Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 yw'r chweched mewn cyfres o arolygon cyflogwyr ar raddfa fawr ledled y DU sy'n darparu ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y farchnad lafur ar yr heriau sgiliau sy'n wynebu cyflogwyr a lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a datblygiad.
Cynhaliwyd Arolwg 2022 ar ôl pandemig COVID-19. Yn y cyfnod hwn, mae Cymru, y DU, a'r economi fyd-eang wedi wynebu heriau economaidd digynsail. Mae'r data hwn yn werthfawr o ran deall sefyllfa ddiweddar y farchnad lafur i gyflogwyr a dangos sut mae pethau wedi newid dros amser. Fe wnaeth 4,825 o gyflogwyr yng Nghymru gymryd rhan yn Arolwg 2022 (gyda 72,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg ledled y DU). Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng Mehefin 2022 a Mawrth 2023.
Adroddiadau
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 (adroddiad Cymru) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr, 2022 (adroddiad Cymru) canlyniadau craidd: pecyn sleidiau Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 825 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 (adroddiad Cymru): tablau data , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Jacqueline Aneen Campbell
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.