teithio’n bell i gyrraedd yma: o fewn Cymru, Iwerddon, yr Alban, Catalwnia, Gwlad y Basg a hyd yn oed o Canada. A jyst y siaradwyr yw hwnna! Felly croeso cynnes i chi gyd.
Ac nid teithio i gynhadledd arferol ydyn ni heddi. Arloesi, ie, arfer da, wrth gwrs, gweld hen ffrindiau a chydweithwyr a gwneud ffrindiau newydd efallai. Ond diolch yw thema’r dydd hefyd—diolch i un unigolyn am gyfraniad sylweddol. Colin, mae ehangder eich gwaith ymchwil a’ch cyhoeddiadau chi’n rhyfeddol: daearyddiaeth, crefydd, democratiaeth—a pholisi iaith wrth reswm. Rydych chi wedi dylanwadu ar gymunedau ieithyddol ledled y byd; wedi bod yn barod i’n helpu ni yn y Llywodraeth—ac i’n herio ni’n adeiladol; buoch chi’n aelod gweithgar o Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynt. Rydych chi di dysgu, dylanwadu, mentora a meithrin cenedlaethau o fyfyrwyr. A dwi’n gwybod bod sawl un o’ch cyn-fyfyrwyr yma heddi. Braf gwybod bod cydweithwyr o Lywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a’r Bwrdd hefyd yma heddiw i’ch anrhydeddu chi. Ar ran pawb sy’ma, diolch am eich cyfraniad chi a’ch arweiniad doeth chi.
Mae’ch ymchwil a’ch gyrfa chi wedi eu gwerthfawrogi nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd yn rhyngwladol, ac at yr agwedd ryngwladol hwnnw ar bethau dwi eisiau troi fy sylw i nawr. Ydy, mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond cofiwch chi: dydy Cymru ddim wedi troi’i chefn ar Ewrop nac ar weddill y byd ychwaith. Ry’n ni’n wlad sy’n edrych allan am bartneriaethau rhyngwladol, ry’n ni’n rhyng-ddibynnol ac ry’n ni i gyd yma yn rhan o rwydweithiau a chymunedau sy’n ein gweu ni i gyd at ein gilydd. Mae’r gynhadledd heddiw, ein haelodaeth ni o’r NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity) yn brawf o hynny. Ac ro’n i’n falch iawn o gymryd rhan yn yr ICML (International Conference on Minority Languages) Mehefin diwetha’ oedd yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain.
Bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gwybod ein bo ni wedi cyhoeddi Cymraeg 2050, strategaeth uchelgeisiol ar gyfer ein hiaith ni saith mlynedd nôl, ag iddi ddau brif nod: miliwn o siaradwyr, a dyblu’r nifer ohonon ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd erbyn 2050. Teitl un o bapurau polisi iaith Colin yw Wake me up in 2050! ac rwy’n eich sicrhau chi e’n bod ni’n effro i’r posibiliadau a’r heriau hefyd o’r lefel honno o uchelgais.
O ran hynny, byddwch chi wedi clywed efallai bod dirywiad wedi bod yn niferoedd siaradwyr y Gymraeg yn ôl y cyfrifiad diwethaf, lleihad o ryw 24,000 i 538,000. Ry’n ni ar siwrne ieithyddol hirdymor, ac fel pob siwrne hir mae disgwyl ambell i bymp ar hyd y ffordd. A dyna lle mae’n rhaid i mi fod yn onest iawn: roedd canlyniadau’r cyfrifiad wrth gwrs yn siomedig; nid dyna beth roedden ni eisiau ei weld. Ond mae rhai arolygon eraill yn awgrymu bod nifer y siaradwyr mor uchel â 900,000 felly ry’n ni’n neud gwaith er mwyn deall pam mae'r gwahaniaeth hwnnw yn ymddangos rhwng arolygon ystadegol sy’n mynd i’r afael â’r Gymraeg.
A’r hyn oedd yn codi calon yn ystod y siom oedd bod pawb yn rhannu’r siom honno gyda fi, a bod pawb eisiau i’r Gymraeg ffynnu—efallai achos bod mwy a mwy ohonon ni’n teimlo bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, waeth faint o’r iaith ry’n ni’n ei siarad ein hunain.
Felly rhaid wrth optimistiaeth; rhaid aros yn y gêm am y tymor hir. Peth parhaus yw gweithredu polisi iaith. Ac o ran y tymor hir, o ran y dyfodol, yr hyn rwy’n ei weld yw agweddau positif tuag at ein hiaith, mwy o bobl yn ei dysgu hi, mwy o falchder ynddi hi a’i bod hi’n fwy canolog i ddiwylliant a hunaniaeth ein gwlad ni nag yr oedd hi—yn sicr nag yr oedd pan oeddwn i’n blentyn.
Mae hyn oll yn werthfawr. Ac rwy’n ei groesawu fe. A dwi isie mwy ohono fe.
Ac mae eisiau pethau gwahanol hefyd. Mae angen arloesi.
Ac arloesi ydyn ni ym maes addysg, drwy’r Papur Gwyn ‘wnaethon ni gyhoeddi y llynedd ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Dwi ddim yn credu ein bod ni’n creu digon o siaradwyr Cymraeg at y dyfodol drwy’r system addysg ar hyn o bryd dyna’r gwir amdani. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd yng Nghymru lle bynnag ry’n ni ar y continwwm ieithyddol. Mae pob disgybl yng Nghymru felly yn haeddu dod yn siaradwr Cymraeg, ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni sy’n gweithio yn y system addysg i weithio tuag at y nod hwnnw.
Mae’n cynigion ni’n adlewyrchu’r nod ac uchelgais yma ar gyfer ein system addysg yng Nghymru. Bydd gwireddu hyn yn golygu cynyddu’r nifer o ysgolion cyfrwng cymraeg, ond hefyd, cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sydd ddim eisoes yn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig. Yn sylfaenol, ry’n ni am i bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol yng Nghymru.
O ran fy ngwleidyddiaeth i, Llafurwr ydw i wrth gwrs. A dwi hefyd yn aelod o’r Blaid Gydweithredol. Ac ry’n ni yn y Llywodraeth hefyd wrthi’n creu mwy o sefydliadau cydweithredol i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofodau uniaith os mynnwch chi. A rhaid wrth y rheini mewn cymdeithas ddwyieithog fel Cymru, a llawer o’r ieithoedd eraill sy’ma heddiw. Ond beth mae hyn yn ei feddwl yn ymarferol? Wel, arian! Ond arian i helpu pobl i helpu eu hunain os hoffech chi. Eu grymuso nhw i brynu a throsi tafarnau lleol er enghraifft, hen gapeli sy wedi cau, a’u troi’n nhw’n llefydd i bobl ddod at ei gilydd yn Gymraeg.
Pobl, yn dod at ei gilydd—yn Gymraeg.
Peth pobl yw iaith. Mae’n ffenomen gymdeithasol, nid jyst ieithyddol. Felly ymhob peth ry’n ni’n ei wneud i wireddu’n huchelgais ar gyfer yr iaith, realiti pob dydd ein siaradwyr, ein dysgwyr, pobl Cymru fydd yn ein harwain ni. Ac arloesi a chyfnewid arfer da yn ganolog i’r realiti honno wrth reswm.
Felly i gyfeirio at waith Colin am y tro olaf heddiw oddi wrtho i o leiaf, wrth i fi ddeffro yn 2050, dwi eisiau edrych nôl ar gyfnod o arloesi, o fod yn ddewr, o gymryd ambell risg ac o ddysgu oddi wrth ein gilydd. Ac mae rôl gan bawb sy’ma heddiw yn hynny o beth. Diolch yn fawr iawn i chi.