Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfeydd.
Cynnwys
Y cefndir
Rhowch ychydig o'ch amser i ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd a'n rhesymau dros gasglu a phrosesu'r data rydym yn eu casglu oddi wrthych.
Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd y data personol y byddwch yn eu darparu.
Y data rydyn ni’n eu casglu oddi wrthych
Gan ddibynnu ar y drwydded rydych yn gwneud cais amdani, bydd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu ac yn ei chadw o'ch cais yn cynnwys eich:
- enw
- cyfeiriad
- rhif ffôn neu ffôn symudol
- cyfeiriad e-bost
- rhif yswiriant gwladol
- tystiolaeth am y cyrsiau Iechyd a diogelwch sy'n ofynnol
- tystiolaeth o'ch cyfeiriad cartref
- ID ffotograffig
Weithiau, lle gwneir cais am drwydded â ffoto, byddwn hefyd yn casglu ffotograffau maint pasbort.
Pam ein bod yn casglu’ch data
Mae angen prosesu'ch data er mwyn i Lywodraeth Cymru allu gwneud ei thasg gyhoeddus ac arfer ei hawdurdod swyddogol am y Môr a Physgodfeydd yng Nghymru.
Pwrpas casglu'r data yw i Lywodraeth Cymru allu rhoi i chi'r trwyddedau pysgodfeydd rydych yn gofyn i Lywodraeth Cymru amdanynt.
Mae angen eich manylion cysylltu er mwyn i ni allu anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch am agor a chau pysgodfeydd, ac unrhyw wybodaeth bwysig arall yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i reoli pysgodfeydd cynaliadwy yn ddiogel.
Defnyddir ffurflenni dalfeydd i'n helpu i fonitro'r bysgodfa wrth i ni arfer ein dyletswydd swyddogol ac i ddiogelu hyfywedd y pysgodfeydd dan sylw yn y dyfodol.
Rhannu’ch data
Gellir rhannu'r wybodaeth a gasglwn gyda sawl adran yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymhlith eraill, Gwyddorau Pysgodfeydd, Rheoli Pysgodfeydd a Gorfodaeth Pysgodfeydd, at ddibenion busnes morol a physgodfeydd.
Ni fydd gweinyddwyr systemau technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
Lle bo angen, gallai'ch gwybodaeth gael ei rhoi i Gyrff Statudol megis, ymhlith eraill, Awdurdodau Lleol neu'r Awdurdod Trwyddedu Meistri Gangiau, er mwyn iddynt allu cysylltu â chi ynghylch materion sy'n ymwneud â rheoleiddio gweithgaredd pysgota.
Gall asiantaethau sydd wedi'u hawdurdodi gan Lywodraeth Cymru weld eich data, at ddibenion dilysu'ch bod yn gymwys am grantiau ariannol, busnes neu iechyd a diogelwch.
Mae cytundeb rhannu data yn bodoli rhwng y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) a'r Gweinyddiaethau Datganoledig i gefnogi'r gwaith o gyflawni swyddogaethau statudol a deddfwriaeth genedlaethol sy'n ymwneud â rheoli gweithgarwch pysgota a gwaith gorfodi cysylltiedig mewn pysgodfeydd.
Bydd data dienw am ddalfeydd yn cael eu rhannu â sefydliadau gwyddonol a benodir gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi patrymau a thueddiadau all fod o gymorth i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy.
Cyfnod cadw
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'ch data personol am 4 blynedd o'r dyddiad y daw'r drwydded ddiwethaf a roddwyd i ben.
Ar ôl hynny, caiff eich data personol eu dileu a byddwn yn gwneud y data am eich dalfeydd yn ddienw yn unol ag arfer gorau, a byddwn yn eu defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:
- gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch gwybodaeth chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn i gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddwch, a hynny fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn gofyn ichi am eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.
Newidiadau i'r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn unrhyw bryd a bydd yn rhoi gwybod ichi ar unwaith am unrhyw newid.
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau â gwybodaeth:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ