Rhaglen Dechrau'n Deg
Mae rhaglen Dechrau'n Deg yn rhan o broses raddol i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru.
Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed mewn rhannau difreintiedig o Gymru.
Mae’r cymorth yn cynnwys:
- gofal plant rhan-amser i blant 2 i 3 oed
- gwell gwasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd
- rhaglenni magu plant
- cymorth i blant i ddysgu siarad a chyfathrebu
Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gael gwybod a ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg a pha gymorth a allai fod ar gael.
Pwy sy’n gymwys
Yn aml, caiff y meini prawf cymhwysedd ar gyfer pedair elfen graidd rhaglen Dechrau'n Deg eu rhannu â rhieni cyn geni eu plentyn. Mae Ymwelwyr Iechyd a thimau Dechrau'n Deg lleol hefyd yn cysylltu â theuluoedd i roi gwybod iddynt.
Mae dull gwahanol gan bob awdurdod lleol o gyfathrebu ynghylch ehangu gofal plant Dechrau'n Deg, felly cysylltwch â'ch awdurdod chi a fydd yn gallu helpu.
Bydd angen i deuluoedd sy'n dod yn gymwys ar gyfer elfen gofal plant Dechrau'n Deg yn ystod yr ehangu ddilyn proses gofrestru eu hawdurdod lleol.
Gallwch ddod o hyd yma i fanylion cyswllt tîm eich awdurdod lleol chi er mwyn gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg a gofal plant Dechrau'n Deg: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Dylai teuluoedd fanteisio ar wasanaeth Dechrau'n Deg
Mae darparu gofal plant rhan-amser o ansawdd ar gyfer plant 2-3 oed yn rhan annatod o raglen Dechrau'n Deg. Mae gofal plant o ansawdd yn cyfrannu at feithrin sgiliau a galluoedd, y gallu i gymdeithasu ac i chwarae a chanolbwyntio. Mae'r rhain yn hanfodol, nid yn unig i allu plentyn i ddysgu yn nes ymlaen, ond hefyd i gymryd rhan yn effeithiol mewn grwpiau.
Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu bod Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd yn arwain at welliannau yn natblygiad plant mewn blynyddoedd diweddarach, megis sgiliau iaith gwell; gwell perfformiad addysgol mewn mathemateg a darllen; a gwell ymddygiad/deilliannau. Mae plant sy'n mynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar o ansawdd yn fwy annibynnol, yn canolbwyntio ar chwarae am gyfnodau hirach ac, wrth ddechrau yn yr ysgol, yn fwy parod i gydweithredu ac wedi'u paratoi'n well ar gyfer yr heriau sydd o’u blaen.
Bydd y rhai sy'n gymwys yn derbyn 12.5 awr o ofal plant o ansawdd am ddim bob wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Mae gweithlu gofal plant Dechrau'n Deg yn gymwys i gefnogi datblygiad plant ac ategu'r fagwraeth a ddarperir yn draddodiadol gan rieni/gofalwyr.
Bydd rhieni/gofalwyr hefyd yn gallu manteisio ar becynnau cymorth i wella eu sgiliau magu wrth gefnogi datblygiad a lles eu plentyn, ac wrth ofalu amdano.
Pam mai dwy awr a hanner y dydd yw hyd sesiynau gofal plant Dechrau'n Deg
2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos yw cynnig gofal plant Dechrau'n Deg oherwydd mae'r dystiolaeth yn dangos mai sesiynau byrrach, amlach o ansawdd uwch sy'n arwain at y canlyniadau gorau i'r plentyn, a rhoddir cryn bwyslais ar sicrhau bod trefniadau pontio cadarn ar waith i gefnogi plant rhwng y cartref a'r lleoliad gofal, ac wrth i'r plentyn symud ymlaen i addysg gynnar.
Mae gan dimau Dechrau'n Deg awdurdodau lleol rywfaint o hyblygrwydd o ran sut mae'r 5 sesiwn yn cael eu defnyddio yn ystod yr wythnos, gan ystyried budd gorau'r plentyn. Gallai hyn gynnwys pan fydd rhiant/gofalwr yn gofyn am drefniant gwahanol oherwydd eu bod yn mynd i gwrs hyfforddi neu'n mynd i'r gwaith.
Gall rhieni ychwanegu at yr oriau hyn os oes angen gofal plant ychwanegol arnynt.
Gall darparu gofal am ddim i blant dwy oed hefyd alluogi rhieni i weithio neu gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi ac addysg na fyddai efallai wedi bod yn bosibl fel arall.
Sut gall eich plentyn elwa ar fynychu lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg
Mae nifer o fanteision i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys pan nad hon yw iaith gyntaf eich cartref.
Mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, mae plant yn gallu elwa ar y manteision ychwanegol sy'n deillio’n aml o fod yn ddwyieithog, megis mwy o allu i ganolbwyntio, gweithrediad gwybyddol uwch a gwell cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol. Yn aml, gall plant sy'n medru troi o un iaith i'r llall ddatblygu dulliau mwy hyblyg o feddwl drwy broblemau.
Bydd eich awdurdod lleol yn rhannu â chi fanteision dewis gofal plant cyfrwng Cymraeg, a byddwch yn gallu mynd i sesiynau Ti a Fi.
Mae canllawiau lleferydd, iaith a chyfathrebu Dechrau'n Deg yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am fanteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, gan gynnwys y sylfaen dystiolaeth ar gyfer nodi a chefnogi plant dwyieithog ac amlieithog sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.
Pam y gallai fod angen ichi symud eich plentyn (i dderbyn Gofal Plant Dechrau'n Deg am ddim) os ydynt wedi setlo mewn lleoliad gofal plant
Os ydych yn byw mewn ardal a fydd bellach yn cael ei chyfrif yn un o'r ardaloedd cymwys yn sgil ehangu gofal plant Dechrau'n Deg, a'ch bod yn defnyddio lleoliad gofal plant nad yw wedi'i gofrestru eto i ddarparu gofal Dechrau'n Deg, efallai y bydd angen ichi newid darparwr i gael gofal plant am ddim drwy leoliad Dechrau'n Deg, neu efallai y bydd eich darparwr presennol yn dymuno gwneud cais i ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg.
Cefnogaeth i'ch plentyn pan fydd yn troi'n 3 oed
Bydd plentyn sy'n cael gofal plant Dechrau'n Deg yn gallu trosglwyddo (drwy wneud cais) i elfen addysg gynnar y Cynnig Gofal Plant pan fydd yn cyrraedd yr oedran perthnasol. Y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed fydd hyn fel arfer. Fodd bynnag, mae'r union amseriad yn wahanol rhwng y naill awdurdod lleol a'r llall.
Bydd plant rhieni cymwys sy'n gweithio, a phlant rhai rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant, hefyd yn gallu manteisio ar elfen gofal plant y Cynnig Gofal Plant o'r pwynt hwn. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen ymgyrch Cynnig Gofal Plant Cymru.
Gall teuluoedd sy'n derbyn elfen gofal plant yn unig o dan Dechrau'n Deg gael mynediad at wasanaethau cymorth eraill os oes angen
Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am benderfynu sut y byddant yn sicrhau bod gan deuluoedd fynediad at y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt. Os yw teulu yn cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg a bod angen cymorth pellach drwy Dechrau'n Deg, mae gan awdurdodau lleol rywfaint o hyblygrwydd i ddefnyddio'r polisi Allgymorth i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at Dechrau'n Deg y tu allan i'r ardaloedd dynodedig. Efallai y bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu cynnig cymorth pellach drwy raglenni cymorth eraill fel Teuluoedd yn Gyntaf.
Cymorth Magu Plant
Cynigir cymorth magu plant i deuluoedd sy'n gymwys ar gyfer pob un o bedair elfen rhaglen Dechrau'n Deg, lle bo hynny'n briodol. Gall hyn fod yn gymorth ffurfiol neu anffurfiol.
Mae gwasanaethau cymorth magu plant ar gael i bob teulu sydd eu hangen drwy'r awdurdod lleol. Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Mae canllawiau pellach ar gael yma hefyd:
Mae Magu Plant - rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol am ddim a chyngor arbenigol ynghylch eich holl heriau fel rhiant
Siarad gyda fi
Yr amcan yw cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed
Rydym yn disgwyl cefnogi mwy na 9,500 yn fwy o blant dwy flwydd oed ledled Cymru i gael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg o safon am ddim yn ystod 2023-24 a 2024-25.
Mae man cychwyn pob awdurdod lleol yn wahanol a byddant yn wynebu heriau gwahanol. Bydd daearyddiaeth a demograffeg pob awdurdod lleol, yn ogystal â chapasiti'r sector gofal plant i gynnig darpariaeth Dechrau'n Deg, yn golygu y bydd y rhaglen yn dilyn amserlenni amrywiol ledled Cymru.
Dechreuodd y gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ym mis Ebrill 2023, ond bydd yn cymryd amser i feithrin capasiti o fewn y sector.
Pam mae pob awdurdod lleol wedi derbyn cyllid ychwanegol i ehangu Dechrau'n Deg
Rydym am i bob awdurdod lleol gael cymorth ariannol i ddechrau ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg wrth inni weithio tuag at ddarpariaeth gyffredinol. Drwy wneud hynny, caiff ei ehangu mewn ffordd deg a systematig ledled Cymru.
Dim ond mewn rhai ardaloedd y mae rhaglen lawn/graidd Dechrau'n Deg ar gael
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen sydd wedi'i thargedu'n ddaearyddol gyda'r nod o ddarparu gwell gwasanaethau i rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn defnyddio data am fudd-daliadau incwm, dangosydd procsi ar gyfer tlodi, i dargedu ardaloedd lle mae'r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed yn byw mewn aelwydydd sy’n cael budd-dal incwm. Nodwyd yr ardaloedd hyn drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a data o'r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Mae’r data hyn wedi’u trefnu ar sail Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.
Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio'r wybodaeth leol, ynghyd â ffynonellau gwybodaeth eraill, i sicrhau bod budd ehangu gofal plant Dechrau'n Deg yn cyrraedd y teuluoedd hynny sydd mewn angen.
Penderfynir sut i fynd ati i ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg ar sail ystod o wybodaeth
Mae'r cynlluniau ehangu yn canolbwyntio ar gyrraedd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ym mhob awdurdod lleol yn gyntaf. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio data am fudd-daliadau incwm, dangosydd procsi ar gyfer tlodi, i dargedu ardaloedd lle mae'r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed yn byw mewn aelwydydd sy’n cael budd-dal incwm. Nodwyd yr ardaloedd hyn drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a data o'r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Mae’r data hyn wedi’u trefnu ar sail Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.
Mae'r dull lefel uchel hwn o dargedu cymorth yn parhau i fod yn addas i'r diben, mae'n dryloyw, ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn o ran pam y dylai ardal benodol fod yn rhan o gynlluniau ehangu gofal plant Dechrau'n Deg awdurdod lleol, a pham na ddylai ardaloedd eraill.
Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i roi gwybodaeth ynghylch pryd y bydd gofal plant Dechrau'n Deg ar gael yn eu hardaloedd nhw. Gall pob awdurdod lleol fod yn hyblyg i ryw raddau o fewn rhaglen Dechrau'n Deg a chynnig cefnogaeth drwy Allgymorth. Mae Allgymorth yn galluogi teuluoedd anghenus sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Gellir dod o hyd i dîm eich awdurdod lleol chi yma: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae Cymru wedi dilyn llwybr gwahanol i Loegr
Mae'r dull gweithredu hwn yn rhan o weledigaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ac yn cyfrannu ati. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a gweithredu dull cyson o ddysgu a datblygu, drwy ddarparu cyfleoedd gofal plant ac addysg o ansawdd sy'n seiliedig ar chwarae, er mwyn helpu i ddatblygu anghenion cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a chorfforol babanod a phlant ifanc, yn ogystal â'u lles a'u gallu i ffynnu.
Am ragor o wybodaeth, gweler Canllawiau Dechrau'n Deg.
Nid yw'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3–4 oed yn cael ei ddefnyddio i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal i bob plentyn dwy flwydd oed
Gan mai un o nodau trosfwaol y rhaglen ehangu hon ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd, Dechrau'n Deg yw'r cyfrwng mwyaf priodol i'w chyflawni. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym bod gofal plant o ansawdd yn sicrhau manteision hirdymor i'n plant ac yn cael dylanwad mawr ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Gall y gofal plant cywir helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau dyfnach sy'n deillio o fyw mewn amddifadedd, gan gynnwys sgiliau isel ac iechyd gwael a fydd yn cymryd amser i'w goresgyn.
Mae lleoliadau Dechrau'n Deg yn rhoi cryn bwyslais ar sicrhau bod trefniadau pontio cadarn ar waith i gefnogi plant rhwng y cartref a'r lleoliad gofal, ac wrth i'r plentyn symud ymlaen i addysg gynnar.
Mae'r ehangu yn dod o dan enw Dechrau'n Deg er ei fod yn canolbwyntio ar elfen gofal plant y rhaglen
Gan mai un o nodau trosfwaol y gwaith ehangu hwn ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd, rhaglen Dechrau'n Deg yw'r cyfrwng mwyaf priodol i'w gyflawni. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym bod gofal plant o ansawdd yn sicrhau manteision hirdymor i'n plant ac yn cael dylanwad mawr ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Gall y gofal plant cywir helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau dyfnach sy'n deillio o fyw mewn amddifadedd, gan gynnwys sgiliau isel ac iechyd gwael a fydd yn cymryd amser i'w goresgyn. Dyma pam mae gofal plant am ddim i blant 2 oed yn cael ei ehangu drwy leoliadau Dechrau'n Deg.